Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi gwneud darpariaeth i sicrhau bod teithwyr sy'n cyrraedd y Deyrnas Unedig o wledydd tramor yn gorfod hunanynysu am 14 diwrnod, er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach. Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ar 8 Mehefin 2020.

Ar 10 Gorffennaf, diwygiodd Llywodraeth Cymru'r Rheoliadau i gyflwyno eithriadau i’r gofyniad i ynysu ar gyfer rhestr o wledydd a thiriogaethau, ac ystod gyfyngedig o bobl mewn sectorau neu gyflogaeth arbenigol a allai fod wedi'u heithrio rhag y gofyniad i ynysu neu rhag rhai o ddarpariaethau’r gofynion ynghylch gwybodaeth teithwyr.

Ers hynny, mae’r rheoliadau hyn wedi’u hadolygu’n gyson ac mae nifer o newidiadau wedi’u gwneud i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio.

Heddiw, adolygais asesiadau diweddaraf y Gydganolfan Bioddiogelwch ac rwyf wedi penderfynu y bydd yr ynysoedd Groegaidd Paros ac Antiparos, Lesvos, Santorini, Milos (gan gynnwys ynys Serifos), Tinos a Zakynthos yn cael eu hychwanegu at y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio.

Yfory, byddaf yn gosod y rheoliadau angenrheidiol a ddaw i rym am 04:00 ddydd Sadwrn 10 Hydref.