Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n falch o gyhoeddi bod y negodiadau ar gyfer contract y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ar gyfer 2020-21 wedi dod i ben a bod cytundeb wedi'i daro a fydd yn arwain at fuddsoddiad sylweddol mewn Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol eleni. O ganlyniad, unwaith eto, rydym mewn sefyllfa lle mae gwerth wedi’i bwysoli pob claf fesul punt o’r Swm Craidd yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr.

Er gwaethaf effaith barhaus COVID-19, rydym wedi parhau â'n rhaglen uchelgeisiol o ddiwygio contractau gofal sylfaenol. Caiff y dull ei reoli drwy'r Cyd-grŵp Cysondeb Diwygio Gofal Sylfaenol. Mae'r grŵp hwn yn dod â rhanddeiliaid gofal sylfaenol ynghyd o bob rhan o'r sector, gan osod cyfeiriad strategol clir ar gyfer diwygio'r holl gontractau gofal sylfaenol a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â set o flaenoriaethau cyffredin y cytunwyd arnynt. Mae’r blaenoriaethau hynny’n cynnwys mynediad, ansawdd ac atal, gweithio ar raddfa fwy a’r gweithlu.

O fewn y strwythur hwnnw, mae Grŵp Goruchwylio Contract y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol wedi parhau i weithredu drwy gytundeb teirochrog sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, y Pwyllgor Meddygon Teulu a Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru. Ni yw'r unig wlad o hyd yn y DU i gynnwys y gwasanaeth iechyd yn llawn mewn gwaith ar ddiwygio'r contract, ac unwaith eto, rwy’n falch o weld y cysondeb a'r integreiddio cryf sydd wedi bod yn amlwg o ganlyniad i hyn.

Mae’r cylch hwn o negodiadau wedi cael ei gynnal yn ystod cyfnod heriol iawn ac rwy’n croesawu ymrwymiad yr holl bartïon i gydweithio i gyflawni cytundeb sy’n darparu buddsoddiad ychwanegol i adeiladu ar gynaliadwyedd gwasanaethau ac i gydnabod y rôl hanfodol y mae pob aelod o staff practis yn ei chwarae wrth barhau i ddarparu Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol.

Mae'r contract newydd yn adeiladu ymhellach ar y newidiadau a welwyd yn 2019-20, gan symud ymhellach tuag at gyflawni amcanion Cymru Iachach gan gadw'r newidiadau cadarnhaol a welwyd fel rhan o'n hymateb i'r pandemig COVID-19, sy’n cynnwys gweithio o bell a threfniadau brysbennu gwell. Yn benodol, bydd y cytundeb hwn yn golygu:

 

  • Cryfhau mynediad ymhellach at wasanaethau gofal sylfaenol, gan gynnwys cytundeb i gydweithio i alluogi atgyfeiriadau at Wasanaethau Meddygol Cyffredinol o'r system gofal heb ei drefnu ehangach er mwyn symleiddio taith y claf drwy'r system honno.

 

  • Dileu’r ffi i gleifion sy’n gysylltiedig â chael gweithiwr iechyd proffesiynol i gwblhau Ffurflen Tystiolaeth Dyled ac Iechyd Meddwl, gan ddileu'r rhwystrau a wyneba ein grwpiau mwyaf agored i niwed wrth geisio’r cymorth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt.

 

  • Cyflwyno Safonau Mynediad newydd o fis Mawrth 2021, yn amodol ar yr ymgynghoriad angenrheidiol ar y fersiwn newydd o'r safonau. Bydd mân ddiwygiadau'n cael eu gwneud i fesurau'r safonau presennol a fydd yn parhau i fod ar waith am weddill 2020-21.

 

  • Cyflwyno Prosiect Gwella Ansawdd newydd yn ymwneud â chynllunio ar gyfer gofal brys a’r hyn a ddysgwyd o COVID-19 ar draws clystyrau, gyda chysylltiadau cryf â gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud ar lefel clwstwr.

 

Er mwyn cydnabod y newidiadau y cytunwyd arnynt ar gyfer 2020-21, mae'r trefniadau cyllido canlynol wedi'u gwneud:

 

  • Taliad chwyddo o 2.8% yn elfen tâl meddygon teulu y contract ar gyfer treuliau cyffredinol, gan fodloni’n llawn argymhelliad y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion ynghylch tâl.

 

  • Buddsoddiad o £4.1m i ariannu taliad chwyddo o 2.8% yng nghyflog holl staff practisiau. Bydd hyn yn ofyniad contractiol eleni, i gydnabod y rôl hanfodol y mae staff practisau yn ei chwarae wrth ddarparu Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol.

 

  • Dyfarniad pellach o £1.9m i elfen treuliau cyffredinol y contract, gan gynnwys buddsoddiad i ariannu’n llawn y costau refeniw parhaus yn sgil ymwreiddio ffyrdd newydd o weithio, fel y gwelwyd o ganlyniad i COVID-19.

 

  • Buddsoddiad o £4.1m i’r Swm Craidd, drwy dynnu dangosyddion AF anweithredol a dangosyddion cofrestr clefydau oddi ar y Fframwaith Gwella a Sicrhau Ansawdd, gyda chofrestri clefydau yn dod yn rhan ganolog o’r contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol.

 

Ynghyd â'r newidiadau ariannol, cytunwyd ar weithgareddau fel rhan o'r contract wedi'i ddiwygio a fydd yn adeiladu ar systemau presennol sydd ar waith ar gyfer sicrhau ansawdd ac argaeledd data ac i rannu’r data hynny. Mae hyn yn cynnwys creu cofnod data sylfaenol a gaiff ei gefnogi gan ganolfan ddadansoddi a data canolog a threfniadau gweithio ar y cyd i ddatblygu gwaith mewn perthynas â data ar dreuliau ymarferwyr cyffredinol er mwyn deall yn well beth fydd effaith newidiadau i’r contract yn y dyfodol.

Mae Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol wedi chwarae rhan bwysig yn ystod y pandemig, gyda’r holl bractisau ar agor drwy gydol y cyfnod, yn ymateb yn ystwyth ac yn arloesol i fodloni gofynion newydd y sefyllfa eithriadol hon. Mae'r dyfarniad hwn yn dangos fy ngwerthfawrogiad o ymdrechion meddygon teulu a'r holl staff sy'n gweithio mewn practisau am eu hymroddiad a'u hymrwymiad yn ystod yr ymateb i COVID-19.  

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i’m holl gyfeillion yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru am eu gwaith parhaus a’u hymrwymiad i’r rhaglen ddiwygio hon. Rwy’n llawn gydnabod lefel yr ymrwymiad a ddangoswyd mewn cyfnod mor heriol i gyrraedd y cytundeb hwn ac rwy’n hyderus y bydd yr ymdrech gydweithredol yn parhau i’n rhoi mewn sefyllfa dda wrth inni symud ymlaen.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn fodlon gwneud hynny.