Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod bod angen deddfwriaeth ar gyfer datblygu polisi masnach y DU ar ôl iddi adael yr UE. Rydyn ni'n cytuno bod angen y darpariaethau yn y Bil Masnach sy'n cynnal ein cysylltiadau masnachol presennol ac yn sicrhau mynediad at farchnadoedd caffael llywodraethau, hynny er mwyn rhoi eglurder a sicrwydd i fusnesau a defnyddwyr.

Fel Bil yr UE (Ymadael), yn y Bil Masnach cyfyngir ar y cymhwysedd gweithredol a roddir i Weinidogion Cymru a'r Alban, ond ni osodir yr un cyfyngiadau ar y cymhwysedd gweithredol a roddir i Weinidogion yr DU.  Hefyd, mae'n rhoi pwerau cydamserol i Weinidogion y DU yn y gwledydd datganoledig a chânt eu harfer heb ofyn caniatâd Gweinidogion Cymru a'r Alban. Nid yw hyn yn dderbyniol. Hefyd, yn ein barn ni, dylai'r Awdurdod Rhwymedïau Masnach, fel corff annibynnol, gael clywed mewnbwn y gwledydd datganoledig yn ogystal â'r Ysgrifennydd Gwladol.

O'r herwydd, ni all Llywodraeth Cymru na Llywodraeth yr Alban argymell bod eu deddfwriaethau yn rhoi eu caniatâd deddfwriaethol i'r Bil fel ag y mae. Mewn ymdrech i wneud y Bil yn dderbyniol o safbwynt datganoli, rydym ar y cyd â Llywodraeth yr Alban wedi datblygu diwygiadau y gobeithiwn eu gweld yn cael eu cyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin. Fe'u hatodir, ynghyd â nodiadau esboniadol. Fel y gwnaethom ei ddatgan ym Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Masnach a osodwyd ar 7 Rhagfyr, yn ein barn ni, dylid ystyried y cwestiwn a ddylid rhoi caniatâd deddfwriaethol neu beidio yng ngoleuni ymateb Llywodraeth y DU i'r diwygiadau hyn.