Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y llynedd fe wnaethom gyhoeddi'r ymatebion i'n hymgynghoriad ar ddiwygio gwasanaethau bysiau yng Nghymru. Roedd cefnogaeth ysgubol i newid ac mae'r achos dros ddiwygio sylfaenol wedi'i gryfhau ymhellach o hyd gan yr heriau parhaus sy'n wynebu'r diwydiant.

Mae Aelodau'r Senedd, yn ddealladwy, yn pryderu am y newidiadau yr ydym wedi'u gweld i wasanaethau mewn gwahanol rannau o Gymru, er gwaethaf y cyllid ychwanegol rydym yn parhau i'w ddarparu: £42 miliwn eleni a thros £200 miliwn ers dechrau Covid-19. Wrth inni bontio o'r cymorth brys a gynhaliodd y diwydiant trwy Covid a'i ganlyniadau, mae'n dod yn fwy amlwg bod y model gweithredu preifateiddio ar gyfer gwasanaethau bysiau wedi torri. 

Er gwaethaf yr arian ychwanegol rydym wedi'i ddarparu, rydym yn dal i wynebu cyfuniad heriol o gostau cynyddol a llai o alw, ac mae hyn wedi arwain at gwmnïau bysiau ledled Cymru yn torri'n ôl ar lwybrau ac amlder gwasanaethau. Rwy'n ddiolchgar am y ffordd gydweithredol y mae cwmniau bysiau ledled Cymru wedi gweithio gyda ni i reoli effaith yr heriau hyn, ond waeth beth fo'r arian cyhoeddus er achubiaeth economaidd a ddarparwyd ers y pandemig, os nad yw gwasanaethau'n gwneud llawer o elw neu'n gwneud colled nid oes gan gwmniau preifat unrhyw gymhelliant i barhau i'w rhedeg - heb gymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru nac awdurdodau lleol.

Yn y pen draw, mae angen diwygiad ar raddfa gyfan, cynllunio rhwydwaith, a model gweithredu sy'n rhoi teithwyr a budd y cyhoedd o flaen elw. Mae ein Papur Gwyn yn nodi ein cynllun i ddod ag awdurdodau lleol at ei gilydd ar lefel ranbarthol, ynghyd â Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru, i gytuno ar y math o rwydweithiau yn eu hardal.

Ond allwn ni ddim fforddio aros. Mae'r Timau Cynllunio Rhanbarthol rydym wedi'u sefydlu yn bont tuag at y model newydd hwnnw. Maent yn parhau i weithio'n gyflym ac o dan bwysau sylweddol i sefydlu pa wasanaethau sy'n hyfyw heb gymorth ariannol a blaenoriaethu'r llwybrau sydd bwysicaf i'r bobl a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.  Ni ellid gwneud hyn heb y mewnbwn a'r gefnogaeth barhaus gan y cwmniau, y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru a Chymdeithas Bysiau Cymru.

Mae'r dull partneriaeth hwn yn brawf bod cyfle mewn adfyd, gan alluogi'r Timau Cynllunio Rhanbarthol i wneud cynnydd sylweddol wrth adolygu ac addasu eu rhwydweithiau i adlewyrchu'n well batrymau teithio ar ôl Covid. Byddwn yn gallu cyflawni llawer mwy pan fydd dyluniad ein rhwydwaith yn gyfrifoldeb cyhoeddus yn hytrach nag ymarfer sy'n cael ei arwain gan elw, ond gall y Timau Cynllunio Rhanbarthol fod yn sail i strwythur i gytuno ar rwydwaith bysiau masnachfraint yn y dyfodol. 

Ochr yn ochr â'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE yn ei rôl fel Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Phrif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru, James Price, rwy'n cyfarfod ag arweinwyr trafnidiaeth rhanbarthol i drafod y ffordd ymlaen. Rydym i gyd yn cydnabod bod angen inni weithio gyda'n gilydd yn wahanol: yn y tymor byr i leddfu'r heriau presennol sy'n wynebu'r diwydiant, ac yna y tu hwnt i hynny i ddarparu gwasanaethau bysiau i'n cymunedau sy'n addas ar gyfer y dyfodol. 

O dan ein model newydd, bydd gan lywodraeth leol rôl gryfach a gweithredol, gan weithio gyda ni'n rhanbarthol i ddatblygu cynllun clir ar gyfer y rhwydwaith yn eu hardaloedd. Byddant yn gweithio'n agos gyda Trafnidiaeth Cymru a fydd yn arwain ar gaffael y gwasanaethau hynny, gan gefnogi darparu rhwydwaith cydlynol, cyson, wedi'i gynllunio'n dda ac ystyriol o deithwyr, gyda thocynnau syml, fforddiadwy - sy'n ddilys ar draws yr holl wasanaethau. 

Fodd bynnag, mae heriau uniongyrchol hefyd y mae'n rhaid inni eu goresgyn.  Mewn ymateb i'm her, mae Trafnidiaeth Cymru, Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr, Cymdeithas Bysiau Cymru ac awdurdodau lleol wedi bod yn gweithio ar y cyd ar ymgyrch sy'n wynebu cwsmeriaid i annog defnydd bysiau yng Nghymru. Rwy'n falch o gadarnhau bod Yn Ôl ar y Bws bellach wedi lansio, a bydd yn ymddangos ar draws sianeli cymdeithasol, digidol a thu allan i'r cartref ledled Cymru yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod. Mae'r ymgyrch hefyd yn ymgorffori pecyn cymorth a ddatblygwyd yn benodol fel y gall rhanddeiliaid, gan gynnwys Aelodau'r Senedd, gefnogi ac ehangu ei negeseuon allweddol. Gwn fod diddordeb yn hyn ar draws y siambr ac rwy'n annog pob Aelod i gefnogi'r ymgyrch bwysig hon yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau eu hunain.

Yn olaf, rwy'n ymwybodol bod rhai cwmniau wedi nodi effaith 20mya fel rhan o'u cyfiawnhad dros leihau gwasanaethau.  Er ein bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i adolygu y dystiolaeth yn ofalus o unrhyw effaith wrth i gyflymder is sefydlu ledled Cymru, rhaid i'r ateb flaenoriaethu bysiau drwy draffig - nid bysiau cyflymach mewn ardaloedd adeiledig.

Mae lonydd bysiau pwrpasol a mesurau syml wrth oleuadau traffig ac ar gyffyrdd yn helpu i ryddhau tagfeydd a rhoi hwb ychwanegol i fysiau mewn mannau traffig prysur, gan wneud teithiau yn fwy hyfyw a dibynadwy. Maent yn chwarae rhan bwysig wrth helpu i gynnal y gwasanaethau presennol a chreu'r llwyfan ar gyfer rhwydwaith gwell a mwy deniadol yn y dyfodol. Rwyf am weld ffocws o'r newydd ar fesurau blaenoriaethu bysiau ac i gefnogi hyn rwyf wedi sicrhau bod £6 miliwn ar gael eleni, a £5 miliwn ar gael y flwyddyn nesaf i annog awdurdodau lleol i wneud cais am gyllid grant.