Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) ei basio gan y Senedd ym mis Tachwedd 2023 ac fe gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 5 Chwefror.

Yn ystod gwaith craffu'r Senedd ar y Ddeddf, dywedais y byddai Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar egwyddorion gweithredol cyfundrefn gaffael newydd ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. 

Gwnaethom ofyn am farn ynghylch a ddylai'r drefn newydd gyd-fynd â newidiadau a gyflwynwyd yn Lloegr dan Gyfundrefn Dethol Darparwyr Llywodraeth y DU, ynteu a ddylai fod yn wahanol. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 23 Chwefror.

Cafwyd cyfanswm o 34 o ymatebion, gan ystod o randdeiliaid. Bydd yr adborth yn llywio'r egwyddorion gweithredol, rheoliadau'r dyfodol a'r canllawiau statudol cysylltiedig a fydd yn sail i'r drefn gaffael newydd ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. 

Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad.

Mae crynodeb o’r ymatebion ar gael yn: Diwygio Caffael yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru