Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ymgynghorais ar gynigion i ddiwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017, fel y'u diwygiwyd, i fynd i'r afael â dau fater yn y fframwaith rheoleiddio;

  • addasu gwasanaethau llety i greu ystafelloedd gwely ychwanegol a chynyddu nifer y lleoedd cofrestredig; a
  • gwasanaethau gofal canolraddol sy'n dod i'r amlwg, a gaiff eu rhedeg gan awdurdodau lleol ac sy'n dod o dan y diffiniad o wasanaeth cartref gofal.

Rwyf yn cyflwyno rheoliadau er mwyn ei gwneud yn ofynnol, pan fydd unrhyw ddarparwr gwasanaeth llety yn addasu'i eiddo i letya 5 neu ragor o bobl, fod rhaid i unrhyw ystafell wely ychwanegol ac ardaloedd cymunedol y gwasanaeth fodloni'r safonau uwch sy'n ofynnol gan Ran 13 o Reoliadau 2017. Mae hyn yn cynnwys cyfleusterau en suite a sicrhau bod yr ystafelloedd gwely ychwanegol o faint priodol, yn ogystal â mannau cymunedol a hygyrch digonol yn yr awyr agored. Bydd hyn yn sicrhau bod gwelliannau yn parhau i gael eu gwneud i'r ystad adeiledig yng Nghymru dros amser. 

Rwyf hefyd yn cyflwyno rheoliadau i esemptio gwasanaethau gofal canolraddol a gaiff eu darparu gan awdurdodau lleol rhag gorfod cofrestru yn wasanaeth cartref gofal, ar yr amod bod y gofal a'r cymorth yn cael eu darparu gan wasanaeth cymorth cartref cofrestredig yr awdurdod lleol, bod y llety wedi'i freinio yn yr awdurdod lleol a bod y gwasanaeth wedi'i gyfyngu i 16 o wythnosau ar y tro i unrhyw un unigolyn. Bydd hyn yn cynnal dull cymesur ar gyfer rheoleiddio'r gwasanaethau hyn.   

Cyhoeddais adroddiad ar ganlyniadau'r ymgynghoriad ar 30 Hydref 2023.