Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt , y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Cynhaliwyd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod am y tro cyntaf dros 100 mlynedd yn ôl. Ers hynny, mae wedi tyfu'n ddigwyddiad byd-eang - diwrnod i gydnabod cyflawniadau merched a menywod, waeth beth fo'u cenedligrwydd, ethnigrwydd, iaith, diwylliant, oedran, rhywioldeb, anabledd, cyfoeth neu wleidyddiaeth.

Fodd bynnag, mae anghydraddoldeb rhwng y rhywiau dal yn broblem barhaus ac ystyfnig ar draws y byd.  Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ein galluogi i ddathlu cyflawniadau merched a menywod, ac mae hefyd yn gyfle i ni ystyried y camau rydym wedi eu cymryd i hyrwyddo byd mwy teg a chyfartal i ferched a menywod.

Ym mis Mawrth y llynedd, fel rhan o'n Hadolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol, rhannais â chi ein gweledigaeth uchelgeisiol i sicrhau cydraddoldeb. Ym mis Medi, cyhoeddwyd yr adroddiad Gwneud nid Dweud a Map Llwybr yn amlinellu argymhellion heriol ar gyfer yr hyn sydd angen i ni ei wneud yng Nghymru i hybu cydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Mae angen gweithredu parhaus hirdymor i sicrhau cydraddoldeb. Mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi cyhoeddi heddiw gynllun i hybu cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru, sy'n nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod:

https://llyw.cymru/hyrwyddo-cydraddoldeb-rhwng-y-rhywiau-cynllun-gweithredu

I wella cydraddoldeb rhwng y rhywiau, rhaid i ni sicrhau ein bod yn herio'r ffurfiau amryfal, rhyngblethol ar anfantais a chamwahaniaethu pan ddown ar eu traws. Rydym yn canolbwyntio ar ganlyniadau neu ddeilliannau cyfartal a fydd, yn fy marn i, yn allweddol i gyflawni ein gweledigaeth a'n nodau ar gyfer creu Cymru'n wlad sy’n arddel cydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Bwriad yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol oedd amlinellu cynllun hirdymor ar gyfer newid. Rydym yn cydnabod bod hwn yn waith sylweddol sy'n debygol o olygu 20 mlynedd o ymyrraeth barhaus er mwyn sicrhau'r newidiadau sydd gennym mewn golwg. Bydd effeithiau'r Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol felly'n para drwy dymhorau sawl llywodraeth, a bydd yn ymrwymo llywodraethau'r dyfodol i weithredu’n barhaus i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru.

Mae'r Adolygiad wedi nodi'r meysydd sydd angen eu gwella ac wedi ein herio i wneud yn well. Mae'n cydnabod bod cynnydd da'n cael ei wneud wneud, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i dynnu sylw at rywfaint o'r gwaith da sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol i fywydau merched a menywod yng Nghymru heddiw.

Yn 2020, bydd pum mlynedd ers i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) ddod i rym. Roedd yn ddarn nodedig o ddeddfwriaeth ac rwy'n falch iawn o'r cynnydd rydym wedi'i wneud ar y mater hwn sy'n effeithio ar bobl o bob cefndir, waeth a oes ganddynt nodweddion gwarchodedig ai peidio.

Ym mis Chwefror, roedd dros 173,000 o bobl yng Nghymru wedi cael hyfforddiant drwy'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol. Mae hynny'n golygu bod mwy na 173,000 o weithwyr proffesiynol yn gwybod mwy, yn fwy ymwybodol ac yn fwy hyderus i ymateb i'r rheini sy'n dioddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Cafodd yr ymgyrch 'Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn’ ei datblygu gyda chymorth goroeswyr camdriniaeth. Cafodd ei lansio ym mis Ionawr 2019 i godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae fideos yr ymgyrch wedi cael eu gwylio mwy na 240,000 o weithiau ar-lein, a chafwyd dros 76,000 o ymweliadau â thudalennau'r ymgyrch ar wefan Byw Heb Ofn.

Mae data o linell gymorth Byw Heb Ofn yn awgrymu cynnydd sylweddol yn nifer y galwadau a gafwyd am reolaeth drwy orfodaeth ers lansio'r ymgyrch. Mae heddluoedd yng Nghymru hefyd wedi gweld cynnydd yn yr achosion o reolaeth drwy orfodaeth a adroddir iddynt, sy'n dangos ei fod bellach yn cael ei gydnabod mwy fel trosedd.

Mae'n annerbyniol bod merched a menywod ifanc yn dioddef aflonyddwch rhywiol pan fyddant yn mynd allan. Mae tystiolaeth gan ferched a menywod ifanc yn dangos bod aflonyddwch ar y stryd yn parhau i fod yn gyffredin. Cynhaliais drafodaeth gyffredinol gyda menywod ifanc, undebau llafur, darparwyr trafnidiaeth, rhanddeiliaid VAWDASV allweddol ac awdurdodau cyhoeddus y llynedd i archwilio sut y gallwn fynd ati ar y cyd i roi gorau i aflonyddwch rhywiol yng Nghymru.

Mae'r Cynnig Gofal Plant yn helpu i fynd i'r afael â thlodi mewn gwaith drwy helpu i gefnogi rhieni, yn enwedig mamau, i ddod o hyd i gyflogaeth a'i gwneud yn haws iddynt gael gwaith a'i gadw.  O fis Gorffennaf 2019, roedd bron i 16,000 o blant yn manteisio ar y Cynnig. Mae bellach ar gael ar draws Cymru, dros flwyddyn yn gynharach nag y bwriadwyd yn wreiddiol.

Mae rhiant nodweddiadol y mae ei blentyn yn manteisio ar 20 awr o ofal plant bob wythnos yn cael yr hyn sy'n cyfateb i £90 yn fwy bob wythnos - arian na fyddent wedi'i gael fel arall. Mae adolygiad yn cael ei gynnal i ystyried ymestyn y cynnig i fenywod mewn hyfforddiant ac ar y ffordd i gyflogaeth.

I fynd i'r afael â thlodi mislif, ymrwymwyd dros £3.3 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon i ddarparu nwyddau mislif am ddim i ferched a menywod ar incwm isel, ac i ddysgwyr ym mhob ysgol a choleg addysg bellach yng Nghymru. Mae'r un lefel o gyllid wedi'i ymrwymo ar gyfer 2020/21 hefyd.

Yn ogystal â chefnogi merched a menywod difreintiedig, bydd y cyllid hefyd yn mynd ymhellach gan ganolbwyntio ar urddas, cydraddoldeb a llesiant i bawb. Rydym yn gweithio tuag at chwalu'r stigma a'r tabŵ sy'n dal i fodoli, ac annog y defnydd o nwyddau amldro ac ecogyfeillgar.

Cadeiriais grŵp bord gron yn cynnwys rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru i ddarparu cyngor arbenigol i Lywodraeth Cymru. Mae eu mewnbwn wedi bod yn werthfawr iawn wrth ddatblygu Cynllun Gweithredu ar Urddas Mislif, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn yr haf.  

I wella amrywiaeth mewn bywyd cyhoeddus, rydym yn darparu cymorth i Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru ac EYST ar gyfer rhedeg rhaglenni mentora. Mae'r rhain wedi bod yn llwyddiannus iawn, gan ddarparu'r dulliau a'r hyder i fenywod a menywod o leiafrifoedd ethnig allu camu ymlaen.

Ar 27 Chwefror, lansiais ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus, sef Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru, sy'n amlinellu ystod eang o fentrau i gynyddu amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus.

Rydym yn cefnogi menywod i ymuno neu ailymuno â'r gweithlu a datblygu drwy nifer o fentrau, gan gynnwys:

  • rhaglen Cenedl Hyblyg 2 sy'n ceisio hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol drwy weithio gydag unigolion a chyflogwyr;
  • rhaglen Limitless sy'n gweithio gyda menywod sydd wedi dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol;
  • rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol - Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE), Cymunedau am Waith a hefyd Cymunedau am Waith a Mwy.

Rydym yn helpu merched a menywod ifanc i ystyried llwybrau gyrfa anhraddodiadol, fel STEM. Ymhlith y mentrau sydd ar gael y mae Rhaglen Fentora Ffiseg, Cynllun Addysg Beirianneg Cymru a chynllun peilot Gwella'r Cydbwysedd rhwng y Rhywiau.  Mae'r rhain i gyd yn cynnwys gweithdai sy'n canolbwyntio'n benodol ar ferched, gyda'r nod o gynyddu nifer y merched o ysgolion uwchradd sy'n symud ymlaen i ddiwydiannau STEM.

Rydym yn gweithio'n agos â phartneriaid i weithredu'r argymhellion a amlinellir yn y Glasbrint ar gyfer Troseddwyr Benywaidd, a gyhoeddais ochr yn ochr â'r Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid ym mis Mai y llynedd.

Nid oes carchar i fenywod yng Nghymru ac nid ydym eisiau un. Mae angen cyfleuster diogel ar fenywod yng Nghymru sy'n addas i'r diben ac yn caniatáu iddynt gadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd, yn enwedig plant. Un o'r argymhellion allweddol yn y Glasbrint ar gyfer Troseddwyr Benywaidd yw datblygu canolfan breswyl i fenywod yng Nghymru lle ceir gwasanaethau sy'n seiliedig ar fod yn ymwybodol o effeithiau trawma. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod hyn yn digwydd yn gyflym.

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddiwrnod i ddathlu cyflawniadau menywod. Fodd bynnag, nid yw hanes wedi rhoi digon o gydnabyddiaeth i lwyddiannau menywod yng Nghymru na'u cofnodi'n ddigonol.

Os ydym eisiau cael pethau'n iawn ar gyfer y dyfodol, mae angen i ni ddechrau drwy gywiro ein hanes.  Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i gefnogi'r ymgyrch Placiau Porffor, y rhestr '100 o Fenywod Cymru' a'r prosiect Monumental Welsh Women a fydd yn creu pum cerflun o fenywod ar draws Cymru. Mae pob un o'r rhain yn tynnu sylw at fenywod eithriadol yng Nghymru.

Roeddwn yn bresennol yn y digwyddiad ddydd Gwener i ddadorchuddio Plac Porffor ar gyfer yr ymgyrchydd heddwch, Eunice Stallard, yn Ystradgynlais. Dyma'r bumed plac o'r fath yng Nghymru ac rwy'n gobeithio y bydd mwy eto i ddod. Bydd y cerflun cyntaf, ar gyfer Betty Campbell - y brifathrawes du cyntaf yng Nghymru - yn cael ei gwblhau yn nes ymlaen eleni.

Y thema ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yw Each for Equal. Mae'r thema hon yn cyd-fynd yn dda â'n gweledigaeth a'r gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo ar draws Cymru i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a chwalu'r rhwystrau.

Nid ydym am laesu dwylo - mae mwy i'w wneud. Ond mae gan Gymru lawer i fod yn falch ohono ac rydym yn parhau'n ymrwymedig i gefnogi merched a menywod i anelu'n uchel a chyflawni ac i hybu cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru.