Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 24 Ebrill 2023, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn lansio ymgynghoriad ar ddiwygio gwasanaethau offthalmig gofal sylfaenol yng Nghymru. Roedd yr ymgynghoriad, a ddaeth i ben ar 19 Mehefin, yn cynnig ehangu'r gwasanaethau a ddarperir gan ddarparwyr optometreg gofal sylfaenol, ac yn lansio telerau gwasanaeth y contract optometreg newydd.

Rwy'n gwerthfawrogi'r ymatebion a'r sylwadau a gafwyd – mae’r rhain wedi’u hystyried yn ofalus, a diolch yn fawr i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad.

Prif nod y diwygio yw helpu i leddfu'r pwysau ar wasanaethau llygaid mewn ysbytai, drwy gynyddu'r ystod o wasanaethau a ddarperir yn agosach at gartrefi pobl mewn practisau optometreg gofal sylfaenol. Mae symud rhagor o wasanaethau gofal llygaid i wasanaethau optometreg gofal sylfaenol, lle ceir gweithlu medrus sydd â’r gallu i ymateb i ddiwallu'r galw cynyddol o ran cleifion, yn ddatrysiad ymarferol a chynaliadwy.

Mae'r cynigion hyn wedi cael cefnogaeth eang a byddaf yn mynd ati i weithredu'r ymrwymiadau yn Gofal Iechyd Llygaid GIG Cymru: Dull Gweithredu ar gyfer Gwasanaethau Optometreg yn y Dyfodol drwy wneud y newidiadau angenrheidiol i'r rheoliadau.

Bydd hyn yn sicrhau gwasanaethau o ansawdd uwch a gwell canlyniadau i bobl, yn creu manteision cadarnhaol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, ac yn sefydlu dull gweithredu newydd ar gyfer darparu gwasanaethau offthalmig ar draws systemau GIG Cymru.

Mae'r newidiadau hyn yn rhan o gyfres lawer ehangach o drefniadau llywodraethu cryfach yn GIG Cymru, ynghyd â gwella ansawdd a mynediad ym maes gofal iechyd llygaid, yn unol â Cymru Iachach a'r ymrwymiadau yn ein Rhaglen Lywodraethu sy’n ymwneud â sicrhau gwell mynediad at weithwyr iechyd proffesiynol.