Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod y negodiadau ar y contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS) ar gyfer 2025-26 wedi’u cwblhau’n llwyddiannus. Mae’r cytundeb hwn yn arwydd o’n hymrwymiad parhaus i gefnogi meddygaeth deulu yng Nghymru a daw o ganlyniad i’r trefniadau gweithio mewn partneriaeth adeiladol rhwng Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a Phwyllgor Meddygon Teulu (GPC) Cymru.
Mae’r cytundeb eleni yn darparu cyfanswm o £41.9m o fuddsoddiad mewn meddygaeth deulu – ar ffurf £37.9m o fuddsoddiad newydd a pharhad o £4m o gyllid ar gyfer capasiti ychwanegol. Mae’r pecyn yn cynnwys:
• Cynnydd cyflog o 4% i feddygon teulu sy’n bartneriaid mewn practisau a staff practisau, yn unol ag argymhellion y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion (DDRB), gan sicrhau cydnabyddiaeth deg a chyson o’r cyfraniad hanfodol a wneir gan dim cyfan y practis. Mae cyfanswm y buddsoddiad rheolaidd hwn yn cyfateb i £15.9m.
• Cynnydd o 1.77% ar gyfer treuliau practisau, sy’n cyfateb i £2m o gyllid rheolaidd, i gefnogi practisau i reoli costau cynyddol.
• £20m o gyllid rheolaidd i helpu i sefydlogi ar unwaith a chyflawni’r mandad y cytunwyd arno ar gyfer y flwyddyn hon er mwyn bod yn barod ar gyfer cam nesaf y diwygio.
• Parhad o £4m o gyllid ar gyfer capasiti ychwanegol yn 2025-26.
Wrth edrych ymlaen, mae’r cytundeb amlflwyddyn hwn yn sicrhau cynnydd o 5.8% yn y cyllid rheolaidd ar gyfer y contract GMS o 2026-27, gan ddarparu sicrwydd ariannol i bractisau fuddsoddi mewn ehangu’r gweithlu, ailgynllunio gwasanaethau a chymorth gweinyddol. Mae hyn yn sail i’r rhaglen drawsnewid cymunedol-o’r-cychwyn, dan arweiniad Prif Swyddog Meddygol Cymru, ar gyfer darparu a datblygu rhagor o ofal a gwasanaethau mewn cymunedau lleol yn agosach at gartrefi pobl. Bydd hefyd yn sicrhau bod meddygon
teulu yn chwarae rhan ganolog i ddatblygu modelau gofal integredig. Er enghraifft, mae’r blaenoriaethau cychwynnol yn cynnwys symud y ddarpariaeth fflebotomi, sbirometreg a mân driniaethau, fel llawdriniaethau ar y croen, i leoliadau cymunedol, gan wneud gofal yn fwy hygyrch a’i ddarparu’n lleol.
Mae’r gwaith trawsnewid cymunedol-o’r-cychwyn yn nodwedd ganolog o’r cytundeb eleni. Bydd y cyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf yn galluogi meddygon teulu i gymryd rhan weithredol yn y rhaglen arloesol hon, sydd wedi’i chynllunio gyda’r bwriad o ail-lunio gwasanaethau gofal sylfaenol ar sail anghenion cymunedau lleol. Drwy gydweithio, byddwn yn datblygu modelau gwasanaeth newydd sy’n gwella mynediad a chanlyniadau, a byddwn yn sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu yn lleol lle y mae ei angen fwyaf.
Rydym wedi cytuno i gynyddu’r premiwm partneriaeth, gan gydnabod y rôl hanfodol y mae meddygon teulu sy’n bartneriaid yn ei chwarae i arwain practisau gwydn. Bydd hyn yn chwarae rhan uniongyrchol i gefnogi’r ymdrechion i gadw clinigwyr profiadol, gan olygu bod partneriaeth yn dod yn opsiwn mwy deniadol a chynaliadwy. Drwy fuddsoddi yn ein harweinwyr, bydd yn helpu i sicrhau dilyniant mewn gofal ac yn cryfhau dyfodol meddygaeth deulu ar gyfer cymunedau ledled Cymru.
Rydym yn cymryd camau pellach i gryfhau’r safonau mynediad, a fydd yn helpu pobl i gael apwyntiadau pan fydd arnynt eu hangen. Bydd gweithgor pwrpasol yn adolygu’r safonau hyn yn drwyadl, ac yn eu gwella, a bydd y gwelliannau yn dod yn weithredol o fis Ebrill 2026. Mae’r dull cydweithredol hwn yn dangos ymrwymiad clir i wneud gwasanaethau meddygon teulu yn fwy cadarn ac ymatebol i bob cymuned.
Mae trawsnewid digidol yn parhau i fod yn ganolog i’n huchelgeisiau ar gyfer moderneiddio gofal cleifion. O ddechrau 2026, bydd pobl yn gallu gweld elfennau ychwanegol o’u cofnod iechyd drwy Ap GIG Cymru. Mewn partneriaeth â GIG Cymru a GPC Cymru, bwriedir gwneud gwelliannau pellach i wasanaethau trefnu apwyntiadau a chanlyniadau profion, gan ei gwneud yn haws i bawb reoli eu hiechyd ac i ryngweithio â’u practis yn ddigidol.
Bydd practisau yn cynnal ac yn dilysu cofrestrau ar gyfer carfanau eiddilwch a chydafiacheddau cymhleth risg uchel, yn ogystal â chofrestrau iechyd cynhwysiant. Mae hyn yn sicrhau bod gofal rhagweithiol a theg yn cael ei flaenoriaethu i’r rhai sydd fwyaf mewn angen, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad i degwch a chynhwysiant mewn gofal sylfaenol.
Er mwyn gwella diogelwch cleifion a’u canlyniadau ymhellach, bydd rhagor o gwestiynau yn cael eu cyflwyno i’r Pecyn Cymorth Hunanasesiad Ymarfer Llywodraethiant Clinigol. Bydd hyn yn gwella dealltwriaeth a chysondeb mewn adolygiadau strwythuredig o feddyginiaethau, gan gefnogi practisau i ddarparu safonau uchel o ofal clinigol.
Ar gyfer gofal diabetes, rydym yn rhoi trefniadau ar waith a fydd yn golygu y bydd yn bosibl i ddata cyfanredol ar lefel practis gael eu rhannu’n awtomatig wrth i’r wyth proses gofal diabetes hanfodol gael eu cwblhau. Bydd hyn yn cefnogi mynediad teg at ofal diabetes o ansawdd uchel, gan sicrhau bod arferion gorau yn cael eu rhannu a’u rhoi ar waith ledled Cymru.
Bydd cyfres o weithgorau yn cael eu sefydlu i hyrwyddo gwelliannau parhaus ac ar gyfer y dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys gwelliannau yn y safonau mynediad, y ddarpariaeth gwasanaethau mewn canghennau a lleoliadau eilaidd, y trefniadau ar gyfer atal diabetes, amser dysgu gwarchodedig, y fformiwla ar gyfer dyrannu cyllid GMS a’r trefniadau ar gyfer meddygon fferyllol. Dylid nodi bod yr adolygiad o’r fformiwla ar gyfer dyrannu’r swm craidd yn arbennig o arwyddocaol – hwn fydd yr asesiad cynhwysfawr cyntaf ers rhagor nag 20 mlynedd. Mae’r adolygiad hwn yn gyfle nodedig i sicrhau bod cyllid yn cael ei ddosbarthu’n deg a’i fod yn adlewyrchu anghenion presennol practisau a chymunedau ledled Cymru. Mae cynnwys adolygiad o’r trefniadau ar gyfer meddygon fferyllol yn arwydd pellach o’r ymrwymiad i sicrhau bod pob agwedd ar feddygaeth deulu yn ymateb i anghenion lleol.
Bydd y gweithgorau hyn yn sicrhau bod yr holl ddiwygiadau yn cael eu seilio ar dystiolaeth, eu bod yn ymateb i amgylchiadau lleol a’u bod yn cael eu datblygu mewn partneriaeth â meddygon teulu.
Hoffwn ddiolch i bawb yn GPC Cymru a GIG Cymru am eu hymrwymiad parhaus i raglen diwygio contract sy’n ceisio cryfhau cynaliadwyedd meddygaeth deulu a sicrhau bod gwasanaethau meddygon teulu yn parhau i fod ar gael yn hwylus i bawb yng Nghymru.
