Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Nid yw Polisi Pysgodfeydd Cyffredin presennol yn gweithio – nid yw wedi darparu ffynhonnell gynaliadwy o fwyd nac o gyflogaeth; yn hytrach, mae wedi annog sefyllfa lle mae miloedd ar filoedd o’r pysgod gorau’n cael eu taflu’n ôl i’r môr yn farw neu ar fin marw tra bo pysgotwyr Cymru’n ei chael yn anodd goroesi, heb unrhyw fantais i’r amgylchedd nac i’r economi.  Dyna pam rwy’n croesawu’r ffaith bod y Comisiwn wedi cydnabod yr angen i drawsnewid y ffordd yr ydym yn rheoli pysgodfeydd.

Ar 13 Gorffennaf, cyhoeddodd y Comisiwn ei gynnig drafft i ddiwygio’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin. Er bod hwn yn gam ymlaen, hoffwn ddatgan yn glir, ar ôl ystyried y ddogfen, bod llawer o waith i’w wneud eto cyn y gellir mabwysiadu’r polisi terfynol. Fel y Dirprwy Weinidog sydd â’r cyfrifoldeb terfynol dros bysgodfeydd Cymru, rwy’n pryderu ynghylch diffyg manylder y ddogfen, a’r ffaith ei bod yn codi mwy o gwestiynau nag y mae’n eu hateb ynghylch effaith y polisi diwygiedig ar y diwydiant pysgota yng Nghymru.

Mae yma bedwar mater sydd o bwys i Gymru. Yr orfodaeth i lanio’r holl ddalfeydd, sy’n gyfystyr â gwaharddiad ar daflu pysgod yn ôl; y consesiynau pysgota masnachadwy gorfodol, pysgodfeydd bach arfordirol a datganoli penderfyniadau i’r rhanbarthau.

Rhaid rhoi diwedd ar yr arfer o daflu pysgod yn ôl i’r môr yn farw neu ar fin marw. Fodd bynnag, nid yw’r cynigion yn rhoi unrhyw fanylion ynghylch y ffordd orau o gyflawni hyn o fewn y drefn gwotâu bresennol. Rhaid imi  gael manylion pellach gan y Comisiwn cyn y gallaf roi ystyriaeth lawn i’r effaith ar y diwydiant yng Nghymru.

Bydd consesiynau pysgota masnachadwy yn fodd i drosglwyddo capasiti sydd heb ei wireddu o fewn y diwydiant heb achosi unrhyw gost i’r trethdalwyr, ac yn sicrhau bod y pysgotwyr yn elwa o reoli’r bysgodfa’n dda. I mi, felly, nid oes unrhyw broblem â’r  cynnig hwn o ran y sector pysgota diwydiannol sy’n gweithredu ymhell o’r arfordir. Ar y llaw arall, rwy’n bryderus nad oes digon o fesurau diogelu wedi’u cynnig i amddiffyn fflyd bysgota fach arfordirol fel sydd gennym ni yng Nghymru. Rwyf o’r farn na ddylai’r cynnig hwn fod yn orfodol, ac y dylai pob Aelod-wladwriaeth gael yr hawl i’w weithredu neu beidio fel y gwelant yn dda.

Mae angen cydnabod y gwahaniaethau yn natur gwahanol rannau o’r fflyd bysgota. Nid yw’n bosibl cymhwyso’r un dull gweithredu i bawb yn effeithiol. Yng Nghymru, mae fflyd y glannau yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn ein cymunedau arfordirol. Mae perygl y bydd diwygio’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn canolbwyntio ar faterion sy’n peri anhawster i’r sector cyfan heb unrhyw sensitifrwydd i natur y fflyd fach sy’n pysgota’n agos at yr arfordir. Stociau pysgod lleol, dynamig a dargedir fel arfer gan fflyd y glannau, ac nid yw’r dulliau a ddefnyddir gan y CE ar hyn o bryd i reoli stociau’r cwotâu yn addas iddynt. Wrth ystyried diwygio’r polisi, mae angen cydnabod y gwahaniaethau rhwng y sector sy’n pysgota ymhell o’r arfordir a’r fflydoedd sy’n gweithredu ger y glannau.

Cyn i’r cynigion gael eu cyhoeddi, roedd y Comisiwn wedi sôn am ddatganoli mwy o’r cyfrifoldeb dros reoli pysgodfeydd Ewrop i’r rhanbarthau. Serch hynny, ni fu fawr ddim datblygiadau i’r perwyl hwnnw hyd y gwelaf i.

Dechrau’r broses yn unig yw hyn; oherwydd y broses ‘cydbenderfynu’, bydd rhaid i Gyngor y Gweinidogion a Senedd Ewrop graffu ar y cynigion ac rwy’n disgwyl y gwneir llawer o newidiadau i’r cynigion dros y flwyddyn nesaf. Byddaf yn rhoi gwybod i’r Cynulliad am y materion allweddol wrth iddynt godi ac wrth i’r effeithiau ar ddiwydiant pysgota Cymru ddod yn fwy amlwg.