Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rydym yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost 2021: pen-blwydd rhyddhau Auschwitz a'r diwrnod coffa blynyddol ar gyfer y rhai a laddwyd yn yr Holocost, ac mewn hil-laddiadau ers hynny.

Y thema eleni yw 'Bydd yn llusern yn y tywyllwch.' Mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost yn annog pob cartref ledled y DU i gynnau cannwyll yn eu ffenestr am 8:00pm heno. Gwnawn hyn i gofio dioddefwyr a goroeswyr hil-laddiad, ac i dywynnu golau yn erbyn casineb a rhagfarn sy'n achosi rhaniadau yn ein cymunedau heddiw.

Mae cynnau cannwyll yn weithred symbolaidd o bositifrwydd a charedigrwydd y gall pob un ohonom ei chyflawni. Mae hwn yn parhau i fod yn gyfnod anodd i bobl ledled Cymru a gall darllen y newyddion neu'r cyfryngau cymdeithasol roi'r argraff ein bod yn gymdeithas fwy rhanedig nag erioed. Fodd bynnag, rydyn ni wedi gweld ysbryd a gwydnwch cymunedol trawiadol, lle mae pobl wedi uno a chefnogi ei gilydd er gwaethaf yr amgylchiadau difrifol.

Yn ystod y pandemig rydyn ni wedi parhau i gynnal ein Harolwg Cenedlaethol, gan ofyn i aelodau'r cyhoedd roi eu barn i ni ar lawer o faterion sy'n effeithio ar eu bywydau bob dydd, gan gynnwys cydlyniant cymunedol. Ni fu cyfran y bobl a ddywedodd eu bod yn cytuno bod pobl yn eu hardal yn trin ei gilydd â pharch yn uwch erioed.

Serch hynny, rydyn ni hefyd wedi gweld lefelau uwch o droseddau casineb nag erioed o'r blaen. Efallai bod y ddau ganfyddiad hwn yn ymddangos yn anghyson ond dydyn nhw ddim. Mae cyfran fach iawn o'r gymuned yn cyflawni troseddau casineb a bydd yn parhau i wneud hynny oni bai bod y gymdeithas ehangach yn sefyll yn eu herbyn, ochr yn ochr â dioddefwyr. Ymhen ychydig wythnosau, bydd Llywodraeth Cymru yn lansio ein hymgyrch yn erbyn troseddau casineb, 'Mae Casineb yn Brifo Cymru'. Mae'r ymgyrch yn ein hannog ni i gyd i fynd i'r afael â chasineb a chydnabod bod ein cymdeithas hefyd yn cael ei niweidio pan fydd unrhyw un yn cael ei dargedu oherwydd ei hunaniaeth. Dylai'r lefelau uwch o gydlyniant a welwn yn nata'r Arolwg Cenedlaethol roi hyder i ni, a gobeithio y gallwn i gyd sefyll yn erbyn casineb a bod yn llusern yn y tywyllwch.

Ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cefnogi Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i godi ymwybyddiaeth o'u gwaith gwerthfawr ac yn annog pobl i gymryd rhan ar y diwrnod hollbwysig hwn. Cynhelir y Foment Genedlaethol Goleuo'r Tywyllwch yn dilyn seremoni Diwrnod Cofio Holocost 2021 y DU heno am 7:00pm, a bydd yn cael ei ffrydio ar-lein. Gobeithiwn y gall pobl o bob cwr o Gymru wylio'r seremoni heno ac yna gynnau cannwyll fel rhan o'r foment  goffa hon ledled y DU. Bydd seremoni wedi'i recordio ar gyfer Cymru hefyd ar gael ar-lein o 11:00am heddiw ar sianel YouTube Cyngor Caerdydd.

Rydym yn parhau i fod yn wyliadwrus o’r rhethreg sy'n parhau i geisio rhannu ein cymunedau drwy ofn a gwybodaeth anghywir, ac rydym yn mynd i'r afael â hyn drwy waith fel ein Grant Troseddau Casineb ar gyfer Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig, y Rhaglen Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol, a'r ymgyrch arfaethedig ar y cyfryngau yn erbyn troseddau casineb, 'Mae Casineb yn Brifo Cymru'. Rhaid inni beidio byth â cholli golwg ar darddiad erchyllterau fel yr Holocost, a chanlyniadau arswydus peidio â herio casineb a chaniatáu i ragfarn fwrw’i wreiddiau yn ein bywyd beunyddiol.