Neidio i'r prif gynnwy

Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ddydd Sul, 24 Medi, mynychais ddigwyddiad Coffa Cenedlaethol yr Heddlu yn y Theatr Newydd yng Nghaerdydd gan roi darlleniad yno.

Mae’r digwyddiad blynyddol pwysig hwn, a gynhelir gan Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr, yn fodd i gofio am swyddogion heddlu sydd wedi’u lladd neu wedi marw wrth eu gwaith. Mae’r digwyddiad yn ein helpu ni i gydnabod dewrder ac ymroddiad swyddogion heddlu, a thalu teyrnged iddynt. Yn benodol, mae’n ein galluogi ni i gydnabod yr aberth a wnaed gan swyddogion a fu farw wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau.

Cafodd y digwyddiad ei gynnal yn dilyn Gwobrau Dewrder Heddlu Cymru a Lloegr a gynhaliwyd fis Gorffennaf. Cefais y fraint o gyflwyno’r wobr i’r enillydd o Gymru yn y gwobrau hynny. Mae’r digwyddiad blynyddol yn gyfle i bob heddlu enwebu swyddogion sydd wedi cyflawni gweithredoedd o ddewrder eithriadol a hynny wrth eu gwaith neu y tu allan i’w horiau gwaith. Cefais y cyfle i gyfarfod â rhai o’r enwebeion o Gymru eto yr wythnos diwethaf.

Mae’r ddau ddigwyddiad yn fodd i’n hatgoffa o’r cyfraniad enfawr y mae swyddogion heddlu ledled Cymru yn ei wneud i’w cymunedau. Ar adeg pan fo ffydd a hyder ym maes plismona wedi bod o dan y chwyddwydr, roedd yn brofiad calonogol cael cydnabod yr effaith gadarnhaol a gyflawnir gan gymaint o swyddogion a staff yr heddlu ledled Cymru.

Yn ystod Gwobrau Dewrder yr Heddlu, cefais gyfarfod â Bryn Hughes MBE sef tad Nicola Hughes, swyddog heddlu Manceinion Fwyaf a gafodd ei lladd wrth ymateb i alwad 999 ffug ym mis Medi 2012. Yn 2022, lansiodd Mr Hughes ymgyrch i Groes Elizabeth gael ei rhoi, ar ôl eu marwolaeth, i weithwyr y gwasanaethau brys sy’n cael eu lladd wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau.

Cefais gyfarfod â Mr Hughes eto yr wythnos diwethaf i glywed rhagor am ei ymgyrch. Drwy’r datganiad ysgrifenedig hwn, hoffwn gofnodi cefnogaeth a chymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i’w ymgyrch Medalau i Arwyr a fu Farw a fydd yn cydnabod yr aberth a wneir gan weithwyr y gwasanaethau brys gan gynnwys staff ambiwlansys, swyddogion heddlu ac aelodau o’r gwasanaethau tân ac achub.