Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 yn gosod cyfres o gyfyngiadau ar ymgynnull a symud gan bobl ac ar y ffordd y caiff busnesau eu gweithredu, gan gynnwys cau busnesau. Maent yn eu gwneud yn ofynnol i fusnesau sydd ar agor gymryd mesurau rhesymol i leihau’r perygl i bobl ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Eu bwriad yw diogelu pobl rhag lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2).

Mae nifer yr achosion ledled Cymru yn cynyddu ac mae ein gwasanaeth iechyd yn dod o dan bwysau.  

Er mwyn cadw Cymru'n ddiogel, mae Llywodraeth Cymru felly'n diwygio'r Rheoliadau i'w gwneud yn glir na fyddai pobl sy'n byw mewn ardaloedd lle ceir lefelau uchel o’r coronafeirws yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael teithio i rannau o Gymru lle mae nifer yr achosion yn isel.

Mae'n hanfodol ein bod yn cadw cymunedau sydd â lefelau heintio isel mor ddiogel â phosibl, a bydd y cyfyngiad synhwyrol ac angenrheidiol hwn yn helpu i atal y feirws rhag symud o ardaloedd trefol, poblog iawn i ardaloedd llai poblog.

Mae gwaharddiad eisoes ar deithio i ardal diogelu iechyd leol yng Nghymru, boed hynny o rannau eraill o Gymru, o rannau eraill o’r DU neu o wledydd eraill. Fel yn achos y rheolau ar gyfer ardaloedd diogelu iechyd lleol, mae rhai eithriadau, er enghraifft teithio ar gyfer gwaith neu i ddarparu gwasanaethau elusennol neu wirfoddol os nad oes modd i bobl wneud y rheini lle maent yn byw.

Rydym yn sylweddoli hefyd bod hwn yn gyfnod arbennig o anodd i blant a phobl ifanc a byddwn yn diwygio'r Rheoliadau i ganiatáu i blant adael eu hardaloedd diogelu iechyd lleol i gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau eraill fel dosbarthiadau drama neu ddawns, sydd mor bwysig i'w hiechyd a'u lles meddyliol a chorfforol.  

Os byddwn i gyd yn parhau i weithio gyda'n gilydd, gallwn amddiffyn ein hunain a’n teuluoedd a diogelu Cymru.