Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt , y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae heddiw yn Ddiwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod ac rydym yn nodi dechrau 16 Diwrnod o Weithredu.  Mae hefyd yn Ddiwrnod Rhuban Gwyn.

Mae Llywodraeth Cymru yn arwain ymgyrch i gynyddu nifer y dynion sy'n cofrestru i fod yn Llysgenhadon Rhuban Gwyn. Mae'r llysgenhadon yn addo peidio byth â bod yn dreisgar eu hunain yn erbyn menywod, na'i esgusodi na bod yn dawel yn ei gylch. 

Yr wythnos diwethaf, rai dyddiau cyn Diwrnod Rhuban Gwyn, cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru ei hadroddiad ar weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.  Mae'r adroddiad yn dangos bod y Ddeddf yn gwella gwasanaethau ledled Cymru, ond bod mwy eto i'w wneud. Rydym yn croesawu’r adroddiad a’i argymhellion, a byddwn yn neilltuo amser i’w hystyried.

Rwyf am ddefnyddio Diwrnod Rhuban Gwyn a dechrau’r 16 Diwrnod o Weithredu i dynnu sylw at yr elfennau cadarnhaol lu sydd yn adroddiad y Swyddfa Archwilio. Un o’r elfennau amlycaf yw’r ffaith bod y ddeddfwriaeth arloesol hon a luniwyd yng Nghymru yn helpu i weddnewid gwasanaethau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud Cymru yn fwy diogel i fenywod nag unrhyw wlad arall yn Ewrop, ond nid yw hwn yn amcan bach syml y gellir ei gyflawni dros nos.  Rwyf am ddiolch i'r gwasanaethau sydd wedi bod yn gweithio’n galed yn ystod y cyfnod hir hwn o gyni i atal trais a chamdriniaeth; i gefnogi a gwarchod dioddefwyr a goroeswyr; ac, yn bwysig iawn, i weithio gyda'r rheini sy'n cyflawni trais i newid eu hymddygiad.  Rwyf am roi'r gydnabyddiaeth y maen nhw'n ei haeddu i'r gwasanaethau hynny am gyflawni cymaint o dan amgylchiadau anodd iawn.

Mae partneriaethau rhanbarthol sy'n delio â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi’u sefydlu, ac â chymorth canllawiau Llywodraeth Cymru maent yn cydweithio'n fwy effeithiol, ac yn mapio a chomisiynu gwasanaethau.  Mae partneriaid allweddol wedi dod ynghyd i ystyried sut y gallant wneud y defnydd gorau o'r cyllid sydd ar gael er mwyn datblygu dull gweithredu mwy cynaliadwy, ac mae mwy o weithwyr proffesiynol nag erioed yn cael eu hyfforddi i adnabod arwyddion y trais a'r cam-drin hwn, ac i ddarparu'r cymorth priodol.

Mae ein fframwaith hyfforddi cenedlaethol wedi denu sylw ar draws y DU, ac mae yno ymdrechion i ddarparu ein hyfforddiant Gofyn a Gweithredu, ynghyd â galw i gynnwys hyfforddiant fel gofyniad statudol ym Mil Cam-drin Domestig y DU.

Yn eu hadroddiad blynyddol ym mis Medi, talodd ein Cynghorwyr Cenedlaethol, Yasmin Khan a Nazir Afzal, deyrnged i'r gwaith aruthrol sy'n mynd yn ei flaen yng Nghymru.

Rydym yn cytuno bod mwy i'w wneud ac rydym yn gweithio gyda sefydliadau a phartneriaid ledled Cymru i gyfeirio a chefnogi eu hymdrechion. Rydym am dynnu gyda’n gilydd i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru.