Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi gwneud darpariaeth i sicrhau bod teithwyr sy'n cyrraedd y Deyrnas Unedig o wledydd tramor yn gorfod hunanynysu am 14 diwrnod, er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach. Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ddydd Llun 8 Mehefin 2020.

Ar 10 Gorffennaf, diwygiodd Llywodraeth Cymru'r Rheoliadau i gyflwyno eithriadau i’r gofyniad i ynysu ar gyfer rhestr o wledydd a thiriogaethau, ac ystod gyfyngedig o bobl mewn sectorau neu gyflogaeth arbenigol a allai fod wedi'u heithrio rhag y gofyniad i ynysu neu rhag rhai o ddarpariaethau’r gofynion ynghylch gwybodaeth teithwyr.

Ers hynny, mae’r rheoliadau hyn wedi’u hadolygu’n gyson ac mae nifer o newidiadau wedi’u gwneud i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio.

Ddoe, adolygais asesiadau diweddaraf y Gydganolfan Bioddiogelwch ac rwyf wedi penderfynu y bydd Guadeloupe a Slofenia yn cael eu tynnu o'r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio ac y bydd Gibraltar a Gwlad Thai yn cael eu hychwanegu at y rhestr honno. Yfory, byddaf yn gosod y rheoliadau angenrheidiol a ddaw i rym am 04:00 ddydd Sadwrn 19 Medi.