Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, mae mwy na 100 o wledydd o bob cwr o’r byd yn dathlu Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2017. Diwrnod ymwybyddiaeth fyd-eang yw hwn i hyrwyddo arferion da o ran diogelwch ar-lein a rhoi cyngor a chanllawiau ynglŷn â’r peryglon sy’n deillio o ddefnyddio technolegau newydd megis y cyfryngau cymdeithasol, a sut i aros yn ddiogel wrth eu defnyddio.  

Fel y sefydliad sy’n arwain ar ddiogelwch ar-lein yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg gan blant, pobl ifanc ac athrawon. Mae’r diwrnod yn gyfle inni gynyddu ymwybyddiaeth o’r hyn rydym yn ei wneud yng Nghymru i ddiogelu ein dysgwyr ar-lein ac i bwysleisio defnydd cyfrifol o dechnoleg mewn ysgolion a cholegau, yn ogystal ag yn y cartref.  

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cynyddu’n sylweddol ein buddsoddiad mewn gweithgareddau diogelwch ar-lein i £170,000 y flwyddyn er mwyn cyflwyno hyfforddiant i oddeutu 2,300 o ymarferwyr a chynyddu nifer yr ysgolion sy’n defnyddio’r adnodd e-ddiogelwch 360 degree safe Cymru. Mae gan ein Fframwaith Cymhwysedd Digidol, a gyhoeddwyd ym mis Medi, ran arbennig ar ddinasyddiaeth ddigidol er mwyn datblygu sgiliau o ran ymddwyn yn gyfrifol ar-lein.  

Heddiw, hefyd, byddaf yn lansio Parth Diogelwch Ar-lein newydd ar Hwb, sef platfform dysgu digidol Cymru. Mae’r Parth wedi cael ei ddatblygu i gefnogi athrawon, rhieni a dysgwyr yn y maes hollbwysig hwn. Bydd y parth neilltuol hwn yn cynnwys newyddion, erthyglau a nifer o adnoddau ar amrywiaeth o faterion diogelwch ar-lein i helpu i gadw dysgwyr yn ddiogel.  Bydd hefyd yn cyfeirio pobl sy’n delio ag effeithiau bwlio ar-lein neu unrhyw faterion o ran diogelwch ar-lein at wasanaethau cymorth priodol.

I nodi Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, fe wnaethom gynnal cystadleuaeth i ddylunio logo ar gyfer y Parth Diogelwch Ar-lein newydd.  Roeddem yn falch iawn o gael 125 o geisiadau a hoffwn ddiolch i’r holl ysgolion a’r bobl ifanc a gymerodd ran.

Ymhlith yr ysgolion yn y rownd derfynol oedd Ysgol Wirfoddol Eglwysig y Model, Ysgol Arbennig Portfield, Ysgol Penrhyn-coch ac Ysgol Gyfun Bryn Celynnog. Mae’r ysgolion a gyrhaeddodd y rownd derfynol wedi cael eu gwahodd i ddod i’r digwyddiad ‘Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, Cadw Dysgwyr Ar-lein yn Ddiogel’. Yno, caiff yr holl geisiadau eu harddangos a byddaf yn cyhoeddi’r logo buddugol.

Rydym hefyd wedi cefnogi The UK Safer Internet Centre i lansio pecynnau addysg dwyieithog ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel. Bydd y pecynnau, sydd ar gael ar Hwb, yn helpu athrawon i nodi’r diwrnod  ac maent eisoes wedi cael eu gweld dros 4000 o weithiau.

Nid oes dim yn fwy pwysig na diogelwch ein pobl ifanc ac mae’n galonogol gweld bod ymarferwyr ledled Cymru hefyd yn ystyried hyn yn flaenoriaeth ac yn lawrlwytho’r adnoddau sydd ar gael ar Hwb.

Yn fwy cyffredinol dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr athrawon a’r dysgwyr sy’n ymweld â phlatfform Hwb. Ar ôl mewngofnodi, maent yn gallu defnyddio adnoddau ar gyfer yr ystafell ddosbarth, creu a rhannu cynlluniau gwersi, dechrau fforymau trafod a defnyddio platfform rhith-ddysgu eu hysgolion eu hunain drwy blatfform Hwb+.  Mae ffigurau mwyaf diweddar Hwb, o fis Ionawr, yn dangos y mewngofnodwyd i’r platfform mwy na 640,000 o weithiau, sy’n cyfateb i 21,000 y dydd, a bod tudalennau’r platfform wedi cael eu gweld mwy na 2.6 miliwn o weithiau.

Mae natur unigryw a llwyddiant Hwb yn denu sylw sefydliadau ar draws y byd. Yn sioe dechnoleg addysgol ryngwladol BETT yn Llundain yn ddiweddar, croesawodd Llywodraeth Cymru dros 400 o ymwelwyr i’w stondin i glywed am ein hymagwedd genedlaethol nodedig at ddysgu digidol.  Bydd swyddogion o Lywodraethau a sefydliadau eraill sy’n cefnogi addysg yn ymweld â Chymru i ddysgu mwy am ein profiadau. Rwyf wrth fy modd ein bod ar flaen y gad drwy annog arloesedd yn y ffordd y mae ein hathrawon yn addysgu a’n dysgwyr yn dysgu.  Byddaf yn rhoi diweddariad ichi ar sut y mae platfform Hwb yn datblygu yn y dyfodol i drawsnewid ein hystafelloedd dosbarth a chadw Cymru ar flaen y gad o ran addysg a arweinir gan dechnoleg.

<?XML:NAMESPACE PREFIX = "O" />