Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mewn Adolygiad gan Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (yr Athro Marcus Longley) ym mis Mehefin 2012 ar Gynghorau Iechyd Cymuned, gwnaethpwyd nifer o argymhellion am welliannau i'r Cynghorau hyn yn dilyn ad-drefniant cynharach yn 2010. Yn yr adroddiad, argymhellwyd y dylai Byrddau Cynghorau Iechyd Cymuned chwarae mwy o ran wrth arwain y Cynghorau i gyflawni eu swyddogaethau mewn modd mwy effeithiol. Ers hynny mae nifer o adroddiadau eraill hefyd wedi gwneud argymhellion am y ffordd y mae Cynghorau Iechyd Cymuned yn cyflawni eu dyletswyddau.

Bu Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ddiwygiadau i Reoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) (Diwygio) 2015 (y Rheoliadau Diwygio) a Gorchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) 2015 (y Gorchymyn), i ddarparu nifer o newidiadau a fydd yn helpu, yn y tymor byr, i gyflawni nifer o'r amcanion polisi sy'n codi o'r adroddiadau amrywiol.

Cafodd yr ymgynghoriad â rhanddeiliaid ei gynnal am 8 wythnos o 10 Tachwedd 2014 tan 9 Ionawr 2015. Ystyriwyd bod cyfnod ymgynghori byrrach yn addas gan fod ymgynghoriad llawn eisoes wedi’i gynnal yn 2012 ar ôl i adroddiad Longley gael ei gyhoeddi. Daeth 30 o ymatebion i law yn dilyn yr ymgynghoriad, ac er bod tri o'r rheini wedi cyrraedd yn fuan ar ôl y dyddiad cau, cafodd y rhain hefyd eu hystyried.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, cafodd y Rheoliadau Diwygio eu newid ymhellach yn sgil rhai o'r sylwadau a ddaeth i law;

  • Ni chaiff y term "cyfarwyddwr anweithredol" ei ddefnyddio mwyach i ddisgrifio aelodau o Fwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned sydd i'w penodi gan Weinidogion Cymru drwy'r broses Penodiadau Cyhoeddus
  • Caiff y teitl "Prif Swyddog" ei gadw ond rhaid cael cydweithrediad wrth weithio ar draws Cynghorau Iechyd Cymuned ar lefel genedlaethol.
  • Caiff Gweinidogion ddim ond gyfethol aelodau i Gynghorau Iechyd Cymuned yn unol â chyngor Bwrdd y Cynghorau.

Mae tymor cadeiryddion Cynghorau Iechyd Cymuned yn eu swyddi wedi ymestyn i dair blynedd ar y mwyaf.

Caiff crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad nawr eu cyhoeddi, a fydd yn nodi'r themâu a godwyd yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad, y newidiadau dilynol i'r Rheoliadau Diwygio, ac ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad. Gallwch weld yr adroddiad cryno ar lein.

Ar ôl cyhoeddi'r adroddiad, caiff y Rheoliadau Diwygio a'r Gorchymyn eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a disgwylir iddynt ddod i rym ar 1 Ebrill 2015.