Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n cyhoeddi’r ymgynghoriad ‘Datganoli Trethi yng Nghymru – Ei gwneud yn bosibl cyflwyno newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru’. Rwy’n ceisio barn ar roi pwerau gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gwneud newidiadau, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, i “Ddeddfau Trethi Cymru” ar fyr rybudd ac mewn amrywiol amgylchiadau.  

Roedd datganoli trethi yn foment hanesyddol yn hanes gwleidyddol Cymru. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ar y cyd ag Awdurdod Cyllid Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ein trethi Cymreig, trethi sy’n adlewyrchu ein hamgylchiadau neilltuol ein hunain, yn llwyddiannus. Mae cyfraniad gwerthfawr ystod eang o randdeiliaid a sefydliadau wedi chwarae rhan hynod bwysig wrth i ddwy dreth ddatganoledig – y dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi – gael eu cyflwyno ac i sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru.

Rhaid inni yn awr ystyried a ydy’r dulliau cywir a phriodol ar gael inni er mwyn sicrhau y gallwn newid “Deddfau Trethi Cymru” ar fyr rybudd yn yr amgylchiadau canlynol:

  1. i atal achosion o osgoi neu efadu’r trethi datganoledig Cymreig
  2. i gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol  
  3. mewn sefyllfaoedd lle ceir angen eithriadol, fel mewn ymateb i benderfyniad tribiwnlys neu lys uwch, neu fel ymateb i argyfyngau cenedlaethol fel COVID-19  
  4. mewn amgylchiadau penodol lle yr ystyria Gweinidogion Cymru ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny. Yn benodol, fel ymateb i newidiadau i bolisi trethi a wneir gan Lywodraeth y DU i drethi ‘rhagflaenol’ (hynny yw, i dreth y mae gennym dreth ddatganoledig gyfatebol iddi).

Yn awr, yn fwy nag erioed, mae angen inni ddiogelu’r refeniw sydd ar gael inni ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Ar hyn o bryd, bob tro y ceir cylch cyllideb y DU ceir risg y caiff newidiadau eu gwneud sy’n effeithio ar dreth ddatganoledig. Gallai newidiadau o’r fath gael goblygiadau ar fusnesau, y farchnad eiddo ac effaith gyllidebol uniongyrchol ar adnoddau. Gallai hyn fod yn fwy tebygol yn awr wrth i’r mesurau adfer ddechrau cael eu gweithredu.

Drwy gyflwyno cyfraddau treth incwm Cymru ar 6 Ebrill 2019, mae tua £5 biliwn o wariant yng Nghymru yn awr yn cael ei ariannu drwy drethiant datganoledig a lleol – y dreth trafodiadau tir, y dreth gwarediadau tirlenwi, cyfraddau treth incwm Cymru, y dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Mae’r ddwy dreth ddatganoledig eisoes wedi cynhyrchu mwy na £500 miliwn yn ystod eu dwy flynedd gyntaf, refeniw sy’n ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn uniongyrchol.

Mae fy egwyddorion ar gyfer y trethi Cymreig yn sefydledig. Rwy’n bwriadu datblygu trethi sy’n deg i fusnesau a’r unigolion sy’n eu talu. Bydd y trethi hynny yn syml, a chanddynt reolau clir, ac yn ceisio lleihau’r gost sydd ynghlwm wrth gydymffurfio a gweinyddu; byddant yn cefnogi twf a swyddi, ac o ganlyniad yn helpu i drechu tlodi; a byddant yn rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i drethdalwyr. Y nod yn y pen draw yw defnyddio trethiant fel ysgogiad i helpu i gyflawni amcanion polisi a chynhyrchu refeniw i ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae ein trigolion yn dibynnu arnynt, gan helpu i greu gwlad rydym.   

Rwy’n benderfynol o sicrhau bod gennym y dulliau priodol ar waith ar gyfer ein trethi datganoledig. Un o brif nodau’r ddeddfwriaeth yw gallu ymateb i Gyllideb y DU mewn modd amserol, cymesur a hyblyg er mwyn diogelu refeniw Cymru. Hoffwn glywed eich barn ac edrychaf ymlaen at dderbyn eich ymatebion i’r ddogfen ymgynghori, sydd i’w gweld drwy’r ddolen ganlynol i’r wefan:

Ei gwneud yn bosibl cyflwyno newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru

Bydd y ddogfen ymgynghori ar gael am gyfnod estynedig tan 15 Hydref er mwyn caniatáu ar gyfer ei chyhoeddi dros gyfnod yr haf.