Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n Ddiwrnod Iechyd Meddwl Pobl Ifanc heddiw ac rwy’n falch o gael cyhoeddi £2.5 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Mae iechyd meddwl a lles emosiynol ein plant a’n pobl ifanc yn flaenoriaeth glir i mi, ac mae gan weithwyr ieuenctid rôl hanfodol i’w chwarae i helpu plant a phobl ifanc i ddod dros y pandemig.

Gwyddom fod pobl ifanc yn dioddef problemau iechyd meddwl ac emosiynol yn dawel fach yn aml, ac ar eu pen eu hunain. Eleni, mae’r pandemig wedi gwaethygu hyn, gan ddwysáu anghydraddoldebau a oedd eisoes yn bodoli a gorfodi pobl i hunanynysu. Bydd y cyllid ychwanegol hwn, a fydd ar gael ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol hon, yn helpu gweithwyr ieuenctid i dorri ar y tawelwch, estyn allan a chynnig cefnogaeth lle mae’r angen yn ddybryd.

Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol a’u partneriaid yn y sector gwirfoddol i gyllido rhaglenni gwaith ieuenctid sydd wedi’u teilwra ar sail anghenion y bobl ifanc y mae’r pandemig wedi effeithio fwyaf arnynt. Gwyddom mai pobl ifanc ddifreintiedig sy’n agored i niwed sydd wedi’u taro galetaf gan y pandemig.

Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i wella’r adnoddau a’r gwasanaethau gwaith ieuenctid sydd ar gael i bobl ifanc yn y cyfnod heriol hwn, gan eu helpu i gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt, lle a phryd y mae ei angen. Mae’n adeiladu ar y cyllid ychwanegol rydym wedi’i ddarparu ar gyfer gwaith ieuenctid dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynyddu ein buddsoddiad yn y Grant Cymorth Ieuenctid bron bedair o weithiau’n fwy, o gymharu â lefelau 2018.

Mae gwasanaethau gwaith ieuenctid mewn sefyllfa dda i gyflawni’r anghenion hyn, gan ymateb i sefyllfa pob unigolyn, a hyrwyddo a diogelu hawliau plant. Weithiau, gweithiwr ieuenctid fydd yr unig oedolyn y mae person ifanc yn ymddiried ynddo y tu allan i gylch yr ysgol, gwasanaethau cymdeithasol neu drefniant swyddogol arall. Gall gwaith ieuenctid, a’i allu i atal problemau yn gynnar, wneud gwahaniaeth sylweddol, gan leihau nifer y bobl ifanc sy’n cael eu cyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl ar lefel uwch yn nes ymlaen. Rydym yn deall bod sicrhau’r gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn, mewn llawer o achosion, yn gallu atal effeithiau andwyol tymor hirach, a dyna pam ein bod yn rhoi blaenoriaeth hefyd i sicrhau mynediad at y gefnogaeth hon.

Rwyf am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i weithwyr ieuenctid ar hyd a lled y wlad am gefnogi pobl ifanc drwy’r pandemig. Mae staff wedi gweithio’n ddiflino i ailstrwythuro eu darpariaeth ar-lein drwy sesiynau digidol byw yn ogystal â chynnig cyngor a gwybodaeth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae hyn wedi helpu pobl ifanc sy’n dioddef problemau iechyd meddwl ac emosiynol. Wrth inni symud tuag at gyfnod newydd o ran gwaith ieuenctid yng Nghymru, ac adroddiad terfynol y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro ar fin cael ei gyhoeddi, rydym am wneud newidiadau positif sy’n gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc yng Nghymru heddiw; ac mae hwn yn gam bach iawn i ddechrau’r daith honno.

Rwy’n cyhoeddi’r datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn ailymgynnull, byddwn yn hapus i wneud hynny.