Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf yn falch o gyhoeddi bod negodiadau ar gyfer contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS) 2022-23 wedi dod i ben, a bod cytundeb wedi'i wneud a fydd yn gweld newidiadau sy’n gweddnewid y contract i leihau cymhlethdod a biwrocratiaeth, gan ganolbwyntio ar y gwasanaethau hynny y gall, ac y dylai, pob practis ymarferydd cyffredinol yng Nghymru eu cyflawni. Ar yr un pryd, bydd y newidiadau rwyf yn eu cyhoeddi heddiw yn gwella mynediad i ac o’r gwasanaethau ac yn rhoi mwy o bwyslais ar ansawdd y gofal, gyda barn glinigol ac anghenion y claf yn ganolog i ddarpariaeth gwasanaeth.

Drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf a’r heriau y mae’r system wedi’u hwynebu, rydym wedi parhau â’n rhaglen ddiwygio uchelgeisiol ar gyfer pob un o'r pedwar contract gofal sylfaenol gan gynnwys y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol. Eleni, gwelwyd mandad arbennig o eang ar gyfer newid a fydd yn arwain at welliannau yn ystod y flwyddyn hon, ac am flynyddoedd i ddod.

Mae staff ar draws y sector wedi parhau i weithio’n ddiflino i ddiwallu anghenion eu cleifion, er gwaethaf yr heriau parhaus. Maent wedi bod yn hyblyg ac wedi ymateb i sefyllfa iechyd y cyhoedd sy’n newid yn gyflym, gan sicrhau eu bod ar agor ac ar gael i’r rheini sydd eu hangen fwyaf. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn parhau i wynebu heriau o ran cael mynediad i’w practis ymarferydd cyffredinol ac mae angen datrys hynny.

Wrth symud ymlaen, bydd contract newydd, symlach yn dileu unrhyw fiwrocratiaeth ddiangen ar gyfer ymarferwyr cyffredinol a’u timau yn ogystal ag atgyfnerthu’r safonau yr ydym yn disgwyl i bractisau gadw atynt wrth weithredu - gyda mynediad i gleifion yn rhan hanfodol o’r safonau hynny.

Bydd y cytundeb hwn yn buddsoddi dros £17m o’r newydd ac yn gwneud newidiadau i’r contract a fydd yn gwella gwasanaethau i gleifion, gan gydnabod unwaith yn rhagor rôl hanfodol yr ymarferwyr cyffredinol a’r holl staff mewn practisau cyffredinol wrth gyflawni’r Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol.

Mae’r pecyn o newidiadau a gytunwyd ar gyfer y flwyddyn hon ac ar gyfer y blynyddoedd ariannol i ddod, yn ystyried y gwersi allweddol a ddysgwyd yn ystod y pandemig ac mae’n gam sylweddol ymlaen yn y gwaith o gyflawni ein hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu a gweledigaeth Cymru Iachach. Yn benodol, bydd y cytundeb hwn yn cyflawni’r canlynol:

  • Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol newydd arfaethedig sydd wedi’i symleiddio i ganolbwyntio ar y gwasanaethau hynny y dylai pob practis ymarferydd cyffredinol yng Nghymru eu darparu. Nod y dull hwn yw dileu biwrocratiaeth ddiangen y trefniadau presennol a chanolbwyntio ar farn glinigol ac anghenion cleifion i fynd i’r afael â’r bylchau presennol mewn darpariaeth gwasanaeth.
  • Cynnwys safonau mynediad gofynnol yn y contract a’u gorfodi ar gyfer pob practis ymarferydd cyffredinol yng Nghymru. Bydd hyn yn sicrhau bod pob practis yn gweithredu’r safonau hynny a gyflwynwyd yn wreiddiol yn 2019, ac yn cydymffurfio’n llawn â nhw, gan sicrhau gwelliannau parhaus yn ystod y flwyddyn i ddod.
  • Trefniadau sicrwydd ansawdd cryfach drwy’r contract a’r bwriad i gyflwyno fframwaith sicrwydd sy’n gadarn ac yn gymesur. Ynghyd â gwell ansawdd data a gwell trefniadau rhannu data yn ymwneud ag apwyntiadau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, bydd hyn yn gwella dealltwriaeth yn sylweddol o’r gweithgarwch eang sydd ar y gweill yn y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol.
  • Bydd y Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd yn cael ei drawsnewid i ddarparu ffocws clir o ran Gwella Ansawdd, gydag elfennau eraill y fframwaith yn cael eu cynnwys yn y contract ac felly’n orfodol ar gyfer pob practis.
  • Nifer o ymrwymiadau Penawdau’r Telerau a fydd yn gweld cydweithio rhwng partïon a rhanddeiliaid allweddol i gymell newidiadau pellach mewn sawl maes allweddol gan gynnwys cynaliadwyedd y gweithlu, data a mynediad digidol, ac atal.  

Rwy’n ddiolchgar am y gwaith y mae ymarferwyr cyffredinol a’u timau wedi’i wneud – ac yn parhau i’w wneud – o ran darparu gwasanaethau hanfodol i bobl Cymru. Oherwydd hynny, a’r pecyn cynhwysfawr ac uchelgeisiol o newidiadau a gytunwyd, mae’r trefniadau cyllid canlynol hefyd wedi’u cytuno:

  • Codiad o 4.5% i elfen tâl ymarferwyr cyffredinol y contract, gan fodloni argymhelliad y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion ar dâl yn llawn.
  • Buddsoddiad ychwanegol o £7.5m i ariannu codiad cymesur o 4.5% i’r holl staff sy’n gweithio mewn practisau cyffredinol. Bydd hwn yn ofyniad contractiol eto eleni ac o ganlyniad bydd holl staff presennol y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn cael codiad o 4.5% i’w tâl gros.
  • Dyfarniad pellach o £2.7m i gefnogi practisau gyda’u costau busnes parhaus.

Yn ogystal â’r buddsoddiad newydd hwn, bydd y newidiadau a geisir drwy drawsnewid y Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd a’r contract newydd arfaethedig, hefyd yn gweld llawer iawn o’r gronfa bresennol yn symud i’r swm craidd, a fydd yn rhoi sicrwydd i bractisau yn ystod cyfnod o heriau ariannol.

Bydd ymrwymiadau ehangach i archwilio cynlluniau gweithlu, cynaliadwyedd a gwelliannau i wasanaethau, a’r agenda ddigidol yn sicrhau bod y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn parhau i fynd ar drywydd newid a diwygiadau positif.

Mae’r Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn rhan hanfodol o’r system gofal iechyd yng Nghymru ac yn ganolog i adferiad a thrawsnewidiad y system gyfan. Mae’r cytundeb hwn yn dangos fy mod yn gwerthfawrogi eu hymdrechion yn ogystal a’u hymrwymiad i geisio newidiadau cadarnhaol ar gyfer y proffesiwn a’r cyhoedd.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl gydweithwyr yn GPC Cymru a GIG Cymru am eu hymgysylltiad a’u hymrwymiad parhaus i’r rhaglen ddiwygio hon, gan gynnwys datblygu’r contract newydd arfaethedig o 2023. O ganlyniad i’r perthnasau cadarnhaol sydd gennym yma yng Nghymru, rydym wedi gwneud cynnydd enfawr a byddant yn ein cefnogi ni wrth inni symud i ymgynghori’n ffurfiol ar y contract newydd arfaethedig. Mae eleni wedi bod yn flwyddyn heriol arall, ac nid wyf yn amcangyfrif rhy isel yr ymdrechion gan bawb er mwyn dod i’r cytundeb hwn.