Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn darparu ar gyfer system o lefelau rhybudd yng Nghymru, fel y nodir yng nghynllun diwygiedig Llywodraeth Cymru, Cynllun Rheoli’r Coronafeirws.

Mae Cymru yn dal i fod ar Lefel Rhybudd 4, sef y cyfyngiadau mwyaf caeth. Golyga hyn na chaiff pobl yn gyffredinol ffurfio aelwydydd estynedig. Ar hyn o bryd, yr unig eithriad yw oedolion sy’n byw ar ben eu hunain neu’n byw ar ben eu hunain gyda phlant. Maen nhw’n cael ffurfio “swigen gefnogaeth” gydag un aelwyd arall.

Mae hynny wedi bod yn wir o’r dechrau yng Nghymru yn achos aelwydydd sydd angen cefnogaeth ar sail dosturiol neu gymorth gyda gofal plant.

Fodd bynnag, er mwyn osgoi unrhyw amwysedd, mae’r rheoliadau bellach yn cael eu diwygio fel y bydd aelwydydd sydd ag un neu ragor o blant o dan 1 oed yn cael ffurfio swigen gefnogaeth gydag un aelwyd arall ar gyfer unrhyw bwrpas. Bydd y newid yn dod i rym yfory, 27 Chwefror. Y nod yw sicrhau y gall rhieni newydd gael cymorth gan ffrindiau neu deulu yn ystod y flwyddyn gyntaf hanfodol honno ym mywyd baban. Bydd hyn hefyd o fudd i ddatblygiad y baban.

Yn ogystal, bydd pobl ifanc 16 neu 17 mlwydd oed sy’n byw ar ben eu hunain neu gydag eraill o’r un oed ond heb oedolyn yn yr aelwyd, yn cael ffurfio swigen gefnogaeth gydag un aelwyd arall.

Os bydd rhywun mewn swigen gefnogaeth yn datblygu symptomau neu’n profi’n bositif am y coronafeirws, rhaid i bob aelod o’r swigen hunanynysu.