Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Yn sgil y penderfyniad i ail-ddechrau trafodaethau contract ar gyfer meddygon preswyl a deintyddion yng Nghymru, a oedd, fel rhan o gytundeb 2023-24, i roi terfyn ar weithredu diwydiannol, mae BMA Cymru a Chyflogwyr GIG Cymru wedi cymryd rhan mewn trafodaethau ffurfiol ar gynigion ar y cyd ar gyfer telerau ac amodau diwygiedig.
Rwy'n ddiolchgar i BMA Cymru ac i Gyflogwyr GIG Cymru am y modd y buont yn cydweithio, ac rwy'n falch iawn bod y contract a gynigir wedi cael ei dderbyn yn dilyn canlyniadau refferendwm ymhlith meddygon preswyl sy'n aelodau o BMA Cymru.
Mae'r cytundeb hwn yn garreg filltir arwyddocaol yn ein hymrwymiad parhaus i fuddsoddi a moderneiddio telerau ac amodau ar gyfer gweithwyr proffesiynol meddygol a deintyddol, a hefyd i sicrhau bod GIG Cymru yn parhau i fod yn lle deniadol a chefnogol i feddygon preswyl a deintyddion hyfforddi a gweithio.
Nod y cytundeb hwn yw:
- Darparu strwythur cyflogau teg a blaengar, sy'n cyd-fynd â sgiliau a phrofiad.
- Gwella recriwtio, cadw, cymhelliant, ac ymgysylltu ar gyfer meddygon preswyl a deintyddion, er mwyn gwneud Cymru yn gyrchfan a ffefrir ar gyfer hyfforddiant meddygol a deintyddol.
- Sicrhau bod gofal o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu trwy alluogi cyflogwyr a phreswylwyr i gyflawni cyfrifoldebau a rennir ar gyfer y cleifion, tra'n parhau'n gystadleuol mewn perthynas â rhaglenni hyfforddi eraill yn y DU a thramor.
- Cynnal hawl glir i gael amser astudio gwarchodedig; moderneiddio telerau ac amodau i gefnogi llesiant a diogelwch cleifion; ac enillion ar fuddsoddiad yn unol â Cymru Iachach a Strategaeth y Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Hoffwn ddiolch i'r holl bartïon perthnasol am eu parodrwydd i weithio ar y cyd wrth gyrraedd y cytundeb hwn. Mae hyn yn dangos cryfder partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, a'n hymrwymiad a rennir i ddarparu gofal o ansawdd uchel.
