Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar y diwrnod hwn, bob blwyddyn, rydym yn nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr a'n hymrwymiad i sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael y gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth y maent yn eu haeddu. Mae gofalwyr di-dâl yn chwarae rhan hanfodol wrth ofalu am aelodau'r teulu, cymdogion ac eraill yn ein cymunedau y mae arnynt angen gofal a chymorth ychwanegol.

Mae gofalwyr di-dâl yn ymroi i gefnogi'r rhai y maent yn eu caru ac yn gofalu amdanynt. mae sicrhau eu bod hwythau, yn eu tro, yn gallu cael gafael ar y cymorth y mae arnynt ei angen, ar yr adeg iawn, yn helpu i gefnogi eu llesiant ac yn cydbwyso'r gofynion dyddiol ar eu bywydau.

Mae'r argyfwng costau byw wedi cael effaith sylweddol ar ofalwyr di-dâl, y mae eu gallu i weithio y tu allan i'r cartref yn aml yn gyfyngedig. Mae'r Lwfans Gofalwyr yn cael ei bennu gan Lywodraeth y DU. Rwyf yn parhau i godi fy mhryderon ynghylch lefel y lwfans a'r rheolau sy'n gysylltiedig â hi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £2.75m ar gyfer y Gronfa Gymorth i Ofalwyr ar gyfer 2022-24, sydd wedi galluogi 24,000 o ofalwyr di-dâl, hyd yn hyn, i gael mynediad at grant bach neu wybodaeth a chyngor ariannol.

Mae'r awdurdodau lleol a'r byrddau iechyd yn gweithio gyda ni i leddfu'r pwysau ar ofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd a all fod yn rhwystr i ofalwyr di-dâl gael gafael ar gymorth pan fydd arnynt ei angen.  Rydym wedi darparu £1m o gyllid ychwanegol eleni i'r byrddau iechyd i sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael gwybodaeth a chanllawiau pan fydd y person y maent yn gofalu amdano yn cael ei dderbyn i'r ysbyty neu ei ryddhau o'r ysbyty. Mae hwn yn amser hanfodol i sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael y cymorth y mae arnynt ei angen. 

Mae helpu pobl i gydnabod eu bod yn ofalwyr di-dâl yn gam cyntaf pwysig i gael gwybod am hawliau, hawlogaethau a chymorth y gallant gael mynediad atynt. Yn yr un modd, mae'n rhaid i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol fod yn gyfan gwbl ymwybodol o anghenion a hawliau gofalwyr. Rydym wedi parhau i ariannu Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i ddarparu adnoddau a hyfforddiant i weithwyr proffesiynol.

Mae ein Siarter ar gyfer gofalwyr di-dâl yn amlinellu hawliau gofalwyr o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae gan ofalwyr di-dâl yr hawl i gael asesiad o'u hanghenion eu hunain.

Un o'n blaenoriaethau allweddol yw i ofalwyr di-dâl gael mwy o gyfleoedd i ofalu am eu hiechyd a'u llesiant. Rydym yn darparu cyllid ychwanegol i gefnogi hyn, ac i ofalwyr di-dâl allu cymryd seibiant o'u rôl fel gofalwyr. Rydym wedi buddsoddi £6m ers 2022 yn y gronfa seibiant byr i alluogi 30,000 o ofalwyr ychwanegol i gymryd seibiant i ymlacio, cymdeithasu neu ddilyn gweithgareddau sydd wedi'u teilwra i'w diddordebau.

Roeddwn yn falch ein bod wedi gallu cefnogi'r ail ŵyl gofalwyr ifanc ym mis Awst 2023. Rydym yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael eu cydnabod ym myd addysg a bod y cynllun cerdyn adnabod cenedlaethol ar gyfer gofalwyr ifanc yn cael ei ddefnyddio'n gyson ledled Cymru. Rydym yn parhau i edrych ar ffyrdd o sicrhau bod hawliau gofalwyr ifanc yn cael eu cydnabod a'u parchu orau.