Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi gwneud darpariaeth i sicrhau bod teithwyr sy'n cyrraedd y Deyrnas Unedig o wledydd tramor yn gorfod hunanynysu am 14 diwrnod, er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach. Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ddydd Llun 8 Mehefin 2020.

Ar 10 Gorffennaf, diwygiodd Llywodraeth Cymru'r Rheoliadau i gyflwyno eithriadau i’r gofyniad i ynysu ar gyfer rhestr o wledydd a thiriogaethau, ac ystod gyfyngedig o bobl mewn sectorau neu gyflogaeth arbenigol a allai fod wedi'u heithrio rhag y gofyniad i ynysu neu rhag rhai o ddarpariaethau’r gofynion ynghylch gwybodaeth teithwyr.

Ers hynny, mae’r rheoliadau hyn wedi’u hadolygu’n gyson ac mae nifer o newidiadau wedi’u gwneud i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio.

Ddoe, adolygais yr asesiadau JBC diweddaraf ac rwyf wedi penderfynu y bydd ynysoedd Groeg Sanorini, Serifos a Tinos yn cael eu tynnu o'r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt. Heddiw byddaf yn gosod y rheoliadau angenrheidiol a ddaw i rym am 04:00 ddydd Mercher 9 Medi.

Gwneir diwygiad hefyd i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn ychwanegu digwyddiad chwaraeon arall at y rhestr yn Atodlen 4 y mae’r rhai sy’n cymryd rhan ynddynt yn cael eu heithrio rhag y gofynion ynysu.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.