Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Grant Cymorth Tai (HSG) yn dod â thri grant sydd eisoes yn bodoli ynghyd, sef Cefnogi Pobl, elfennau o’r Grant Atal Digartrefedd a chyllid gorfodi Rhentu Doeth Cymru. Mae’r HSG yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau weithredu ymateb system gyfan wrth ymdrin â digartrefedd, ymateb sy’n canolbwyntio ar yr hyn sy’n achosi digartrefedd yn ogystal â’r diffiniadau statudol o ddigartrefedd. Bydd hyn yn hwyluso ymyriadau ar yr adegau cynharaf posibl, gan y gwyddom mai’r ymyriadau cynharaf yw’r rhai mwyaf effeithiol a chost-effeithiol..

Fel y nodwyd gennyf fis diwethaf, dull cynllunio strategol unigol sy’n sail i’r HSG, sy’n ychwanegu at ddyletswydd bresennol yr awdurdodau lleol i gynhyrchu Strategaeth Ddigartrefedd. Mae cael un dull cynllunio strategol a'r ffrwd ariannu hon yn rhoi cyfle inni sicrhau bod adnoddau'n cael eu targedu'n effeithiol i gael yr effaith fwyaf a chefnogi’r arfer gorau a gwneud penderfyniadau da.

Rydym wedi cydnabod ers tro nad oedd y modd yr oedd y Grant Cefnogi Pobl yn cael ei ddosbarthu o’r blaen yn adlewyrchu’r angen yn lleol. Tynnwyd sylw at y mater hwnnw am y tro cyntaf gan Aylward yn 2010, yna fe'i nodwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru yn ei adroddiad yn 2017 lle argymhellwyd y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu fformiwla ariannu newydd i ailddosbarthu cyllid mewn ffordd sy'n adlewyrchu amcanion strategol. Gwnaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus argymhellion pellach yn y maes hwn, a gafodd eu derbyn gan Lywodraeth Cymru yn 2018.

Roedd sefydlu'r grant cyfunol newydd, y mae elfennau ohono'n cael eu dosbarthu mewn ffyrdd gwahanol, felly'n gyfle gwych inni feddwl eto am ddull dosbarthu’r cyllid.

O ystyried cymhlethdod y maes hwn, comisiynwyd gwaith ymchwil, ynghyd â rhaglen helaeth i drafod â rhanddeiliaid. Comisiynwyd dau ddarn o waith ymchwil a oedd yn edrych ar ddau fater allweddol; y modd y mae’r cyllid yn cael ei ddosbarthu’n gyffredinol a’r amrywiaeth o ffyrdd y mae’r cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi unigolion ag anableddau dysgu ledled Cymru.

Heddiw rwyf wedi cyhoeddi canlyniadau'r ddau ddarn hynny o ymchwil, sef “Grant Cymorth Tai: datblygiad fformiwla ariannu" https://llyw.cymru/grant-cymorth-tai-datblygiad-fformiwla-ariannu a “Deall cyllid awdurdodau lleol ar gyfer cymorth llety anableddau dysgu ledled Cymru” https://llyw.cymru/deall-cyllid-awdurdodau-lleol-ar-gyfer-cymorth-llety-anableddau-dysgu-ledled-cymru . Mae'r datganiad hwn yn nodi'r camau nesaf yr wyf wedi cytuno arnynt mewn ymateb i'r dystiolaeth a'r argymhellion a nodir yn yr adroddiadau a'r cyngor perthnasol.

Rwy'n ddiolchgar i Cadenza am y gwaith y maent wedi'i wneud wrth baratoi'r adroddiad ymchwil ar anableddau dysgu. Yr wyf hefyd yn ddiolchgar iawn i Alma Economics ac i'r rhanddeiliaid y mae nhw â’u swyddogion wedi ymwneud yn helaeth â hwy wrth ddatblygu cynigion ar gyfer fformiwla ddosbarthu newydd ar gyfer yr HSG.

Rwyf wedi ystyried canfyddiadau'r ymchwil a'r adborth a gafwyd yn sgil y trafodaethau â'r rhanddeiliaid yn ofalus iawn. Yr wyf wedi cadw mewn cof bod angen ystyried y ddau yn y cyd-destun yr ydym yn gweithredu ynddo ar hyn o bryd.

Mewn perthynas â'r gwaith ar anableddau dysgu, rwy'n cydnabod bod gwahanol awdurdodau lleol yn cymryd agwedd wahanol iawn tuag at ariannu gwasanaethau ar gyfer y grŵp hwn sy'n agored i niwed. Yr wyf hefyd yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol y cymorth a ddarperir waeth sut y caiff ei ariannu. Mae'r dystiolaeth yn dangos cymhlethdod y maes cymorth hwn a'r gydberthynas rhwng y gwaith o ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol. Mae'n amlwg imi fod yn rhaid inni warchod darpariaeth ar gyfer y grŵp hwn a bod y cyllid yn dod o fewn HSG.

Fodd bynnag, mae'n amlwg bod angen symud tuag at ddull mwy cyson o gomisiynu gwasanaethau anableddau dysgu. I gefnogi’r gwaith hwn, rwyf wedi gofyn i swyddogion ddarparu diffiniadau cliriach o gymorth a gofal tai er mwyn llywio canllawiau ar yr hyn y dylid ei ariannu drwy'r HSG.

Byddaf hefyd yn gofyn i bob awdurdod lleol gynnal adolygiad o'i ddarpariaeth cymorth tai i'r rhai ag anableddau dysgu, gyda'r bwriad o nodi a yw'r cymorth hwnnw'n cyd-fynd â chanllawiau newydd HSG. Bydd swyddogion yn cydweithio ag awdurdodau lleol sy'n cynnal yr adolygiadau hyn ac rwy'n disgwyl iddynt arwain at adroddiad i Lywodraeth Cymru a chynllun gweithredu i fynd i'r afael ag unrhyw faterion a nodwyd.

Wrth ystyried yr adroddiad ar ddosbarthu, cefais fy nharo gan ba mor arwyddocaol fyddai'r effaith ar ddyraniadau i gyllidebau rhai awdurdodau lleol pe baem yn gweithredu'r fformiwla fel y nodwyd yn adroddiad Alma Economics, hyd yn oed pe baem yn darparu ar gyfer cyfnod pontio hir iawn.

Cydnabyddir y rhesymeg o symud i fformiwla decach sy'n seiliedig ar angen; mae'n amlwg bod diffyg cysylltiad rhwng y modd o ddosbarthu’r grant a’r anghenion ledled Cymru. Fodd bynnag, mae'r un mor amlwg bod yr arian fel y'i dosberthir ar hyn o bryd yn cael ei ddefnyddio'n llawn ym mhob cwr o Gymru er mwyn fynd i'r afael ag anghenion gwirioneddol a darparu gwasanaethau cymorth mawr eu hangen i bobl sy’n agored i niwed.

Ar adeg pan ydym yn canolbwyntio ar y cyd ar newid ffocws ein polisi i atal digartrefedd yn wirioneddol ac mor gynnar ag y bo modd, ac i ddulliau ailgartrefu cyflym sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, rwy'n credu y byddai risgiau sylweddol wrth symud ymlaen â'r cynigion ailddosbarthu. Rwyf hefyd yn ymwybodol, ar ôl gallu sicrhau'r setliad llywodraeth leol gorau a gawsom ers cryn amser, y gall fod perygl y gallai diben y setliad gael ei danseilio os byddwn yn ymdrin â'r her o ddosbarthu HSG ar wahân.

Yn y bôn, ni allaf gyfiawnhau'r effaith bosibl ar wasanaethau yng nghyd-destun pwysau cynyddol ar wasanaethau digartrefedd ledled Cymru, ac yn enwedig cynnydd difrifol mewn rhai ardaloedd.

Nid oes modd cyfiawnhau cam o'r fath ar hyn o bryd, ac felly yr wyf yn gwneud yn glir heddiw na fydd unrhyw newid i’r modd y mae HSG yn cael ei ddosbarthu yn ystod tymor y Cynulliad hwn (h.y. dim newid ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21 neu 2021-22).

Wedi dweud hynny, ni allwn anwybyddu'r diffyg cysylltiad rhwng dosbarthiad ac angen yn y tymor hwy, ond mae angen i unrhyw newid gael ei lywio hefyd gan ganlyniad y gwaith a nodir uchod mewn perthynas â chymorth i unigolion ag anableddau dysgu ac adolygiad o'r  prosiectau atal digartrefedd hynny sy'n cael eu hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Bydd y gwaith hwn yn parhau dros y flwyddyn sydd i ddod, yn ogystal â'r cydweithio agos â'r holl randdeiliaid. Byddwn yn ymgynghori'n ffurfiol ar yr opsiynau sydd ar gael inni,  pan fydd y sail dystiolaeth ehangach gennym.