Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Ferch yn cael ei arddel yn fyd-eang ar 11 Hydref. Mae'n ddiwrnod i ddathlu'r hyn a gyflawnwyd gan ferched yn ogystal â chydnabod yr heriau a'r rhwystrau y mae llawer yn dal i'w hwynebu. Thema'r Cenhedloedd Unedig ar gyfer 2025 yw 'The girl I am, the change I lead: Girls on the frontlines of crisis'. 

Er bod camau breision cadarnhaol ac angenrheidiol wedi'u cymryd ym maes cydraddoldeb rhwng y rhywiau, mae ffordd gymaint pellach i fynd. Yn fyd-eang, mae 650 miliwn o ferched a menywod sy'n fyw heddiw wedi profi trais rhywiol yn ystod eu plentyndod. Mae bron i un o bob pump o ferched yn priodi yn ystod eu plentyndod. Mae merched a menywod ifanc 15–24 oed yn dal i fod ddwywaith yn fwy tebygol o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (UNICEF, UN Women a Plan International, 2025). 

Mae'r dystiolaeth hon yn ddifrifol. Yn rhy aml o lawer, mae merched yn eu cael eu hunain ar y rheng flaen mewn argyfwng sy'n gallu chwalu eu dyfodol a dinistrio eu bywydau. Yn ôl  UNICEF, yn 2023, cofnodwyd dros 170 achos o wrthdaro arfog. Roedd tua 612 miliwn o fenywod a merched yn byw o fewn 50 cilomedr i leoliad yr achosion hyn, cynnydd o 50 y cant o'i gymharu â degawd yn ôl.

Nid oes modd esgusodi trais a cham-drin, ond maent yn parhau mewn cymdeithasau ym mhobman. Yng Nghymru a Lloegr, rhwng 2018 a 2023, cynyddodd nifer yr achosion o drais a gofnodwyd yn erbyn menywod a merched 37%. Mae o leiaf un o bob 12 menyw yn profi trais gan ddyn bob blwyddyn, er bod y gwir niferoedd yn debygol o fod yn llawer uwch (Y Coleg Plismona, Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, Gorffennaf 2024).

Rydym wedi bod yn glir bob amser ynghylch ein huchelgais i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Fel rhan o weithredu strategaeth trais a cham-drin 2022-2026, mae ffrwd waith anghenion plant a phobl ifanc yn canolbwyntio ar gasglu data a thystiolaeth allweddol, annog dulliau o atal a mynd i'r afael â thrais a cham-drin ar lefel systemau cyfan, a chryfhau dulliau amlasiantaethol i sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc sydd wedi profi cam-drin neu drais yn cael eu diwallu'n effeithiol. 

Gall ysgolion ysgogi newid yn hyn o beth. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gyllido prosiect Sbectrwm Stori Cymru. Mae gwaith Sbectrwm mewn ysgolion, yn addysgu plant, addysgu athrawon, ac ymgysylltu â llywodraethwyr a rhieni, yn cefnogi'n uniongyrchol ein huchelgais i atal trais a chamdriniaeth. Mae'n gwneud hyn drwy arfogi plant a phobl ifanc â'r wybodaeth a'r sgiliau i adnabod cam-drin, deall beth yw perthynas iach, a sut i ofyn am gefnogaeth.

Drwy sicrhau bod materion sensitif sy'n ymwneud â thrais a cham-drin yn cael eu hystyried â hyder, tosturi ac eglurder, mae'r prosiect yn gyfrwng i ddiogelu iechyd meddwl ein plant a'n pobl ifanc, a'u cefnogi i fyw mewn byd lle gallant ffynnu. 

Yn ystod 2024/25, ymgysylltodd prosiect Sbectrwm â 40,860 o ddisgyblion a 2,855 o staff mewn 3,040 o sesiynau.   

Mae merched a menywod ifanc yn wynebu heriau, bygythiadau a niwed difrifol sy'n esblygu bob dydd, all-lein ac ar-lein. Er bod llawer o'r heriau hyn wedi'u gwreiddio'n ddwfn mewn systemau cymdeithasol a diwylliannol ehangach, mae'n dod yn fwyfwy amlwg bod y cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan bwerus i'w gwaethygu a chyflymu eu heffaith. 

Mae'n galondid i ni bod Ofcom, wrth ddatblygu eu canllawiau rheoleiddiol, yn cydnabod bod menywod ifanc a merched yn agored i niwed ar-lein mewn ffordd unigryw. Byddwn yn parhau i ymgysylltu ag Ofcom wrth iddynt ddatblygu eu canllawiau ar gyfer gwasanaethau ar-lein, gan sicrhau bod mynd i'r afael â'r niwed sy'n digwydd ar-lein mewn perthynas â rhywedd yn parhau i fod yn ffocws canolog. 

O fewn y Cwricwlwm i Gymru, mae'r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) gorfodol yn amlinellu addysg graidd sydd â'r nod o fynd i'r afael â materion difrifol fel bwlio, aflonyddu rhywiol a gwahaniaethu. Mae diogelwch ar-lein yn elfen allweddol o'r Cod, ac mae addysgu pobl ifanc ar sut i ymgysylltu'n ddiogel â'r cyfryngau cymdeithasol yn fater trawsgwricwlaidd. 

Mae llinyn 'Grymuso, Diogelwch a Pharch' yn y Cod ACRh yn helpu dysgwyr i ddatblygu empathi, caredigrwydd a thosturi, ac yn eu harfogi â'r hyder i ofyn am gymorth pan fyddant yn poeni am eu diogelwch eu hunain neu ddiogelwch eraill. Mae hyn yn cynnwys addysg benodol ar adnabod ac ymateb i drais yn erbyn menywod ifanc a merched, cam-drin domestig, a thrais rhywiol. 

Ym mis Ebrill, cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg â'r grŵp ieuenctid Cadw'n Ddiogel Ar-lein, gan glywed eu barn a'u profiadau o fisogynedd ar-lein, yn yr ysgol ac yn eu bywydau bob dydd. Gan adeiladu ar yr adborth gwerthfawr hwn, ein ffocws ar gyfer tymor yr hydref fydd mynd i'r afael ag agweddau niweidiol. Bydd hyn yn cynnwys cyfres o sesiynau 'Dolen a Dysgu' ar gyfer dysgwyr cynradd ac uwchradd a fydd yn cael eu cyflwyno gan E-sgol mewn partneriaeth â Technocamps. 

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg hefyd gyllid o £4 miliwn dros dair blynedd ar gyfer Prosiect Addysg Cwtsh. Bydd y rhaglen genedlaethol hon yn cefnogi ymhellach gamau i ddatblygu perthnasoedd iach, llawn parch mewn ysgolion ledled Cymru. Bydd y cyllid yn sicrhau arbenigedd, drwy ddarparu cynghorwyr i gefnogi pob awdurdod lleol a phob ysgol â chyngor arbenigol ac adnoddau o safon, gan gynnwys corff o arbenigwyr ACRh cymwys, i gyflawni'r rhan hanfodol hon o'r cwricwlwm. 

Gyda'i gilydd, mae Sbectrwm a Cwtsh yn bartneriaeth bwerus, un sy'n cefnogi ysgolion, yn grymuso gweithwyr proffesiynol, ac yn bwysicaf oll, yn helpu ein pobl ifanc i ffynnu. 

Mae hyn yn fwy na mater o gyflwyno'r cwricwlwm yn unig. Mae'n ymwneud â chreu amgylcheddau ysgol diogel, cynhwysol lle mae pob plentyn a pherson ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a'u grymuso. Rydym eisiau gweld plant Cymru yn datblygu a chynnal perthnasoedd iach, diogel sy'n dod â boddhad drwy gydol eu hoes.

Dylai pob person ifanc hefyd gael mynediad at y cyfleoedd sy'n caniatáu iddynt ddatgloi eu potensial, pa lwybr bynnag a ddewisant. Rydym yn cefnogi merched a menywod ifanc i ddilyn cymwysterau a gyrfaoedd STEM. Dyrannwyd bron i £10 miliwn i weithgareddau STEM dros y 3 blynedd nesaf, a ariennir o dan raglen grant Cwricwlwm Cymru. Mae rhaglen grant newydd Cwricwlwm Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'n holl bartneriaid ddarparu cymorth sy'n ymateb i anghenion a phrofiadau amrywiol dysgwyr. Mae hyn yn cynnwys cefnogi dysgwyr difreintiedig a'r rhai o grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli, er enghraifft, merched ym meysydd STEM. 

Mae Academi Seren yn cefnogi'r dysgwyr mwyaf disglair yng Nghymru o Flwyddyn 8 i Flwyddyn 13, waeth beth fo'u cefndir economaidd-gymdeithasol, i feithrin yr uchelgais, y gallu, a'r chwilfrydedd, i gyflawni eu potensial a rhagori yn addysgol yn y dyfodol ar y lefel uchaf. Mae 57% o ddysgwyr Academi Seren yn ferched.

Graddiodd Louisa Rees mewn Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn ddiweddar. Heb unrhyw gysylltiadau â meddygaeth a heb adnabod unrhyw un arall yn ei hysgol a oedd eisiau bod yn feddyg, ymunodd Louisa ag Academi Seren. Roedd hyn yn fodd o agor cyfleoedd, adeiladu ei rhwydwaith cyfoedion, a'i galluogi i ddilyn ei breuddwyd. Fel un o raddedigion Seren, mae Louisa bellach yn rhoi yn ôl i ddysgwyr Seren heddiw. Yn fwyaf diweddar, bu'n cefnogi dysgwyr presennol ar gwrs preswyl Meddygaeth a Deintyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. 

Fel cymaint o ferched a menywod ifanc ledled Cymru, mae Louisa wedi dangos bod merched, pan gânt eu grymuso a phan roddir y cyfleoedd iawn iddynt, yn profi dro ar ôl tro y gallant lwyddo a chyflawni. Rwy'n llongyfarch Louisa ar yr hyn y mae wedi'i gyflawni, ac rwy'n siŵr y bydd ganddi ddyfodol hynod lwyddiannus yma yng Nghymru.

Mae'r daith tuag at gydraddoldeb rhwng y rhywiau ymhell o fod drosodd, ond mae cynnydd yn cael ei wneud. Rhaid inni ddathlu'r camau niferus a gymerwyd gan ferched a menywod ifanc ledled Cymru wrth inni barhau i chwalu'r rhwystrau ynghyd â'r nenfydau gwydr. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wrando ar ferched a menywod ifanc ledled Cymru, a gweithio gyda nhw i sicrhau y gallant ffynnu, cyflawni eu potensial ac arwain y newid yr ydym i gyd eisiau ei weld.