Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn darparu ar gyfer sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig (CBCau). Mae CBCau yn ei gwneud yn bosibl cyflawni swyddogaethau llywodraeth leol penodol, pwysig ar raddfa ranbarthol lle mae hynny'n gwneud synnwyr, ac yn cefnogi’r broses hon.

Daeth nifer fach o faterion technegol i'r amlwg wrth weithredu'r CBCau hyn, gan gynnwys eu statws trethiant.

Pan fydd materion yn codi o ganlyniad i ddeddfwriaeth y Senedd sy'n golygu bod angen diwygio deddfwriaeth y DU sydd y tu hwnt i gymhwysedd y Senedd, gellir llunio Gorchymyn o dan adran 150 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ‘Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol’, mewn partneriaeth â Llywodraeth San Steffan. 

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gosod Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cyd-bwyllgorau Corfforedig) (Diwygiadau Canlyniadol) 2023 gerbron Senedd y DU.  Bydd y Gorchymyn hwn, os caiff ei gymeradwyo, yn darparu ar gyfer gwneud diwygiadau technegol i’r ddeddfwriaeth ganlynol gan Lywodraeth y DU, i ychwanegu CBCau at eu diffiniadau o awdurdodau lleol neu at y rhestr o gyrff y mae’r ddarpariaeth yn berthnasol iddynt:   

  • Deddf Treth Gorfforaeth 2010 a Deddf Treth Incwm 2007 - sy'n golygu na fydd CBC yn gorfod talu treth gorfforaeth, treth mewn perthynas â'i incwm, neu dreth enillion trethadwy, yn yr un modd ag yn achos unrhyw awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig yn atebol i dalu’r trethi hyn. 
  • Deddf Benthyciadau Cenedlaethol 1968 - sy'n ymestyn pŵer Trysorlys EF i ddarparu benthyciadau i CBCau o'r Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol, yn yr un modd ag y gall ddarparu benthyciadau iddynt fel awdurdodau lleol.
  • Deddf Llywodraeth Leol 1972 – a fydd yn golygu bod CBC yn gallu talu arian sy'n ddyledus i aelod o staff sydd wedi marw heb ofyn am grant profiant neu lythyrau gweinyddu, yn yr un modd ag gall awdurdod lleol.
  • Gorchymyn Taliadau Diswyddo (Parhad Cyflogaeth mewn Llywodraeth Leol, ac ati) (Addasu) 1999 – a fydd yn cefnogi pontio llyfn a pharhad cyflogaeth rhwng CBCau a’r prif gynghorau.
  • Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2013 - sy'n sicrhau bod y pedwar CBC yn dod yn aelodau o'r cynllun, a bod eu gweithwyr yn cael eu derbyn yn awtomatig i Gynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol.

Yn amodol ar gymeradwyaeth Senedd y DU i’r Gorchymyn hwn, caiff y newidiadau hyn eu gwneud erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol.

Mae Gorchymyn i dderbyn y pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig i'r cynllun ad-dalu TAW wedi dod i rym ar 9 Chwefror. Gall CBCau yn derbyn ad-daliad o'r TAW cymwys a delir ganddynt yr un ffordd ag gall awdurdodau lleol.

Mae’r newidiadau hyn yn datrys problemau gweithredol allweddol i CBCau, ac yn galluogi cydweithwyr rhanbarthol gynllunio’n hyderus ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd yn helpu partneriaid i gyflawni eu huchelgeisiau rhanbarthol, datblygu economïau rhanbarthol llwyddiannus, a hybu twf lleol drwy’r CBCau.