Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bwriad i ymuno â bloc masnach y CPTPP. Nid yw hynny’n ymrwymo'r DU i ymuno â'r bartneriaeth ond mae'n dechrau'r broses o ddod yn aelod ffurfiol ohoni. Bydd llofnodwyr eraill y Cytuniad Partneriaeth yn mynd ati bellach i  ystyried a ydynt yn fodlon bwrw ymlaen. Os ydynt, bydd gweithgor yn cael ei sefydlu ymhen rhyw 2 neu 3 mis. Yna, ymhen 30 diwrnod i'r gweithgor cyntaf, bydd yn rhaid i'r DU gyflwyno dogfennau pwysig am yr hyn y bydd yn ei chynnig o ran masnach.

Mae’r CPTPP yn cynnwys 11 o wledydd y Môr Tawel (Canada, Mecsico, Periw, Chile, Seland Newydd, Awstralia, Brunei, Singapôr, Maleisia, Fiet-nam a Japan) ac mae'n cyfrif am ryw 13% o gynnyrch domestig gros y byd. O ran masnach Cymru, mae rhyw 6.2% o’r nwyddau a allforir, a 9.1% o’r nwyddau a fewnforir, yn dod o dan y grŵp hwn. Mae hynny’n cymharu â ffigur o ryw 58.5% ar gyfer nwyddau a allforir o Gymru i'r UE.

Roedd yr Unol Daleithiau (UDA) yn rhan o'r trafodaethau gwreiddiol ond o dan weinyddiaeth Trump, penderfynodd beidio â chadarnhau'r Cytuniad ac ymuno â'r Bartneriaeth. Bu dyfalu y gallai gweinyddiaeth newydd yr Arlywydd Biden ailedrych ar hyn. Mae ffordd sylfaenol y bartneriaeth o ymdrin â rhai materion yn debycach i ffordd yr Unol Daleithiau na ffordd yr UE, er enghraifft, mae'n rhoi cryn bwyslais ar ddefnyddio'r dystiolaeth wyddonol sydd ar gael wrth asesu risg, yn hytrach na mabwysiadu'r egwyddor ragofalus a ffefrir gan yr UE.

Gan fod y CPTPP yn gytundeb masnach sy'n bodoli eisoes, ni fyddai'r trafodaethau'n dechrau gyda dalen lân: byddai gofyn i'r DU, i bob pwrpas, ymuno ar y telerau presennol. O’r herwydd, er bod modd ceisio cael esemptiadau ar gyfer meysydd sensitif drwy lythyrau ochr a throednodiadau, mae'n debyg y byddai'r cytundeb, i raddau helaeth, yn aros fel y mae.

Rydym yn parhau i ddadansoddi'r cytundeb a’r goblygiadau posibl i Gymru os ymunir â’r bartneriaeth. Mae'n hanfodol ein bod yn ystyried y cytundeb yn ofalus, nid yn unig o ran yr effeithiau economaidd posibl, ond hefyd o ran ar yr effeithiau y gallai eu cael ar, er enghraifft, ein gallu i ddeddfu, ein safonau uchel o ran llafur, iechyd a lles anifeiliaid, ein safonau amgylcheddol uchel a'n GIG.

Er bod ymgynghoriad wedi’i gynnal yn 2018, ychydig iawn o drafod cyhoeddus a fu ar y cytundeb masnach hwn ers hynny, ac rwyf am sicrhau’r aelodau y byddaf yn ymgysylltu’n agos â'n rhanddeiliaid drwy'r Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach a thrwy Fforymau eraill Llywodraeth Cymru, er mwyn helpu i lywio’n hymateb i Lywodraeth y DU.