Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffem i bawb yng Nghymru sydd am gael gofal deintyddol y GIG allu cael y gofal hwnnw. Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i ddiwygio deintyddiaeth gofal sylfaenol a chynyddu’r nifer sy’n gallu cael gafael ar ofal deintyddol.

Roedd ymateb y gwasanaethau deintyddol ac iechyd y geg i Cymru Iachach yn nodi newid ar draws y system ddeintyddiaeth yn gyfan er mwyn sicrhau mwy o ofal ataliol sydd wedi’i arwain gan anghenion. Wrth wraidd hyn mae gwella canlyniadau i bobl drwy fodelau ataliol o ofal – mae diwygio’r contract sy’n sail i’r broses o ddarparu gwasanaethau deintyddol, ac o dalu amdanynt, yn cynorthwyo hynny.

Bellach mae mwy o bractisau yn darparu gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar ofal a thriniaeth ataliol yn hytrach na mynd i rigol o gyflawni targedau yn ôl Unedau o Weithgaredd Deintyddol yn unig.

Mae’n anochel bod y pandemig wedi cael effaith ar y gwaith diwygio – yn union fel y mae wedi cael effaith ar nifer y bobl y mae modd eu gweld ym maes deintyddiaeth oherwydd y mesurau iechyd y cyhoedd y mae angen eu gweithredu i ddiogelu staff a chleifion.

Cyn y pandemig, roedd tua 40% o bractisau a oedd yn dal contractau deintyddol y GIG yng Nghymru yn rhan o’r broses o ddiwygio contractau, neu wedi ymrwymo i fod yn rhan ohoni. Mae’r pandemig wedi oedi’r cynnydd hwnnw, ond rydym wedi parhau i ddysgu a phrofi mesurau amgen yn ystod y cyfnod adfer ac ailosod.

O fis Ebrill 2022, gofynnwyd i bractisau’r GIG ddewis rhwng bod yn rhan o’r rhaglen ddiwygio neu ddychwelyd i’r trefniadau contractiol sy’n seiliedig yn llwyr ar gyflawni Unedau o Weithgaredd Deintyddol. Y targed disgwyliedig i’r practisau hyn o ran Unedau o Weithgaredd Deintyddol fydd 95% o’r lefel cyn COVID/cyn diwygio.

Bydd y practisau sy’n rhan o’r broses o ddiwygio contractau yn canolbwyntio ar atal ac ar ofal sy’n seiliedig ar anghenion. Mae hyn yn golygu y byddant yn symud oddi wrth archwiliadau rheolaidd bob chwe mis ar gyfer pob claf. Argymhellodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) y dylid symud oddi wrth archwiliad chwe mis i bawb yn 2004.

Mae symud oddi wrth archwiliadau ddwywaith y flwyddyn yn newid sylweddol o’r hyn y mae pobl wedi arfer ag ef. Bydd ymgyrch gyfathrebu a dargedir yn cael ei chynnal er mwyn helpu i gefnogi practisau ac i roi gwybodaeth i bobl am fanteision hunanofal. Gobeithiaf y gallaf ddibynnu ar gefnogaeth yr Aelodau o ran cyfleu’r neges bwysig hon i’w hetholwyr.

Bydd y capasiti sy’n cael ei ryddhau ar gael i ddarparu apwyntiadau i gleifion newydd – i’r rhai y mae angen gofal parhaus arnynt gan un o dimau deintyddol y GIG; y rhai y mae angen gofal brys arnynt; neu i’r rheini sydd ag angen deintyddol penodol ond nad ydynt am gael gofal parhaus gan y GIG. 

Rwy’n falch bod mwy na thri chwarter deintyddion y GIG ledled Cymru (78%) wedi symud i’r contract diwygio. Mae hyn yn cyfateb i 89% o gyfanswm gwerth contractau gwasanaethau deintyddol y GIG a gomisiynwyd. Mae gwerth y contractau yn bwysicach na nifer y contractau oherwydd gwerth y contractau sy’n pennu’r metrigau mewn perthynas â chleifion yn cael gafael ar ofal deintyddol o’r newydd. Mae’n dangos bod y mwyafrif llethol o bractisau bellach yn gweithio o dan yr egwyddorion diwygio deintyddol, gan ganolbwyntio ar atal ac ar driniaeth sy’n seiliedig ar anghenion. Mae’r tabl ar ddiwedd y datganiad hwn yn dangos y sefyllfa o ran dewis contractau diwygio, yn ôl bwrdd iechyd.

Bydd angen i bractisau gydbwyso’r angen am ddarpariaeth ddeintyddol frys â’r angen i weld cleifion newydd. Fodd bynnag, rydym wedi cyfrifo mai canlyniad uniongyrchol i’r broses o ddiwygio contractau yw y gallai tua 112,000 o bobl gael mynediad o’r newydd at un o ddeintyddion y GIG eleni.

Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am ddiwygio contractau.

Bwrdd iechyd

Nifer contractau’r GIG

Contractau Unedau o Weithgaredd Deintyddol

Contractau diwygio

Dewis diwygio %

Gwerth y contractau diwygio (£m)

Aneurin Bevan

79

24

55

70

80

Betsi Cadwaladr

77

19

58

75

96

Caerdydd a’r Fro

63

17

46

73

87

Cwm Taf Morgannwg

54

7

47

87

88

Hywel Dda

58

12

46

79

92

Powys

22

5

17

77

84

Bae Abertawe

60

7

53

88

99

 

413

91

322

78

89

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.