Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch o gadarnhau ein bod wedi dirwyn y negodiadau ynghylch Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol 2023-24 i ben.

Fel y bydd yr aelodau yn gwybod eisoes, mae fy swyddogion i, GIG Cymru a Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru wedi bod ynghlwm wrth y negodiadau ar Gontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol 2023-24 ers mis Medi. Mae'r rhain wedi'u cynnal yn erbyn cefndir ariannol a gweithredol heriol iawn.

Rwyf wedi clywed cryfder teimladau meddygon teulu ynghylch dyfodol ymarfer cyffredinol, drwy’r ymgyrch Achubwch Ein Meddygfeydd. Mae’r teimladau hyn wedi’u cadarnhau hefyd gan y ddeiseb a gyflwynwyd i’r Senedd. Mae Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru wedi nodi’r heriau a wynebir yn glir yn ein trafodaethau diweddar. Rwy’n cydnabod na fydd y materion a amlygwyd yn cael eu datrys drwy un flwyddyn o fuddsoddiad yn unig. Mae'n hanfodol inni weithio gyda'n gilydd, gyda GIG Cymru a chyda Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru i ddod o hyd i atebion. 

Mae staff o bob rhan o'r sector yn parhau i weithio'n ddiflino er gwaetha'r galw parhaus i ddiwallu anghenion eu cleifion. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i fynegi fy ngwerthfawrogiad o ymdrechion yr holl staff sy'n gweithio mewn ymarfer cyffredinol, a diolch hefyd am eu hymrwymiad parhaus i ddarparu gofal o ansawdd uchel. Rwy’n falch bod ein buddsoddiad mewn gwasanaethau meddygol cyffredinol yn cynnwys codiad cyflog o 5% ar gyfer y staff hynny. 

Rwy'n croesawu bod datrysiad ymarferol wedi’i ganfod. Bydd buddsoddiad o £20m yn cael ei wneud mewn gwasanaethau meddygol cyffredinol ar adeg o gyfyngiadau ariannol sylweddol. Ar yr un pryd, rwy’n cydnabod hefyd nad yw'r canlyniad y flwyddyn hon yn datrys yn llwyr y mater parhaus o sicrhau cynaliadwyedd mewn ymarfer cyffredinol. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd i ddatblygu ein blaenoriaethau a rennir dros y flwyddyn sydd i ddod.