Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fy mlaenoriaeth fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yw codi lefel dyhead pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru, gan ehangu eu gorwelion a datblygu eu huchelgais fel y gallan nhw i gyd gyflawni. Mae’n rhaid inni sicrhau mai blaenoriaeth ein system addysg yw rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i blant a phobl ifanc sydd eu hangen arnynt yn y byd modern, a meithrin y nodweddion sydd eu hangen arnynt, i’w galluogi i gystadlu a llwyddo er eu lles eu hunain ac er lles Cymru.

Roeddwn yn gwbl gefnogol i Dyfodol Llwyddiannus pan gafodd y ddogfen gan yr Athro Graham Donaldson ei chyhoeddi ym mis Chwefror 2015, ac nid yw fy safbwynt wedi newid. Fodd bynnag, mae’r proffesiwn wedi dweud wrthyf eu bod yn aml yn teimlo wedi’u llethu gan bolisïau a mentrau newydd.

Fy ffocws, felly, fydd sicrhau bod y rhaglen i ddiwygio addysg yn cael ei gweithredu’n dda. Mae hyn yn cynnwys gwneud yn siŵr bod y gweithlu yn ganolog i’r datblygiadau hyn ac yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen er mwyn gallu cyflawni potensial y cwricwlwm newydd yn eu hysgolion a’u lleoliadau. Rwy’n edrych ymlaen at gael siarad â’r proffesiwn am yr agenda gyffrous hon.

Rwyf am sicrhau ein bod yn gwneud y pethau sylfaenol yn iawn, sef galluogi athrawon i gael addysgu, ac arweinwyr i gael arwain. Rwyf am weithio’n agos gyda’r proffesiwn i helpu athrawon ac ymarferwyr i fod cystal ag y gallant fod, gan godi safon yr addysgu ar yr un pryd ac, yn bwysig iawn, codi statws y proffesiwn yn gyffredinol. Heb athrawon ac ymarferwyr brwd, sy’n cael eu gwerthfawrogi ac sydd â’r sgiliau angenrheidiol, allwn ni ddim cyflawni unrhyw beth.

Rwyf hefyd am glywed llais rhieni a phlant wrth inni ddatblygu ein cwricwlwm newydd. Yn aml, mae dymuniadau’r llywodraeth a phryderon y proffesiwn yn rheoli’r drafodaeth gyhoeddus am ein system addysg, ond rwyf am glywed oddi wrth gymaint o rieni a phlant â phosibl, fel bod yr hyn y maen nhw am ei weld yn llywio fy agenda i.

Yr uchelgais a amlinellir yn Cwricwlwm i Gymru: Cwricwlwm am Oes yw gweld ysgolion a lleoliadau ledled Cymru yn defnyddio’r cwricwlwm newydd i gefnogi’r broses ddysgu ac addysgu o fis Medi 2021. Wrth inni ddatblygu ein cwricwlwm newydd a’n trefniadau asesu, ynghyd â’n camau diwygio o ran atebolrwydd, rwy’n benderfynol o barhau i roi’r lle canolog i’r plentyn a datblygu cwricwlwm eang, cytbwys, cynhwysol a heriol.

Mae seiliau cadarn eisoes wedi’u gosod ac mae ein Hysgolion Arloesi yn gwneud cynnydd o ran y camau datblygu cychwynnol. Byddwn yn parhau i ddysgu gan eraill ac i gadw’r cydbwysedd cywir rhwng gweithredu’n ddi-oed a gwneud pethau’n iawn.

Mae gwella cymhwysedd digidol mewn ysgolion yn hollbwysig. Mae’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar y trywydd iawn i fod ar gael i ysgolion a lleoliadau erbyn mis Medi, ac mae’n cael ei rannu’n ehangach ar hyn o bryd ag ysgolion ledled Cymru. Bydd y Fframwaith yn gwella cymhwysedd digidol drwy helpu i integreiddio sgiliau digidol ar draws y cwricwlwm, gan alluogi dysgwyr i gymhwyso sgiliau digidol i amrywiaeth eang o bynciau a senarios. Bydd hyn yn eu gwneud yn wybodus ac yn rhoi’r gallu iddynt ddelio â sefyllfaoedd. Nod y Fframwaith yw cwmpasu’r sgiliau a fydd yn helpu dysgwyr i ffynnu mewn byd cynyddol ddigidol.  

A heddiw, mae dros 250 o athrawon yn ymgasglu yn Llandudno i glywed am y datblygiadau diweddaraf ym maes dysgu digidol yng Nghymru a’i bwysigrwydd i athrawon a dysgwyr yn ein cynhadledd genedlaethol flynyddol. Yr Athro Graham Donaldson yw’r prif siaradwr a bydd athrawon yn dysgu mwy am y Fframwaith Cymhwysedd Digidol newydd gan Ysgolion Arloesi sydd wedi datblygu’r fframwaith drafft â chefnogaeth arbenigol.

Ynghyd ag amrywiaeth o weithgareddau ymgysylltu dros yr ychydig wythnosau nesaf, bydd y gweithdai hyn yn helpu i lywio datblygiad y fframwaith er mwyn sicrhau ei fod yn addas i’r diben erbyn mis Medi. Hoffwn ddiolch i’r ymarferwyr ac eraill sydd wedi bod yn arwain y datblygiad hwn.

Rwy’n benderfynol o gyflawni ein huchelgais i ddatblygu cwricwlwm sydd ymhlith y gorau yn y byd. Mae hon yn agenda heriol. Gwella dysgu a chodi safonau – dyna’r nod yn bôn; dydy ein plant, ein pobl ifanc a’n cenedl yn haeddu dim byd llai.