Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd Symud Ymlaen i Wella Iechyd y Geg a Gwasanaethau Deintyddol yng Nghymru http://llyw.cymru/topics/health/professionals/dental/publication/information/dental-health/?skip=1&lang=cy ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2017. Mae'n rhoi trosolwg o'r prif flaenoriaethau ar gyfer deintyddiaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), ac mae diwygio contract wedi'i glustnodi fel un o'r blaenoriaethau hynny. Mae'r ddogfen yn cynnwys rhesymau manwl dros gynnal rhaglen diwygio gwasanaeth deintyddol gyffredinol.

Mae'r contract deintyddol presennol yn canolbwyntio ar drin cyflyrau ac nid yw'n ysgogi gofal sy'n seiliedig ar anghenion, atal cyflyrau na gwneud y defnydd gorau o sgiliau'r tîm deintyddol cyfan.

Mae'r hyn a ddysgwyd yn sgil cynnal cynlluniau peilot deintyddol yng Nghymru yn y gorffennol (2011-2016) a'r practisau prototeip deintyddol sy'n parhau yn cael eu defnyddio i gynllunio'r rhaglen newydd.

Mae'r rhaglen yn:

• cynnwys rhanddeiliaid deintyddol allweddol wrth symud ymlaen i ddiwygio contract deintyddol 

• casglu manylion risgiau ac anghenion iechyd y geg cleifion unigol a phoblogaeth y practis cyfan i gefnogi timau deintyddol i gyfathrebu'n effeithiol â'r cleifion hyn, a gweithio gyda hwy i gyd-lunio canlyniadau y cytunwyd arnynt

• gwella'r modd y caiff camau sy’n seiliedig ar dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio i atal cyflyrau eu rhoi ar waith

• helpu i weithredu cyfnodau ar gyfer ail-alw cleifion deintyddol, yn seiliedig ar asesu anghenion a risgiau iechyd y geg

• gwerthuso'r newidiadau mewn gweithgareddau allweddol, a dangosyddion canlyniad ac ansawdd er mwyn mynd ati i ddatblygu contractau deintyddol newydd 

• annog practisau i ddefnyddio mwy o gymysgedd o sgiliau.

Mae cynnydd mawr yn cael ei wneud i ymestyn a datblygu'r gwaith, gan ymchwilio i'r opsiynau ar gyfer diwygio’r contract deintyddol o fewn y rheoliadau presennol i wireddu ein huchelgais o wella mynediad a darparu deintyddiaeth y GIG sy'n seiliedig ar atal cyflyrau.

Mae clinigwyr sy'n cymryd rhan yn y prototeipiau diwygio contract wedi mabwysiadu dull atal cyflyrau sy'n seiliedig ar anghenion er mwyn darparu gofal. Mae gan gleifion sydd ag anghenion uwch fwy o fynediad at ofal, ac mae’r ddarpariaeth wedi cynyddu. Mae’r cleifion a'r bwrdd iechyd yn hapus â'r gofal hwn ar ei newydd wedd.  Mae'r dull hwn yn cael ei ymestyn a'r profiad yn cael ei rannu â rhagor o bractisau. Fodd bynnag, mae angen datblygu a chasglu mesurau canlyniad cadarn hefyd, er mwyn ysgogi gofal ataliol wedi'i deilwra i'r unigolyn a defnyddio'r tîm ehangach i ddarparu gofal.

Mae deall anghenion a risgiau cleifion a defnyddio'r wybodaeth hon i gynllunio gofal wedi bod yn allweddol i'r gwelliannau hyn. Mae rhannu canfyddiadau clinigol a risgiau iechyd y geg â chleifion a chymryd amser i egluro pa gamau sydd angen iddynt hwythau eu cymryd i wella a chynnal eu hiechyd wedi cael effaith fawr. Rydym wedi gweithio gyda byrddau iechyd, timau clinigol a'u cynrychiolwyr i ddatblygu dull asesu 'angen a risg'. Gall timau deintyddol ddefnyddio hwn i gyfathrebu'n well â'u cleifion a bydd yn galluogi byrddau iechyd i fesur canlyniadau.  

Mae timau clinigol wedi mynegi cryn ddiddordeb ac mae pob un o'r saith bwrdd iechyd yn cymryd rhan. O fis Ionawr eleni, bydd 23 o bractisau deintyddol (Atodiad 1) a gafodd eu dewis o blith y ceisiadau niferus a ddaeth i law yn treialu'r offeryn asesu anghenion a risg. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i gynllunio gofal, rhoi cyngor ataliol wedi'i deilwra i’r unigolyn a chytuno ar y bwlch priodol rhwng galw cleifion yn ôl â'r cleifion hynny eu hunain. Mae hefyd yn helpu i wella mynediad a gwneud defnydd o'r tîm deintyddol cyfan. Rydym yn bwriadu ymestyn y rhaglen a dulliau gweithio newydd i ragor o dimau yn ystod 2018 a gwneud gwelliannau ar raddfa fwy ym mhob cwr o Gymru.  

Nod Ffyniant i Bawb: Y Strategaeth Genedlaethol yw gwella mynediad at ein gwasanaethau iechyd a “chymryd camau mawr i newid ein ffordd o weithio, gan newid y pwyslais o drin cyflyrau i atal cyflyrau”. Mae cyfleoedd i'w cael mewn deintyddiaeth i gael mwy o effaith ar iechyd a llesiant y boblogaeth, gan gynnwys rhoi pwyslais ar flynyddoedd cynnar plentyn. Fel hyn, gallwn hefyd wireddu uchelgeisiau ehangach fel gwella mynediad at gyfleoedd.