Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Pleser imi heddiw yw lansio papur trafod ar Ddiwygio Cyllid Llywodraeth Leol yng Nghymru. Mae'n dwyn ynghyd ganfyddiadau cyfres o ddarnau ymchwil sy'n archwilio’r opsiynau diwygio ar gyfer trethi lleol a'r system cyllid llywodraeth leol ehangach - system sy'n cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau hanfodol yn ein cymunedau. 

https://llyw.cymru/diwygio-cyllid-llywodraeth-leol-yng-nghymru-crynodeb-or-canfyddiadau

Yn Symud Cymru Ymlaen 2016-2021 fe wnaethom ymrwymo i wneud y dreth gyngor yn decach, i ddarparu cymorth i fusnesau bach, o fewn cyd-destun cefnogi cynaliadwyedd llywodraeth leol yn y dyfodol. Yn dilyn hynny, cychwynnwyd ar raglen weithredu fesul cam, a gyhoeddwyd yn gynnar yn 2017. Ers hynny, cyflawnwyd y gwelliannau a nodwyd ar gyfer eu cyflawni yn y tymor byr a’r tymor canolig, a hynny o ganlyniad i ymdrech a chydweithrediad sylweddol rhwng llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac amrywiaeth o sefydliadau eraill. Mae adroddiadau blynyddol wedi’u cyhoeddi am yr hyn a gyflawnwyd. 

O ran y dreth gyngor, mae ein cyflawniadau yn ystod tymor y Senedd hon yn cynnwys sicrhau nad yw pobl ifanc sy'n gadael gofal yn gorfod talu’r dreth, cael gwared ar y gosb o garchar am beidio â thalu, ei gwneud yn haws i bobl â nam meddyliol difrifol gael gostyngiadau, defnyddio protocol sy'n canolbwyntio ar y dinesydd ar i reoli’r gwaith o gasglu trethi ac ôl-ddyledion, ac annog pobl i fanteisio ar ein Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a chymorth arall â’r dreth. Rydym wedi parhau i weithredu ein Cynllun Gostyngiadau i helpu aelwydydd incwm isel i gael dau ben llinyn ynghyd, gan leihau biliau ar gyfer 285,000 o aelwydydd, gyda 220,000 yn talu dim treth gyngor o gwbl. 

Mae Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor wedi bod yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon, o ran sicrhau ei fod yn cefnogi aelwydydd sy'n agored i niwed ac incwm isel yn y ffordd decaf bosibl, ac o ran ymestyn ei gyrhaeddiad. Dyma un rheswm pam y gwnaethom gomisiynu ymchwil fanwl gan Policy in Practice i daflu goleuni ar effaith Credyd Cynhwysol ar y cynllun ac ar batrymau dyled y dreth gyngor yng Nghymru. Bydd angen inni ystyried yn ofalus a oes angen ailfeddwl yn fwy sylfaenol am y cynllun er mwyn lliniaru effaith y dewisiadau a wneir y tu allan i Gymru. Roeddwn yn falch o allu rhoi cymorth ariannol ychwanegol i awdurdodau lleol i dalu am gynnydd yn llwyth achosion Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor o ganlyniad i'r pandemig. Byddwn yn parhau i fonitro'r nifer sy'n manteisio ar y cymorth ac yn ymateb yn unol â hynny.

O ran ardrethi annomestig, rydym wedi buddsoddi symiau sylweddol o gymorth ar ffurf rhyddhad wedi'i dargedu ar gyfer busnesau bach, elusennau, y stryd fawr, y sectorau lletygarwch a hamdden a safleoedd gofal plant. Rydym wedi cynnal ymarfer ailbrisio i gynnal uniondeb y sylfaen drethi, gan gynnwys darparu amddiffyniad trosiannol i drethdalwyr. Rydym yn rhoi mesurau ar waith i fynd i'r afael ag osgoi ardrethi annomestig. Ar gyfer 2021-22, rydym hefyd yn rhewi'r lluosydd ardrethi annomestig gan sicrhau, cyn defnyddio rhyddhad, na fydd unrhyw drethdalwyr yn gweld cynnydd yn eu biliau ardrethi y flwyddyn nesaf. Rydym yn parhau i archwilio opsiynau ar gyfer cymorth pellach a hoffwn gofnodi fy niolch i lywodraeth leol am roi ein grantiau Covid-19 brys i fusnesau mewn modd mor gyflym ac effeithlon.

Cyflawnwyd ein holl uchelgeisiau tymor byr a thymor canolig o fewn cyfyngiadau'r systemau a'r fframweithiau presennol, ond rydym yn cydnabod bod syniadau eraill i'w hystyried. Felly, rydym wedi bod yn ystyried a oes modd diwygio'r system yn fwy sylfaenol dros y tymor hwy. Rydym am wneud trethi lleol yn fwy graddoledig a sicrhau eu bod yn cyd-fynd yn well â'n huchelgeisiau polisi ehangach, gan cynnal refeniw hanfodol ar gyfer gwasanaethau lleol yr un pryd. Lle y bo'n bosibl, byddwn yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael inni i fynd i'r afael â thlodi a rhannu cyfoeth yn lleol. Gyda'r nodau hyn mewn golwg, comisiynwyd amrywiaeth o ymchwil fanwl gennym i lywio ein syniadau, ac aethom ati i gynnal ein Cynhadledd Trethi Lleol rithwir gyntaf ym mis Tachwedd 2020. Bu hwn yn ddigwyddiad ymgysylltu llwyddiannus gyda llawer o’n rhanddeiliaid allweddol, a bu’n fodd inni gasglu syniadau pellach ynghylch canfyddiadau a phosibiliadau at y dyfodol.   

Mae'r papur rwyf yn ei gyhoeddi heddiw yn canolbwyntio ar ddyfodol trethi lleol, y dreth gyngor ac ardrethi annomestig, gan adlewyrchu nifer o astudiaethau ymchwil allweddol. Er enghraifft, mae ymchwil gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a Phrifysgol Sheffield yn ein helpu i ddeall effeithiau posibl ymarfer ailbrisio eiddo domestig pe bai un yn cael ei gynnal yng Nghymru. Mae'r ddau adroddiad yn cymhwyso eu modelau ystadegol eu hunain gan ddefnyddio data Cymru i ddeall sut y gallai dulliau gwahanol o ailbrisio a diwygio'r dreth gyngor effeithio ar aelwydydd a seiliau treth ardaloedd cynghorau gwahanol. Mae'r astudiaethau'n cynnig posibiliadau ar gyfer gwneud system bresennol y dreth gyngor yn fwy graddoledig. 

Mae ymchwil Prifysgol Bangor yn ystyried a allai trethi lleol fod yn seiliedig ar werth tir. Mae'n darparu arfarniad cychwynnol o dreth leol yng Nghymru yn seiliedig ar werth tir,  ac yn nodi'r gwaith pellach y byddai ei angen i brofi dull gweithredu o'r fath yn llawn. Un canfyddiad pwysig i'w ystyried yn y dyfodol yw'r buddsoddiad sydd ei angen i fodloni'r gofynion gwybodaeth manwl y gellid seilio treth o'r fath arnynt, gan gynnwys mapiau tir cynhwysfawr a mecanweithiau cadarn ar gyfer prisio. Mae gwaith Jennie Bunt o Brifysgol Caerdydd yn archwilio a allai trethi lleol fod yn seiliedig ar asesiadau o incwm fel dosbarthiad mwy graddoledig o'r baich treth lleol. Mae’r themâu a archwiliwyd yn cynnwys: a yw treth incwm leol yn cynnig cyfle i gynnwys o’r dechrau’n deg elfennau a fyddai fel arfer yn cael eu rheoli drwy ostyngiadau ac esemptiadau; y dewisiadau y byddai angen eu gwneud ynglŷn â'r hyn y mae’r gallu i dalu yn ei olygu; y risg y byddai pobl yn ffoi am resymau cyllidol, ac ansefydlogrwydd economaidd. 

Gyda'i gilydd, mae'r gyfres hon o ymchwil yn darparu dadansoddiad pwysig ac yn amlinellu'r gwaith pellach manwl y byddai ei angen i ddatblygu diwygiadau mwy radical. Mae'r canfyddiadau'n dangos maint y gwaith a fyddai'n gysylltiedig ag ailgynllunio'r system a'r trylwyredd y bydd ei angen i reoli'r risgiau er mwyn sicrhau cynaliadwyedd y ffrwd refeniw hon o £3 biliwn. Rhaid galluogi llywodraeth leol i barhau i ddarparu gwell gwasanaethau lleol i bawb: i ddarparu'r sylfaen orau i bobl yn gynnar yn eu bywydau, i helpu'r rhai sydd ei angen fwyaf, ac i fynd i'r afael â thlodi drwy greu economi ffyniannus sy’n rhoi budd teg i bawb.

Gobeithio y bydd y papur a gyhoeddir heddiw yn ysgogi'r meddwl. Rwy'n parhau i groesawu syniadau a safbwyntiau ar y gwaith hwn; yn arbennig, sut y gallai'r byd sy'n newid yn sgil Covid-19 effeithio ar ein seiliau treth lleol, ond hefyd, pa gyfleoedd ar gyfer gwell canlyniadau a allai ddod yn sgil hyn a sut y gallai dulliau gwahanol o ariannu lleol helpu i wireddu canlyniadau o'r fath.