Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae'n gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, fel sydd wedi'i hamlinellu yn ein fframwaith strategol 'Gweithio gyda’n gilydd dros Gymru: Fframwaith Strategol ar gyfer y Gweithlu Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru’ yn seiliedig ar ymddiriedaeth, lle caiff pob aelod o staff eu grymuso i fod yn arweinwyr a dylanwadu ar y ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio.<?xml:namespace prefix = o ns = "urn:schemas-microsoft-com:office:office" />

 

Gan adeiladu ar y weledigaeth hon, heddiw cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddogfen ymgynghori “Cefnogi Gweithlu’r Gwasanaethau Cyhoeddus drwy Arweiniad ar y Cyd a Deddfwriaeth: Ymgynghoriad ynghylch Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Gweithlu) (Cymru) Drafft".

 

Mae'r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar roi awdurdod penodol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ar faterion gweithlu.

 

Rhagwelir y caiff y pŵer statudol hwn i gyhoeddi canllawiau ei ddefnyddio yn benodol i gefnogi trefniadau sy'n cael eu llunio gan Gyngor Partneriaeth y Gweithlu. Gallai cytundebau o'r fath ymdrin â nodi arfer gorau ar faterion gweithlu, galluogi cydweithredu llwyddiannus ac integreiddio gwasanaethau neu ynghylch materion gweithlu sydd, yn eu tro, yn arwain at wasanaethau cyhoeddus gwell.

 

Wrth ystyried pwysigrwydd arweiniad ar y cyd ar faterion gweithlu a'r defnydd posibl o'r pŵer y darperir ar ei gyfer drwy'r Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Gweithlu) (Cymru) Drafft, mae'r ymgynghoriad hefyd yn ceisio safbwyntiau ar opsiynau ar gyfer atgyfnerthu rôl Cyngor Partneriaeth y Gweithlu. Yn benodol, mae'n ceisio safbwyntiau ar ddiwygio'r Cynllun Llywodraeth Leol statudol i gefnogi gweithwyr sector cyhoeddus i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â'r undebau llafur a chydnabod rôl Cyngor Partneriaeth y Gweithlu o ran dod i gytundeb ar faterion gweithlu gwasanaethau cyhoeddus.

 

Mae modd gweld y ddogfen ymgynghori yn:

 

http://wales.gov.uk/consultations/improving/supporting-public-service-workforce/?lang=cy

 

 

Rwy'n edrych ymlaen at ddarllen yr ymatebion i'r ymgynghoriad, ac mae'n rhaid anfon y rhain erbyn 21 Chwefror 2014.