Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan, AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw yw Diwrnod Hawliau Gofalwyr – sef diwrnod i gydnabod cyfraniad y miloedd o ofalwyr di-dâl ym mhob rhan o Gymru, a thalu teyrnged iddynt. Eleni, yn fwy nag erioed o’r blaen, mae gofalwyr di-dâl wedi cefnogi ein system iechyd a gofal cymdeithasol, a’i helpu i ymdopi wrth iddi ymateb i argyfwng iechyd cyhoeddus digynsail. Fodd bynnag, rwy’n cydnabod bod y pandemig hefyd wedi effeithio’n fawr ar lesiant y gofalwyr eu hunain.

Mae hyrwyddo ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr yn gallu eu helpu i barhau â’u bywydau eu hunain, ochr yn ochr â chyflawni eu rôl ofalu, waeth beth yw eu hoedran, eu hamgylchiadau, neu eu cefndir. Rwy’n awyddus i weithio gyda gofalwyr a’u cynrychiolwyr i sicrhau eu bod yn cael y cymorth y maent yn ei haeddu – mae’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun cenedlaethol newydd ar gyfer gofalwyr ar agor tan 20 Ionawr. Rydym yn bwriadu defnyddio’r cynllun terfynol i egluro sut y byddwn yn gweithio gyda gwahanol bartneriaid i gryfhau ein blaenoriaethau strategol presennol er mwyn iddynt adlewyrchu’n gywir bob agwedd ar fywyd gofalwyr.

Wrth ofalu am rywun, mae angen y gallu i gyflawni llawer o dasgau cymhleth megis rheoli cyllid a chyfathrebu’n effeithiol mewn gwahanol sefyllfaoedd. Mae’r sgiliau hyn yn bwysig, ac yn aml ni fydd y gofalwr di-dâl yn cydnabod eu gwerth yn llawn wrth fynd ati i chwilio am swydd neu newid ei rôl. Rwy’n falch bod Gofalwyr Cymru, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, yn lansio fersiwn ddwyieithog o’i chynllun Dysgu ar gyfer Byw heddiw. Mae’r rhaglen hon yn helpu gofalwyr i gyfathrebu gwerth y sgiliau a’r wybodaeth y maent wedi eu hennill drwy gyflawni eu rôl ofalu, i’w cyflogwyr presennol neu i gyflogwyr posibl yn y dyfodol.

Mae’r maes gwaith hwn yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn Ffyniant i Bawb i achredu sgiliau gofalwyr. Rydym yn ystyried y ffordd orau o gefnogi gofalwyr di-dâl nad oes ganddynt waith sy’n talu cyflog, neu sydd wedi bod y tu allan i’r gweithlu am gyfnod hir, er mwyn eu helpu i ddilyn gyrfa yn eu dewis faes.

Yn gynharach eleni, cyhoeddais y cynllun cerdyn adnabod cenedlaethol i ofalwyr ifanc, ac roedd yn bleser gennyf fod yn rhan o achlysur lansio cerdyn adnabod cyntaf Ceredigion. Mae awdurdodau lleol eraill yn paratoi eu cardiau eu hunain, a rhai ohonynt yn bwriadu i’r lansiad gyd-ddigwydd â Diwrnod Ymwybyddiaeth o Ofalwyr Ifanc ar 16 Mawrth 2021. Bydd cerdyn sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol yn sicrhau bod ein gofalwyr ifanc yn cael eu cydnabod, eu trin â pharch, ac yn cael cymorth i gyflawni eu rôl ofalu.

Rwy’n parhau’n gwbl ymrwymedig i godi ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr di-dâl, a byddaf yn parhau i sbarduno newidiadau diwylliannol er mwyn sicrhau bod gofalwyr yng Nghymru yn cael mwy o gymorth a chydnabyddiaeth.