Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud darpariaeth yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 i sicrhau bod teithwyr sy'n cyrraedd Cymru o wledydd a thiriogaethau tramor yn gorfod hunanynysu am 10 diwrnod a darparu gwybodaeth amdanynt eu hunain fel teithwyr, er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach. Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ar 8 Mehefin 2020.

Ar 10 Gorffennaf, diwygiodd Llywodraeth Cymru'r Rheoliadau hyn i gyflwyno eithriadau i’r gofyniad hunanynysu ar gyfer rhestr o wledydd a thiriogaethau, ac ar gyfer ystod gyfyngedig o bobl mewn sectorau neu gyflogaeth arbenigol a allai fod wedi'u heithrio rhag y gofyniad i hunanynysu neu rhag rhai o ddarpariaethau’r gofynion ynghylch gwybodaeth am deithwyr.

Ers hynny, mae’r Rheoliadau hyn wedi’u hadolygu’n gyson ac mae nifer o newidiadau wedi’u gwneud i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio. Y newid mwyaf diweddar oedd dileu’r holl wledydd a thiriogaethau o’r rhestr hon ar 18 Ionawr 2021.

Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol bod gofynion ynysu cryfach wedi'u cyflwyno mewn perthynas â phobl sy'n cyrraedd Cymru o wledydd lle mae pryderon iechyd y cyhoedd wedi’u nodi mewn perthynas â throsglwyddo straeniau sy’n amrywiolynnau ar y coronafeirws.

Heddiw, adolygais asesiadau diweddaraf y Gydganolfan Bioddiogelwch ac rwyf wedi penderfynu y dylid cadw’r gofynion ynysu cryfach sy’n berthnasol i Dde Affrica, Namibia Zimbabwe, Botswana, Eswatini, Zambia, Malawi, Lesotho, Mozambique, Angola, Mauritius a Seychelles , a’u hadolygu ymhen tair wythnos arall.  Yn ogystal, oherwydd diffyg data o Weriniaeth Ddemocrataidd Congo a Gweriniaeth Unedig Tanzania a'r ffaith fod y ddwy wlad yn rhannu ffiniau â Zambia, rwyf wedi penderfynu y dylid bod yn rhagofalus ac y bydd y gwledydd hyn yn cael eu hychwanegu at y rhestr o wledydd sy'n destun gofynion ynysu cryfach.

Bydd yn ofynnol i bob teithiwr sy'n cyrraedd Cymru sydd wedi bod yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo neu Weriniaeth Unedig Tanzania yn ystod y 10 diwrnod blaenorol hunanynysu am 10 diwrnod, a dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn y byddant yn cael gadael y man ynysu. Bydd yr un gofynion ynysu hefyd yn berthnasol i bob aelod o'u haelwyd.  Bydd y gofynion ynysu cryfach hyn yn berthnasol hefyd i bobl sydd eisoes yng Nghymru sydd wedi bod yn y gwledydd hyn yn ystod y 10 diwrnod diwethaf, ac i aelodau eu haelwydydd.

Mae eithriadau newydd hefyd wedi'u cyflwyno i'r gwaharddiad ar awyrennau a llongau sy’n teithio’n uniongyrchol o wlad neu diriogaeth lle mae gofynion ynysu cryfach rhag glanio yng Nghymru. Felly caniateir iddynt gyrraedd Cymru dan yr amgylchiadau canlynol:

(1) awyren sy'n glanio er mwyn cael tanwydd neu ar gyfer gwaith cynnal a chadw os nad oes unrhyw deithwyr yn dod oddi arni nac yn mynd arni,

(2) awyren sy'n ambiwlans awyr ac yn glanio er mwyn cludo rhywun i gael triniaeth feddygol,

(3) llongau y mae’n ofynnol iddynt angori yn sgil cyfarwyddyd diogelwch o ganlyniad i ddamwain (o dan Atodlen 3A i Ddeddf Llongau Masnach 1995).

Bydd y rheoliadau angenrheidiol yn cael eu gwneud heddiw a bydd y mesurau ychwanegol sy'n berthnasol i Weriniaeth Ddemocrataidd Congo a Gweriniaeth Unedig Tanzania yn dod i rym am 04:00 ddydd Gwener 22 Ionawr 2021.