Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Deddf 2022) yn darparu ar gyfer sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (y Comisiwn) a diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). 

Y Comisiwn fydd y stiward cenedlaethol cyntaf erioed ar gyfer y sector addysg drydyddol ac ymchwil cyfan, gan ddwyn ynghyd y cyfrifoldeb am oruchwylio addysg uwch ac addysg bellach, darpariaeth chweched dosbarth, prentisiaethau a gwaith ymchwil ac arloesi yng Nghymru mewn un lle. Trwy’r diwygiadau y darperir ar eu cyfer yn Neddf 2022, rydym yn ceisio llunio strwythur a system newydd i gefnogi dysgwyr yn well a rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddysgu, datblygu a llwyddo gydol eu hoes.

Mae angen nifer fach o ddiwygiadau technegol sydd y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd o ganlyniad i Ddeddf 2022. 

Pan fo materion sy'n codi o ddeddfwriaeth y Senedd yn gofyn am ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y tu hwnt i gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gellir datblygu Gorchymyn o dan adran 150 'Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol' o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn partneriaeth â Llywodraeth San Steffan. 

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gwneud a gosod Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 2024 gerbron Senedd y DU. Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer diwygiadau canlyniadol i'r ddeddfwriaeth ganlynol:

  • Rheoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008 – rhoi cyfeiriadau at y Comisiwn yn lle cyfeiriadau at CCAUC, fel bod elusennau sy'n derbyn cymorth ariannol o gronfeydd a weinyddir gan y Comisiwn yn dod o fewn y diffiniad o "elusen achos arbennig" at ddibenion y Rheoliadau hyn. 
  • Rheoliadau Elusennau (Eithrio rhag Cofrestru) 2010 - rhoi cyfeiriadau at y Comisiwn yn lle cyfeiriadau at CCAUC, at ddibenion sicrhau y bydd sefydliadau a oedd gynt yn perthyn i gategori a restrir yn rheoliad 3 yn parhau i gael eu hesemptio o'r ddyletswydd i gofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau.