Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu cynnydd o 4% i werthoedd contract blynyddol ar gyfer deiliaid contractau deintyddol y GIG yng Nghymru ar gyfer 2025-26. Mae hyn yn cynrychioli £9.8m miliwn yn ychwanegol mewn gwasanaethau deintyddol y GIG ar gyfer eleni, ac mae'n unol ag argymhelliad y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi'r ymgysylltiad adeiladol â chyrff proffesiynol a gafwyd drwy drafodaethau ffurfiol i bennu trefniadau contractiol ar gyfer gwasanaethau'r GIG. Fodd bynnag, eleni penderfynodd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain Cymru beidio â chymryd rhan mewn trafodaethau ffurfiol.
Rwyf wedi bwrw ymlaen â'r cynnydd o 4% i sicrhau cefnogaeth barhaus ar gyfer gwasanaethau deintyddol y GIG a gweithwyr deintyddol proffesiynol, gan fwrw ymlaen hefyd â'r diwygiadau angenrheidiol yn y cyfnod cyn gweithredu contract deintyddol newydd y GIG ym mis Ebrill 2026. Nid oedd hwn yn benderfyniad ysgafn – mae'n adlewyrchu'r amgylchiadau unigryw yr ydym wedi'u hwynebu eleni. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â chyflogwyr a'r proffesiwn. Mae'r contract gwasanaeth deintyddol cyffredinol newydd yn ganolog i'n huchelgeisiau ar gyfer gwella gofal deintyddol y GIG yng Nghymru, gan y bydd yn gweithredu fel sylfaen ar gyfer darparu gwasanaethau deintyddol hygyrch a chynaliadwy o ansawdd uchel.
Bydd y cynnydd yn berthnasol i holl ddeiliaid contract deintyddol y GIG, ac eithrio contractau orthodonteg, ac mae'n ddarostyngedig i set o amodau, sydd â'r nod o wella gofal cleifion a pharatoi ar gyfer y diwygiadau sydd i ddod:
- Rhaid i bob deiliad contract deintyddol ailadrodd yr archwiliad gwrthficrobaidd; cymharu'r canlyniadau â blynyddoedd blaenorol; a thrafod y canfyddiadau gyda'u timau i wella sut y rhagnodir gwrthfiotigau.
- Mae'n ofynnol i bractisau gynnal adolygiad strwythuredig o'u darpariaeth gofal brys, gan sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal diffiniol a nodi meysydd i'w gwella.
- Ar gyfer pob atgyfeiriad plentyn at wasanaethau deintyddol uwch, rhaid i bractisau ddarparu tystiolaeth o ddau ymgais ymgyfarwyddo o leiaf a gynhaliwyd cyn atgyfeirio, a chynnwys cofnodion manwl yn y ddogfennaeth atgyfeirio.
- Rhaid i bob practis weithredu polisi peidio â mynychu a chofnodi ac adrodd ar apwyntiadau a gollwyd, gan gymryd camau i'w lleihau.
Bydd yn ofynnol i bractisau hefyd gadarnhau cydymffurfiaeth â'r amodau hyn erbyn 30 Mehefin 2026, gan ddarparu tystiolaeth i fyrddau iechyd yn ôl y gofyn.
