Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud darpariaeth yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 i sicrhau bod teithwyr sy'n cyrraedd Cymru o wledydd a thiriogaethau tramor yn gorfod hunanynysu am 14 diwrnod, a darparu gwybodaeth am deithwyr, er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach. Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ar 8 Mehefin 2020.

Ar 10 Gorffennaf, diwygiodd Llywodraeth Cymru'r Rheoliadau hyn i gyflwyno eithriadau i’r gofyniad i hunanynysu ar gyfer rhestr o wledydd a thiriogaethau, ac ystod gyfyngedig o bobl mewn sectorau neu gyflogaeth arbenigol a allai fod wedi'u heithrio rhag y gofyniad i hunanynysu neu rhag rhai o ddarpariaethau’r gofynion ynghylch gwybodaeth am deithwyr.

Ers hynny, mae’r rheoliadau hyn wedi’u hadolygu’n gyson ac mae nifer o newidiadau wedi’u gwneud i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio. 

Heddiw, adolygais asesiadau diweddaraf y Gyd-ganolfan Bioddiogelwch ac rwyf wedi penderfynu y bydd Liechtenstein yn cael ei thynnu oddi ar y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio. Felly bydd rhaid i deithwyr sy’n cyrraedd o Liechtenstein hunanynysu pan fyddant yn cyrraedd Cymru. Rwyf hefyd wedi penderfynu na fydd ynys roegaidd Mykonos yn cael ei heithrio mwyach o’r esemptiad ar gyfer Gwlad Groeg, ac felly bydd yn cael ei hystyried fel tiriogaeth sydd wedi’i heithrio. Bydd yr Ynysoedd Dedwydd, Denmarc a’r Maldives yn cael eu rhoi ar y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio. Ni fydd yn ofynnol felly i deithwyr o’r gwledydd a’r tiriogaethau hyn hunanynysu pan fyddant yn cyrraedd Cymru. 

Yfory, byddaf yn gosod y rheoliadau angenrheidiol a ddaw i rym am 04:00 ddydd Sul 25 Hydref.