Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gan fod heddiw yn Ddiwrnod Rhyngwladol Clefydau Prin, hoffwn roi diweddariad ar y cynnydd sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru a Gweithrediaeth y GIG i wella bywydau pobl yng Nghymru sy'n byw gyda chlefydau prin. 

Gall clefydau prin gyfyngu ar fywyd yn ogystal â bod yn fygythiad i fywyd yr unigolyn. Amcangyfrifir bod mwy na 7,000 o glefydau prin ar hyn o bryd, gyda chyflyrau newydd yn cael eu nodi'n barhaus wrth i waith ymchwil ddatblygu. Amcangyfrifir bod clefydau prin yn effeithio ar 170,000 o bobl yng Nghymru, ac amcangyfrifir bod gan 80% o'r cyflyrau hyn ran enetig iddynt. Er bod clefydau prin yn brin yn unigol, maent yn gyffredin ar y cyd, a bydd clefyd prin yn effeithio ar 1 o bob 17 o bobl ar ryw adeg yn ystod ei oes. 

Yn 2023, cafodd Gweithrediaeth GIG Cymru ei sefydlu. O dan y sefydliad newydd hwn, bydd y Grŵp Gweithredu ar Glefydau Prin yn datblygu'n Rhwydwaith Gweithredu ar Glefydau Prin i Gymru. Mae'r nod a'r pwrpas yn parhau yr un fath, sef dod â phartneriaid cyflawni ynghyd i ddatblygu a monitro fersiwn Cymru o'r cynllun gweithredu newydd. 

Cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu Clefydau Prin Cymru ym mis Ionawr 2024, ochr yn ochr ag adroddiad cynnyddchylchlythyr iechyd Cymru. Mae'r cynllun yn gosod fframwaith clir ar gyfer bwrw ymlaen â gwelliannau, ac mae'n tynnu sylw at y cynnydd sylweddol a wnaed o fewn gwasanaethau. Crëwyd y cynllun yn unol â Fframwaith Clefydau Prin y DU 2021 sy'n nodi'r blaenoriaethau allweddol ar gyfer clefydau prin ac sy'n creu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, a gwelliannau i ansawdd a mynediad at ofal, er mwyn gwella bywydau pobl sy'n byw gyda chlefydau prin. 

Rwy'n falch o allu cytuno ar gynllun cyllid ychwanegol i’r Clinig Syndrom Heb Enw (SWAN) yng Nghaerdydd ar gyfer 2024/25. Mae'r clinig wedi ennyn diddordeb rhyngwladol yn ei waith, gan alluogi Cymru i ddod yn arweinydd ym maes darpariaeth gwasanaethau clefydau prin. Mae'r clinig yn cyffwrdd â phob blaenoriaeth yn y cynllun gweithredu ar glefydau prin: cael diagnosis cyflymach, cynyddu ymwybyddiaeth o glefydau prin ymysg gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, cydgysylltu gofal, a darparu mynediad gwell at ofal arbenigol. Rwy'n edrych ymlaen at weld canlyniadau'r gwaith pwysig hwn.

Rwy'n ddiolchgar am ymrwymiad parhaus pawb sy'n helpu i wella gwasanaethau drwy gyflwyno gwelliannau a ysgogir gan y cynllun gweithredu, yn ogystal â'r ymgyrch i eirioli dros y rhai yng Nghymru na allant siarad drostynt eu hunain. 

Byddwn yn parhau i gefnogi'r rhwydwaith gweithredu ar glefydau prin mewn perthynas ag amcanion y cynllun gweithredu i helpu cleifion i gael diagnosis terfynol yn gyflymach a chynyddu ymwybyddiaeth o glefydau prin ymysg gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.