Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Ym mis Tachwedd 2025, sefydlais y Grŵp Arbenigol annibynnol ar Gydlyniant, i ymateb yn gyflym i adroddiad Ymchwiliad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd i gydlyniant cymdeithasol, gyda'r nod o nodi camau i gryfhau cydlyniant ledled Cymru. Cafodd y Grŵp y dasg o weithredu Argymhelliad 1 a 4 o Adroddiad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol 2025, 'Cyd-dynnu, nid tynnu'n groes: Rhaid i Gymru weithredu', a chwblhau eu gwaith erbyn Mawrth 2026.
Rwy'n ddiolchgar iawn i Gaynor Legall CBE am gytuno i gadeirio'r Grŵp ac am roi arweiniad i'r aelodau wrth iddynt lunio camau i'w cynnig i Lywodraeth newydd o fewn amserlen heriol. Roedd hyn yn cyflawni'r nod o weithredu'n gyflym, rhywbeth yr oedd aelodau'r Pwyllgor yn awyddus i'w weld.
Roedd y Grŵp yn tynnu ynghyd arbenigwyr o lywodraeth leol, y trydydd sector, maes plismona, academia, melinau trafod polisi cydlyniant, sefydliadau cymorth cydraddoldeb a'r rhai a oedd â phrofiad bywyd. Hoffwn ddiolch i bob un o aelodau'r Grŵp am dynnu ar eu profiad helaeth ac am dderbyn yr her a roddwyd iddynt o ddod i gonsensws.
O ystyried bod angen i'r Grŵp weithredu'n gyflym a'r angen i sicrhau bod camau a gymerir yn y dyfodol yn seiliedig ar dystiolaeth o ansawdd, cytunodd y Prif Weinidog a minnau i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ddadansoddi'r dystiolaeth a gasglwyd gan Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ac adroddiadau pellach ynghylch ymyriadau a oedd yn gysylltiedig â chydlyniant ar sail tystiolaeth. Roedd eu dadansoddiad yn hanfodol i helpu'r Grŵp i ddeall beth mae'r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym sy'n gweithio, ac argymell camau. Bydd adroddiad terfynol Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cael ei gyhoeddi yn yr haf, yn unol â'r prosesau sicrhau ansawdd arferol.
Gweithiodd y Grŵp yn gyflym i drafod a chytuno ar Egwyddorion Cydlyniant Cymunedol i Gymru, sydd wedi'u cynllunio i gefnogi ac arwain y rhai sy'n rhoi camau cydlyniant ar waith yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r sector gwirfoddol yng Nghymru. Maent hefyd yn helpu i gyfathrebu â'r cyhoedd ynghylch yr hyn yr ydym yn ei olygu wrth gydlyniant cymunedol ac yn cyfrannu at ein cyd-ddealltwriaeth o'r nod llesiant sydd gennym i greu Cymru o gymunedau cydlynus. Cyhoeddwyd yr egwyddorion a'r canllaw cysylltiedig i ymarferwyr ym mis Ionawr 2026 ac maent ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Trafododd y Grŵp Arbenigol hefyd y materion eraill a argymhellwyd gan y Pwyllgor: heriau i gydlyniant; gwell ffordd o fesur cydlyniant; a rhannu arferion gorau.
Yn dilyn cyfarfod diwethaf y Grŵp ar 19 Mawrth, mae Gaynor Legall CBE wedi ysgrifennu ataf yn nodi ei safbwyntiau a'r camau gweithredu a argymhellwyd ar y cyd y mae'r Grŵp am eu cynnig ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru.
“Mewn perthynas â phrosesau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol:
- Rhoi gwell cefnogaeth i ysgolion a gwasanaethau eraill i blant a phobl ifanc i gryfhau cydlyniant.
- Nodi ardaloedd lle mae'r risg yn uwch, a buddsoddi mewn cyrff angori cymunedol yn y lleoliadau hyn i'w galluogi i ddod â phobl at ei gilydd dros amser.
- Ymrwymo i gyllid dros sawl blwyddyn ar gyfer gweithgareddau cydlyniant, i ganiatáu i lywodraeth leol a'r sector gwirfoddol a chymunedol ddatblygu strategaethau hirdymor gyda chymunedau, a chynllunio i'r dyfodol.
- Rhoi blaenoriaeth i ymgorffori'r Egwyddorion Cydlyniant ar draws yr holl feysydd polisi perthnasol ac ymhlith sefydliadau partner ledled Cymru, gan ddefnyddio seilwaith partneriaethau sy'n bodoli megis y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Chyd-bwyllgorau Corfforaethol.
Mewn perthynas â sefydliadau a chymunedau'r sector gwirfoddol a chymunedol:
- Sicrhau bod cymdeithas sifil yn cael yr un parch fel partner sy'n gweithio i feithrin cydlyniant.
- Buddsoddi mewn safleoedd cymunedol gan ymgysylltu â chymunedau, gan gynnwys hyrwyddo hawl cymuned i brynu. Integreiddio meddylfryd carfanau ynghylch adeiladau cymunedol, safleoedd crefyddol, a hybiau.
- Ymrwymo i ddulliau tymor hirach o sicrhau cydlyniant (y tu hwnt i gynlluniau peilot tymor byr), a gaiff eu creu ar y cyd, a'u harwain gan y gymuned.
- Cydnabod gweithgareddau sy'n meithrin cydlyniant fel mesurau ataliol hanfodol i adeiladu gwydnwch lleol. Cefnogi mwy o fuddsoddi mewn dulliau ataliol o feithrin cydlyniant ar lefel cymdogaeth a lle.
- Cydnabod y rhyngwyneb rhwng seilwaith gwirfoddoli a chydlyniant cymdeithasol, a dyrannu adnoddau yn unol â hynny. Ystyried lle y byddai llai o reoleiddio ar wirfoddoli yn fuddiol, gan greu mwy o ryddid ar gyfer cyfrannu a chyfranogi anffurfiol ac ad-hoc.
Mewn perthynas â gwella ymwybyddiaeth a data:
- Sefydlu dull cenedlaethol o gofnodi profiadau o gasineb ac allgáu, sy'n ystyriol o brofiadau croestoriadol gan gynnwys cwestiwn rhywedd, y tu hwnt i ddata presennol yr heddlu.
- Datblygu dulliau ehangach o fesur cydlyniant, yn benodol yn ymwneud ag ymddiriedaeth mewn pobl a sefydliadau.
Yn ogystal â'r ymyriadau penodol hyn, mae'r Grŵp Arbenigol yn argymell y dylid trin cydlyniant fel rhywbeth sy'n agor y drws i greu Cymru lewyrchus, gyfartal a diogel, yn hytrach nag fel gweithgareddau annibynnol neu a drefnir mewn ymateb i sefyllfa. Mae hyn yn cyd-fynd yn llawn â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), yn enwedig y nod o greu Cymru o gymunedau cydlynus a'r gofyniad i ddilyn dull hirdymor, ataliol, cydweithredol ac integredig o wneud penderfyniadau. Mae'r Grŵp yn tynnu sylw at bwysigrwydd cydnabod croestoriadedd - gan nodi bod anghydraddoldeb, anfantais, a nodweddion gwarchodedig yn elfennau sy'n gorgyffwrdd mewn bywydau go iawn. Dylid gwneud gwaith pellach hefyd i ddeall ac ymateb i ryngwyneb eithafiaeth, cydlyniant a misogynedd. Rhaid i bolisïau sydd â'r bwriad o sicrhau camau pwrpasol i feithrin cysylltiadau da, lleihau niwed a chryfhau ymdeimlad o berthyn adlewyrchu hyn. Dylai'r gwaith fod yn seiliedig ar gyfranogiad ystyrlon cymunedau, gan gydnabod profiadau ddoe a heddiw yn fath cyfreithlon a gwerthfawr o dystiolaeth, ochr yn ochr ag ymchwil academaidd, a data gweinyddol.
Mae'r Grŵp yn galw ar y Llywodraeth i weithio gyda chymunedau mewn ffordd fwy agored, ymarferol a hyderus, yn enwedig yn ystod cyfnodau o densiwn. Mae hyn yn cynnwys gwella sut mae'r Llywodraeth yn gofalu nad oes bylchau gwybodaeth, ac yn meithrin ymddiriedaeth. Mae'r Grŵp yn teimlo y gallai Llywodraeth Cymru wneud gwell defnydd o'r casgliadau data, y gudd-wybodaeth leol a'r data monitro sydd eisoes yn bodoli ar draws gwasanaethau cyhoeddus a llywodraethau lleol, yn hytrach nag ymgynghori dro ar ôl tro â'r un cymunedau. Drwy ddefnyddio'r hyn sydd eisoes yn hysbys mewn ffordd fwy deallus, gallwn weithredu'n gynharach, lleihau dyblygu, a helpu i osgoi syrffed ar ymgyngoriadau. Mae'r Grŵp yn rhoi pwyslais cryf ar ddeall y cysylltiadau rhwng niwed ar-lein a thensiynau all-lein, gan gynnwys yr angen i fynd i'r afael â pholareiddio ar-lein, camwybodaeth, twyllwybodaeth a drwgwybodaeth fel rhan o waith cydlyniant. Yn olaf, mae'r Grŵp yn tynnu sylw at bwysigrwydd bod yn barod i brofi dulliau newydd yn ogystal â bod yn barod i fethu, dysgu o'r hyn nad yw'n gweithio, ac addasu, er mwyn gwella canlyniadau hirdymor ar gyfer cenedlaethau heddiw ac yfory.”
Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb ar y cyd i greu Cymru fwy cydlynus, nid dim ond am ein bod wedi deddfu i'r diben hwn a'i wneud yn nod llesiant hirdymor i Gymru, ond am ei fod yn bwysig i brofiad bob dydd pobl a chymunedau ledled Cymru.
Mae cydlyniant yn bwysig gan mai dyma yw'r sylfaen ar gyfer byw yn fodlon gyda'n gilydd mewn cymdeithasau diogel, cynhwysol, lle gall unigolion ffynnu a lle mae cynnydd ar y cyd yn bosibl. Mae'n destun balchder i mi ein bod, dros dymor y Senedd hon, wedi buddsoddi yn Rhaglen Cydlyniant Cymunedol Cymru gyfan ac wedi cynyddu’r cyllid i ymateb i’r anghenion cynyddol yn ein cymunedau. Rydym wedi gosod sylfeini cadarn ar gyfer cryfhau cydlyniant cymdeithasol yng Nghymru, gan weithio'n agos gyda'n partneriaid yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Rydym wedi buddsoddi mewn mentrau cenedlaethol a lleol sy’n lleihau casineb, rhagfarn a thensiynau cymunedol. Bydd angen i unrhyw ddull o gryfhau cydlyniant cymdeithasol ledled Cymru fanteisio i'r eithaf ar fewnwelediad, adnoddau a phrofiad pob partner. Mae gwaith y Pwyllgor, a nawr gwaith y Grŵp Arbenigol ar Gydlyniant Cymdeithasol, yn amlinellu ffordd glir ymlaen i Lywodraeth nesaf Cymru ei hystyried.
