Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ddydd Sul 28 Medi, es i ddigwyddiad Coffa'r Heddlu yn Eglwys Gadeiriol Coventry.

Mae'r digwyddiad blynyddol pwysig hwn, a gynhelir gan Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr, yn ddiwrnod i gofio swyddogion heddlu sydd wedi cael eu lladd neu wedi marw wrth gyflawni eu dyletswydd. Mae'n ein helpu i gydnabod a thalu teyrnged i ymroddiad, dewrder ac aberth yr Heddlu a'u teuluoedd. Roedd yn anrhydedd cwrdd â theuluoedd swyddogion o Gymru sydd wedi colli eu bywydau wrth eu gwaith.

Roedd y digwyddiad yn dilyn Gwobrau Dewrder Heddlu Cymru a Lloegr ym mis Gorffennaf, lle cefais y fraint o gyflwyno gwobr i'r enillwyr o Gymru. Mae'r digwyddiad blynyddol yn gyfle i bob llu gynnig swyddogion sydd wedi cyflawni gweithredoedd neilltuol o ddewrder, pan oeddent ar ddyletswydd neu pan nad oeddent. 

Mae'r ddau ddigwyddiad yn ein hatgoffa o'r cyfraniad enfawr y mae swyddogion heddlu ledled Cymru yn ei wneud i'w cymunedau. Roeddwn yn falch o gael siarad â'r Ysgrifennydd Cartref a'r Gweinidog Plismona a Throseddu sydd newydd eu penodi, ac roedd yn galondid cydnabod yr effaith gadarnhaol a gafodd cymaint o swyddogion heddlu a staff ledled Cymru.