Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Awst 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r datganiad ysgrifenedig hwn yn cael ei osod o dan Reol Sefydlog 30 – Hysbysu mewn perthynas â Biliau Senedd y Deyrnas Unedig.

Cyflwynwyd y Bil Dadreoleiddio yn Nhŷ’r Cyffredin ar 23 Ionawr 2014.  Mae nifer o ddiwygiadau wedi cael eu gwneud ers cyflwyno’r Bil.  Y diwygiad perthnasol i’r datganiad hwn yw’r un sy’n ymwneud â chaniatáu cynnal rasys moduron ar ffyrdd cyhoeddus.  Yr Arglwydd Wallace o Saltaire gyflwynodd y diwygiad yn ystod y Cam Pwyllgor yn Nhŷ’r Arglwyddi ar  1 Awst 2014.   Bydd swyddogaethau Gweinidogion Cymru yn cael eu haddasu yn sgil y diwygiad hwn.

Amcanion polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer y Bil Dadreoleiddio yw lleihau’r  pwysau y mae rheoliadau diangen neu ormodol yn ei roi ar fusnesau, cymdeithas sifil, cyrff cyhoeddus, y trethdalwr neu unigolion a thrwy hynny, greu twf.

Mae’r Bil yn eang iawn ac yn cynnwys nifer o ddarpariaethau sy’n ymwneud â materion sydd wedi’u datganoli i Gymru, un ai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad neu swyddogaeth Gweinidogion Cymru.

Mae’r datganiad hwn yn ymwneud â’r diwygiad a fyddai’n codi’r gwaharddiad ar rasio moduron ar ffyrdd cyhoeddus.  Bydd y diwygiad yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch rasys moduron ar ffyrdd cyhoeddus.

Ar hyn o bryd, ni chaniateir cynnal rasys moduron na threialon cyflymder ar briffyrdd cyhoeddus y DU oni bai bod yna Ddeddf Seneddol benodol ar gyfer hynny.  Mae Llywodraeth y DU yn ceisio diwygio adran 12 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 i godi’r gwaharddiad ar rasio moduron ar ffyrdd cyhoeddus a diwygio Adran 16a o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, er mwyn codi’r gwaharddiad ar gau ffyrdd ar gyfer rasys moduron neu dreialon cyflymder.

O dan y darpariaethau hyn, gallai awdurdodau priffyrdd wneud Gorchmynion rasys moduron a fyddai’n codi cyfreithiau ffyrdd penodol dros dro er mwyn caniatáu i ras foduron gael ei chynnal ar ffyrdd cyhoeddus (ar gau dros-dro).  Cyn gall trefnwyr rasys ymgeisio am Orchymyn ar gyfer ras moduron, mae’n rhaid iddyn nhw gael caniatâd gan gorff llywodraethu chwaraeon moduron.  Bydd Gweinidogion Cymru yn gallu gwneud Rheoliadau sy’n nodi pa gyrff llywodraethu chwaraeon moduron sy’n gallu dosbarthu trwyddedau a’r math o rasys moduron a threialon cyflymder y gellir eu cynnal.  Hefyd, gall Gweinidogion Cymru bennu pa wybodaeth sy’n angenrheidiol mewn Gorchymyn rasys moduron sy’n cael ei ddosbarthu gan awdurdod priffyrdd Cymru.    Mae’r darpariaethau hyn hefyd yn cynnwys tabl o ddarpariaethau o fewn Deddf Traffig Ffyrdd 1988 a Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 nad ydynt yn berthnasol yn ystod ras foduron a drefnir o dan Orchymyn ras foduron.  Byddai Gweinidogion Cymru’n gallu ychwanegu neu gael gwared ar ddarpariaethau o’r tabl hwn drwy reoliadau.

Mae’r diwygiad hwn y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynlluniad Cenedlaethol.  Fodd bynnag, mae pwerau Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau fel y disgrifir uchod yn golygu y gall Gweinidogion Cymru reoleiddio chwaraeon moduron yng Nghymru o hyd, a byddwn yn ystyried yn ofalus y manteision a’r anfanteision o rasio moduron ar ffyrdd cyhoeddus Cymru wrth arfer y pŵer hwnnw.  Felly, rwyf wedi rhoi caniatâd i Lywodraeth y DU geisio gwneud darpariaeth ar gyfer pwerau Gweinidogion Cymru sy’n ymwneud â darpariaethau yn y Bil ar gyfer rasio moduron ar ffyrdd cyhoeddus.

Ystyrir ei bod yn briodol i’r darpariaethau hyn gael eu gwneud drwy’r Bil Dadreoleiddio gan na ellir gwneud y darpariaethau hyn o dan Ddeddf y Cynulliad.  

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad gan fod Rheol Sefydlog 30 yn datgan bod yn rhaid gosod Datganiad Ysgrifenedig ddim hwyrach na dwy wythnos ar ôl cyflwyno’r diwygiad i Senedd y Deyrnas Unedig.  Fodd bynnag, pe byddai’r aelodau’n dymuno i mi wneud datganiad pellach neu i ateb cwestiynau ynghylch y mater hwn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull, byddaf yn fwy na hapus i wneud hynny.