Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae heddiw yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod – diwrnod i ddathlu cyflawniadau menywod a merched yng Nghymru a ledled y byd. Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod bod rhagor i’w wneud wrth inni weithio tuag at gydraddoldeb rhwng y rhywiau.  

Y thema eleni yw Dewis Herio. Byddwn yn amlygu anghydraddoldeb ac yn cyflwyno’r dystiolaeth sy’n bodoli i ddangos sut mae menywod yn cael eu trin yn annheg o hyd. Wrth wella cydraddoldeb i fenywod a merched, rhaid inni sicrhau bod y ffurfiau lluosog a rhyng-gysylltiedig o anfantais a gwahaniaethu yn cael eu herio a’u hamlygu pan fyddwn yn tystio iddynt. Drwy wrthwynebu a herio rhagfarn ar sail rhywedd, achosion o wahaniaethu, anghydraddoldeb ac achosion o aflonyddu, mae gan bob un ohonom ran bwysig i’w chwarae i sicrhau newid cadarnhaol ac angenrheidiol.

Fis Mawrth y llynedd, lansiais ein cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru, sef cynllun gweithredu cam cyntaf yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol. Nodais hefyd ein blaenoriaethau ar gyfer y tymor byr a’r tymor canolig. Roedd hi bryd hynny yn amhosibl rhagweld pa mor wahanol fyddai 2020 inni i gyd. Roedd hi hefyd yn amhosibl rhagweld yr heriau y byddem yn eu hwynebu wrth sicrhau nad yw effeithiau Covid-19 yn dinistrio’r cynnydd rydym wedi’i wneud ar gyfer menywod a merched yng Nghymru.

Mae rhyngblethedd yn rhan allweddol o’r Cynllun hwnnw ac yn parhau i fod wrth wraidd ein gwaith. Gwyddom nad yw pobl yn cael eu diffinio gan faterion neu rwystrau unigol a bod angen pethau gwahanol arnynt i allu byw bywyd llawn yng Nghymru.

Rydym hefyd yn gwybod nad yw’r argyfwng hwn wedi effeithio ar bawb mewn modd cyfartal. Mae’r feirws yn cael yr effaith fwyaf ar y rhai sydd â’r lleiaf o bŵer ac mae wedi gwaethygu anghydraddoldebau sydd wedi hen sefydlu. Yn benodol, mae’r argyfwng wedi effeithio ar fenywod, pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl ifanc, gweithwyr hŷn, pobl anabl a’r rhai a chanddynt gyflyrau iechyd, yn ogystal â’r rhai ar gyflog isel ac sydd mewn swyddi nad ydynt yn gofyn am lawer o sgiliau.

Mae menywod yn parhau i fod ar y rheng flaen yn ystod y pandemig hwn. Gwyddom fod hyn wedi cael effaith anghymesur ar fenywod fel gofalwyr a mamau, gartref ac yn y gwaith. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i amlygu rhywfaint o’r gwaith yr ydym yn ei wneud i gefnogi menywod a merched ledled Cymru.  

Mae pob un ohonom wedi gorfod treulio mwy o amser gartref. Fodd bynnag, nid yw pob cartref yn lle diogel. Gall cyfyngiadau pellter cymdeithasol a hunanynysu fod yn ofnadwy i’r rhai sy’n dioddef o drais ac yn cael eu cam-drin. Gall y cyfyngiadau hyn roi mwy o bŵer a rheolaeth i’r rhai sy’n eu cam-drin, gan gynyddu’r risg i’r dioddefwyr. Eleni, mae’r sector Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol wedi cael dros £4 miliwn o gyllid yn ychwanegol i ymdrin ag effaith COVID-19. Mae hyn yn gynnydd o 67% o gymharu â’r llynedd.

Mae ein hymgyrchoedd cyfathrebu wedi canolbwyntio ar helpu pobl i aros yn ddiogel. Mae ein llinell gymorth Byw Heb Ofn yn wasanaeth 24/7 am ddim i bawb sydd wedi goroesi neu’n dioddef o gam-drin domestig a thrais rhywiol, a’r rhai sy’n agos atynt, gan gynnwys teulu, ffrindiau a chydweithwyr. Mae’r llinell wedi parhau i fod ar agor, gan gynnig gwasanaeth llawn tra bo cyfyngiadau Covid-19 ar waith. Gellir cysylltu â’r llinell gymorth drwy ei ffonio, neu gallwch gysylltu’n ddistaw drwy anfon neges destun, e-bost neu neges ar y we. Mae gwybodaeth ar gadw’n ddiogel drwy gydol y pandemig ar gael ar wefan Byw Heb Ofn (https://llyw.cymru/byw-heb-ofn).

Rydym am i bawb sydd mewn sefyllfa i helpu ddod i wybod sut i adnabod arwyddion o gam-drin a sut i helpu’n ddiogel, boed y rheini yn wirfoddolwyr sy’n cynorthwyo’r bobl fwyaf agored i niwed, yn gontractwyr brys, yn rhan o weithlu’r gwasanaethau post, neu’n gweithio mewn siop leol neu mewn archfarchnad. Ers inni ddarparu mynediad agored at ein modiwl e-ddysgu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i aelodau o’r gymuned ddechrau mis Ebrill 2020, mae dros 50,000 o bobl wedi ymgymryd â’r cwrs – gan ddysgu rhagor am gam-drin domestig a thrais rhywiol.

Ein nod yw creu diwylliant ledled Cymru lle mae pobl wedi’u grymuso i allu helpu i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, diwylliant lle nad yw Cymru yn cadw’n dawel ynghylch achosion o gam-drin. Mae gwybodaeth ynghylch sut i helpu yn ddiogel ar gael ar y wefan hefyd.

Mae’r dystiolaeth yn dangos bod y pandemig yn ehangu’r bwlch rhwng y rhywiau yn y gwaith a gartref. Yn gyffredinol, mae menywod yn tueddu i ysgwyddo rhagor o gyfrifoldebau, p’un a ydynt yn gweithio ai peidio. Mae’r dystiolaeth hefyd yn awgrymu bod menywod yn treulio mwy o amser na dynion yn gofalu am blant ac yn gwneud gweithgareddau cysylltiedig yn y cartref.

Mae ein Cynnig Gofal Plant yn darparu 30 o oriau o addysg gynnar a gofal plant i blant 3 a 4 oed y mae eu rhieni yn gweithio, am 48 o wythnosau y flwyddyn. Mae’r gwerthusiad o ddwy flynedd gyntaf y cyfnod gweithredu wedi dangos inni fod y Cynnig yn cael effaith gadarnhaol ar incwm gwario teuluoedd ac ar opsiynau cyflogaeth i rieni. Mae cyfran uwch o fenywod yn dweud eu bod yn gallu gweithio mwy o oriau ers iddynt ddechrau manteisio ar y Cynnig a bod ganddynt fwy o hyblygrwydd o ran y swyddi y gallant eu gwneud.

Er mwyn cynorthwyo rhieni sy'n gweithio yn ystod lefel rhybudd 4, gellir parhau i dalu ffioedd y Cynnig Gofal Plant i riant am gyfnod, er nad yw'r plentyn yn mynd i’r lleoliad gofal plant. Nod hyn yw helpu i gadw lle y plentyn yn y lleoliad a helpu i gynnal lleoliadau gofal plant, gan sicrhau bod gofal plant ar gael yn y tymor hir pan fydd cyfyngiadau Covid-19 yn cael eu llacio.

Rydym yn edrych ar ba gymorth ariannol sydd ar gael i rieni mewn addysg a hyfforddiant neu i rieni sy’n ceisio gwaith, gyda'u costau gofal plant. Bydd adroddiad annibynnol sy'n edrych ar y ddarpariaeth i’r rhieni hyn yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.

Mae ein cefnogaeth i ofalwyr di-dâl yn cynnwys £1.295 miliwn (2020/21) i gefnogi gweithgarwch penodol sy'n mynd i’r afael â’n tair blaenoriaeth genedlaethol i ofalwyr: helpu i fyw yn ogystal â gofalu; adnabod a chydnabod gofalwyr; a darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth. Rydym hefyd yn ariannu sefydliadau gofalwyr drwy ein Grant i’r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy. Ar gyfer 2020-23, rydym wedi ymrwymo hyd at £2.6 miliwn i bedwar prosiect dan arweiniad Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, Gofalwyr Cymru, Age Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.

Mae’r 'prosiect Llesiant a Grymuso Gofalwyr’ a gynhelir gan Gofalwyr Cymru yn gweithio gyda Chwarae Teg i ddarparu hyfforddiant ar y cyd, o fis Mawrth 2021 ymlaen, i gefnogi gofalwyr benywaidd di-dâl i gael gwaith / dychwelyd i'r gwaith.

Yn y gweithle, mae menywod yn aml mewn swyddi cyflog isel, rhan-amser ac ansefydlog. Mae’r pandemig wedi arwain at rai newidiadau, fel arferion gweithio mwy hyblyg, sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar lawer o fenywod a'u teuluoedd. Er hyn, mae anghydraddoldeb yn parhau i fodoli yn y gweithle.

Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn parhau i fodoli. Yn 2020, roedd rhywfaint o welliant ac roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau i weithwyr amser llawn yng Nghymru wedi gostwng i 4.3%. Dyma’r gwerth isaf sydd wedi’i gofnodi ac mae’n llai na'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y DU. Serch hynny, mae'n dal yn annerbyniol fod y bwlch yn bodoli.

Ni fu ein rôl o ran helpu menywod i gael gwaith, i gadw eu gwaith ac i ddychwelyd i’r gwaith erioed yn bwysicach ac rwyf wedi tynnu sylw at rai o'r ffyrdd yr ydym yn darparu'r cymorth hwn isod.

Cyflwynwyd y Cyfrifon Dysgu Personol y llynedd yn dilyn canlyniadau cadarnhaol cynnar y rhaglen beilot, a oedd yn cynnwys cyllidebu ar sail rhywedd. Mae'r cyfrifon hyn yn rhoi cymorth i bobl gyflogedig, gweithwyr ar ffyrlo neu unigolion y mae COVID-19 wedi effeithio'n negyddol arnynt. Maent yn helpu pobl i ennill sgiliau a chymwysterau lefel uwch mewn sectorau blaenoriaeth, gan greu rhagor o gyfleoedd i bobl newid gyrfaoedd neu uwchsgilio. Mae unigolion yn cael cynllun ymarferol sy’n cyd-fynd ag ymrwymiadau presennol o ran teulu a gwaith er mwyn eu helpu i gyflawni eu nodau gyrfa yn y dyfodol.

Mae’r arwyddion cynnar yn dangos bod hyblygrwydd y cyfrifon hyn yn apelio at ystod ehangach o bobl, yn enwedig menywod sy'n ennill sgiliau a chymwysterau mewn sectorau anhraddodiadol fel peirianneg ac adeiladu, a dynion mewn sectorau sy'n gysylltiedig â gofal. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £5.4m yn ychwanegol yng Nghyllideb Ddrafft 2021-22 i gefnogi hyn. 

Rydym yn parhau i gefnogi amrywiaeth o raglenni sy'n helpu menywod i gael gwaith ac i wneud cynnydd yn y gweithle. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • prosiect Cenedl Hyblyg 2 sy'n hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau drwy helpu menywod i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd, gan weithio gyda chyflogwyr i wella eu strategaethau cydraddoldeb ac amrywiaeth
  • nod y rhaglen Limitless, sy'n gweithio gyda menywod y mae cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt, yw helpu dros 800 o gyfranogwyr cyflogedig, gyda 75% yn ennill cymhwyster a 30% yn sicrhau gwell sefyllfa yn y farchnad lafur
  • ein Rhaglenni Cyflogadwyedd Cymunedol sy'n darparu cymorth sydd wedi’i addasu i bobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant, ac i oedolion di-waith ac economaidd anweithgar sydd bellaf o'r farchnad lafur. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £6m yn ychwanegol ar gyfer 2021-22 i wella'r cymorth a ddarperir drwy Cymunedau am Waith a Mwy

Dim ond tua chwarter y bobl sy'n gweithio mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yn y DU sy'n fenywod, yn ôl ffigurau am y gweithlu o ymgyrch WISE ar fenywod mewn STEM, a dim ond 17% o rolau technoleg sy'n cael eu llenwi gan fenywod ar hyn o bryd. 

Rwy'n Cadeirio'r Bwrdd Menywod mewn STEM sy'n gweithio i wella cydraddoldeb rhwng y rhywiau ar draws cymuned STEM Cymru. Mae 20 o aelodau ac mae’n cynnwys y Gweinidog Addysg a Gweinidog yr Economi. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd ymchwil annibynnol gennym ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn STEM yng Nghymru. Mae’n cynnwys 14 o argymhellion ar gyfer cyflymu’r broses o sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae is-grwpiau gwaith y Bwrdd Diwydiant ac Addysg yn gweithio ar gynllun i fynd i'r afael â'r rhain.

Mae gan bobl ifanc gryn dipyn mwy o ddiddordeb mewn gyrfa STEM ers y pandemig. Drwy rannu straeon am fodelau rôl benywaidd, gallwn ysbrydoli a chymell mwy o ferched a menywod i astudio pynciau STEM. Ym mis Rhagfyr, tynnais sylw at rai o'r menywod anhygoel hyn a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i wneud hynny eto: https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-modelau-rol-benywaidd-mewn-stem-yn-ystod-pandemig-covid-19.

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddiwrnod i ddathlu llwyddiannau menywod a merched ledled y byd. Mae cynifer o enghreifftiau o fodelau rôl benywaidd yng Nghymru sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod pandemig Covid-19. Hoffwn dalu teyrnged i'w holl waith anhygoel yn ystod cyfnod mor heriol. Gall y menywod hyn ysbrydoli'r genhedlaeth hon a chenedlaethau i ddod, a byddant yn gwneud hynny.

Er ein bod yn gwybod bod rhagor i'w wneud cyn y gallwn honni ein bod wedi creu dyfodol cyfartal, mae gan fenywod a merched Cymru – menywod a merched y gorffennol, y presennol a'r dyfodol - lawer i fod yn falch ohono. Rydym wedi ymrwymo i'w helpu i ddyheu, i gyflawni ac i wireddu eu potensial – beth bynnag fo hynny.