Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Deddf 2022) yn darparu ar gyfer sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (y Comisiwn) a diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). 

Y Comisiwn fydd y stiward cenedlaethol cyntaf erioed ar gyfer y sector addysg drydyddol ac ymchwil cyfan, gan ddwyn ynghyd y cyfrifoldeb am oruchwylio addysg uwch ac addysg bellach, darpariaeth chweched dosbarth, prentisiaethau a gwaith ymchwil ac arloesi yng Nghymru mewn un lle. Trwy’r diwygiadau y darperir ar eu cyfer yn Neddf 2022, rydym yn ceisio llunio strwythur a system newydd i gefnogi dysgwyr yn well a rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddysgu, datblygu a llwyddo gydol eu hoes.

Mae angen nifer fach o ddiwygiadau technegol sydd y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd o ganlyniad i Ddeddf 2022. 

Pan fo materion sy'n codi o ddeddfwriaeth y Senedd yn gofyn am ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y tu hwnt i gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gellir datblygu Gorchymyn o dan adran 150 'Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol' o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn partneriaeth â Llywodraeth San Steffan. 

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gwneud Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2024. Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer diwygiadau canlyniadol i'r ddeddfwriaeth ganlynol i ddileu cyfeiriadau at CCAUC, ychwanegu cyfeiriadau at y Comisiwn a gwneud diwygiadau technegol mewn perthynas â darpariaethau sy'n cael eu diddymu o ganlyniad i Ddeddf 2022:   

  • Deddf Anghymhwyso Tŷ'r Cyffredin 1975 - dileu'r cyfeiriad at aelodau CCAUC sy'n derbyn tâl a mewnosod cyfeiriad at aelodau'r Comisiwn sy'n derbyn tâl fel y bydd unrhyw aelod o'r Comisiwn sy'n derbyn tâl yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn aelodau o Dŷ'r Cyffredin.   
  • Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 - amnewid cyfeiriadau at CCAUC a Gweinidogion Cymru gyda chyfeiriad at y Comisiwn fel y bydd y Comisiwn yn cael ei ddiffinio fel awdurdod perthnasol at ddibenion adran 82 o'r Ddeddf honno a bod yn rhaid iddo, os cyfarwyddir iddo wneud hynny gan yr Ysgrifennydd Gwladol, wneud darpariaeth ar y cyd ag awdurdod perthnasol arall, neu'r Ysgrifennydd Gwladol, mewn perthynas ag asesu ansawdd addysg uwch. 
  • Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 – pennu'r Comisiwn fel awdurdod cyhoeddus at ddibenion y Ddeddf honno a dileu'r cyfeiriad at CCAUC. Newid y diffiniad o sefydliad yng Nghymru.
  • Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 – amnewid cyfeiriad at CCAUC gyda chyfeiriad at y Comisiwn er mwyn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol, drwy rybudd, i ddirprwyo swyddogaethau awdurdod monitro mewn perthynas â chyrff addysg uwch perthnasol yng Nghymru i'r Comisiwn.
  • Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 - amnewid cyfeiriad at CCAUC gyda chyfeiriad at y Comisiwn er mwyn galluogi'r Comisiwn i arfer ei swyddogaethau cyllido ar y cyd ag awdurdod perthnasol arall, lle byddai arfer y swyddogaeth ar y cyd yn fwy effeithlon, neu y byddai'n eu galluogi i arfer eu swyddogaethau'n fwy effeithiol. Dileu gwelliannau sy'n cael eu disodli gan ddiwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.