Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw byddwn yn nodi 75 mlwyddiant y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol yng Nghymru yn ein digwyddiad coffa yn y Deml Heddwch, Caerdydd.

Ar 10 Rhagfyr 1948, daeth 50 o wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig at ei gilydd i fabwysiadu'r Datganiad Cyffredinol. Roedd yr ymrwymiad pwysig hwn yn sefydlu hawliau sylfaenol a rhyddid i bawb mewn cyfraith ryngwladol, gan gynnwys yr hawl i gyfiawnder cyfartal, cyfle cyfartal ac urddas cyfartal i bawb. Mae’r holl gytuniadau hawliau dynol rhyngwladol yn seiliedig ar y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, gan gynnwys y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yr ydym yn ei adnabod a'i werthfawrogi heddiw. 

Mae hawliau dynol yn rhan annatod o DNA Llywodraeth Cymru - mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn dweud yn glir na ddylai Gweinidogion Cymru wneud unrhyw beth sy'n anghydnaws â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Rydym wedi gweld hawliau dynol yn y penawdau eleni - rhoddwyd y gorau i Fil Deddf Hawliau Llywodraeth y DU, diolch byth, yn yr haf, ac yn fwy diweddar cafwyd penderfyniad unfrydol yn y Goruchaf Lys fod Cynllun Rwanda Llywodraeth y DU yn anghyfreithlon ac yn anghydnaws â hawliau dynol.

Yng Nghymru, rydym ar drywydd gwahanol. Rydym yn parhau i osod hawliau dynol i bawb wrth galon ein gwaith. Rydym yn parhau yn ein hymdrechion i fod yn Genedl Noddfa yn y gwaith a wnawn i groesawu'r rhai sy'n ffoi rhag erledigaeth, rhyfel neu droseddau yn erbyn hawliau dynol.

Wrth i ni ddathlu hawliau dynol, rydym yn cofio na ddylem eu cymryd yn ganiataol. Mae ein gwaith i gefnogi ceiswyr lloches yn dangos beth all fynd o'i le pan nad oes fframwaith hawliau dynol cryf ar waith. Mae gwrthdaro ledled y byd yn dangos pam y dylem goleddu'r fframwaith hawliau dynol sydd gennym a gwneud yn glir bod hawliau dynol yn berthnasol i bawb. 

Rydym yn hyrwyddo hawliau dynol drwy gyflawni ystod eang o bolisïau a chynlluniau, gan gynnwys ein Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, ein Cynllun LHDTC+ a gwaith ein Tasglu Hawliau Pobl Anabl. Mae hawliau dynol yn ymhlyg yn y camau yr ydym yn eu cymryd.

Ar y 75 mlwyddiant arbennig hwn, rydym yn ailddatgan ein hymrwymiad i gydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru ac yn cydnabod cysylltiadau’r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol gyda’r Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod ac 16 diwrnod o weithredu yn arwain at y Diwrnod Hawliau Dynol.