Vikki Howells, Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch
Rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi sector addysg uwch cynaliadwy, gyda sefydliadau cadarn a all gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer dysgwyr. Mae ein prifysgolion hefyd yn elfen allweddol o'n hymrwymiad i ysgogi twf economaidd trwy gefnogi a thyfu ymchwil ac arloesi ar gyfer ein busnesau a'n diwydiant.
Rwy'n cydnabod bod y sector addysg uwch yng Nghymru - ac ar draws y DU - yn wynebu cyfnod heriol a hefyd ddewisiadau poenus i sicrhau sylfaen ariannol gadarn ar gyfer sefydliadau. Wrth bwyso a mesur yr opsiynau anodd hyn, ac yn enwedig gynigion ynghylch torri swyddi, rwy'n disgwyl i bob sefydliad weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ag undebau llafur, staff a myfyrwyr ac archwilio opsiynau'n llawn cyn ystyried diswyddiadau gorfodol.
Rydym ni fel Llywodraeth wedi nodi ein gweledigaeth ar gyfer dysgu ôl-16 drwy'r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil a thrwy sefydlu Medr. Mae Medr eisoes wedi cychwyn ar raglen ddiwygio o ran sut caiff ein sefydliadau eu rheoleiddio, gyda ffocws penodol ar wella ansawdd, llywodraethu, rheolaeth ariannol a lles staff a myfyrwyr. Trwy'r Ddeddf newydd, rwyf am sicrhau ein bod yn elwa i'r eithaf ar y cyfle hwn i drawsnewid y sector. Rwyf wedi bod yn siarad â'r sector ac wedi ymweld â'n holl sefydliadau i ymgysylltu ag Is-Gangellorion, staff, undebau a dysgwyr. Rwyf hefyd wedi gwahodd yr Is-Gangellorion i gyfarfod bwrdd crwn ddechrau mis Mawrth er mwyn cynnal trafodaethau pellach am yr heriau y mae'r sector yn eu hwynebu ar hyn o bryd.
Er mwyn cefnogi ein prifysgolion, rwyf eisoes wedi cynyddu'r cap ffioedd dysgu ar gyfer 2025/26, gan ddarparu hyd at £21.9m mewn incwm ychwanegol i brifysgolion, ac rwyf hefyd wedi darparu £10m yn ychwanegol mewn cyllid grant i'r sector. I gydnabod yr heriau ariannol sylweddol y mae addysg uwch yn eu hwynebu, rwy'n falch o gyhoeddi heddiw y bydd gwerth £18.5m o gyllid cyfalaf ychwanegol ar gael yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Bydd yr arian ychwanegol hwn yn cefnogi prifysgolion gyda chynnal a chadw ystadau a phrosiectau digidol i leihau costau gweithredu, tra hefyd yn gwella cynaliadwyedd amgylcheddol a sicrhau bod cyfleusterau'n parhau i fod yn addas ar gyfer darparu profiad o'r radd flaenaf i fyfyrwyr a chyflawni ymchwil cwbl arloesol. Rwyf hefyd wedi gofyn i Medr adrodd yn ôl i mi ar sut mae'r cyllid hwn wedi'i ddefnyddio yn y ffordd orau bosibl i gyflawni arbedion at y dyfodol i leddfu'r heriau ariannol presennol.
Rwyf wedi cyfarfod â Gweinidog Sgiliau Llywodraeth y DU i drafod sut mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at eu cynlluniau ar gyfer diwygio addysg uwch gan gynnwys Strategaeth Addysg Ryngwladol newydd y DU, dyfodol buddsoddiad strwythurol a chyllid ymchwil ledled y DU, goruchwylio cyllid a chyllid myfyrwyr yn y dyfodol ac adolygiad ledled y DU o lywodraethu ac arweinyddiaeth yn ein prifysgolion. Mae Prifysgolion Cymru hefyd yn rhan o dasglu Universities UK ar gyfer Gwerth am Arian ac Effeithlonrwydd, a byddant yn ystyried sut y gellir cymhwyso ei argymhellion, unwaith y cânt eu cyhoeddi, i Gymru.
Rwyf hefyd wedi gofyn i Medr ymgymryd â throsolwg o'r galw am bynciau, darpariaeth a dosbarthiad mewn Addysg Uwch yng Nghymru, ac i ystyried lle gallai fod angen ymyriadau i sicrhau parhad meysydd pwnc strategol bwysig yng Nghymru sy'n hanfodol i lwyddiant gwasanaethau cyhoeddus.
Mae gwerthusiad o'r ffordd yr ydym yn ariannu ein pecyn cymorth i fyfyrwyr eisoes ar y gweill i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu hannog a'u cefnogi i symud ymlaen i addysg uwch. Rydym yn cynnig y pecyn cymorth mwyaf hael i ddysgwyr o blith gwledydd y DU ac rwyf am sicrhau ein bod yn elwa i'r eithaf ar ein buddsoddiad i gynyddu cyfranogiad. Er mwyn cefnogi'r uchelgais hwn yn ehangach, rydym yn darparu £1.5m ychwanegol yn y gyllideb ddrafft ar gyfer gweithgareddau penodol sy'n anelu at wella cyfranogiad ac sy'n buddsoddi mewn gwella presenoldeb a chyrhaeddiad mewn ysgolion gan mai dyma'r sylfeini allweddol ar gyfer cynyddu cyfranogiad yn y tymor hwy.
Rwyf hefyd yn datblygu gweithgareddau i annog dysgwyr i anelu at addysg uwch fel rhan o'm ffocws ar gynyddu ac ehangu cyfranogiad. Mae Academi Seren wedi bod yn gweithio'n agos gyda phrifysgolion Cymru ers blynyddoedd lawer a byddaf yn eu gwahodd i ystyried eto pa rai o'u cyrsiau y maen nhw'n credu y dylid eu blaenoriaethu o fewn gwaith y rhaglen hon. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod cysylltiad cryf rhwng pob prifysgol yng Nghymru ac Academi Seren ac rwy'n ail-lunio'r rhaglen i helpu i gynyddu nifer y dysgwyr o gefndiroedd mwy difreintiedig sy’n gallu bod yn rhan ohoni.
Er mwyn parhau i gefnogi gweithgareddau recriwtio a hyrwyddo rhyngwladol prifysgolion, sydd mor hanfodol i'w seiliau deallusol ac ariannol, byddaf yn buddsoddi £500,000 arall yn y rhaglen Cymru Fyd-eang, dan arweiniad Prifysgolion Cymru, am flwyddyn bontio. Bydd y cyfnod hwn pan fydd yr arian ychwanegol ar gael yn cael ei ddefnyddio ar gyfer trafod a chynllunio o ran cymorth tymor hwy i’r maes gwaith pwysig hwn.
Mae prifysgolion ledled Cymru yn sefydliadau angori o fewn ein heconomi, ein cymunedau a'n diwylliant. Byddaf yn cydweithio â'r sector a phartneriaid eraill, ar y cyd â Medr, wrth i ni wynebu'r amser heriol hwn, a hynny er mwyn diogelu dyfodol addysg uwch yng Nghymru. Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd.