Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Awst 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod heddiw yn cyhoeddi drafft o Fil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru). 

Mae Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) yn ei gwneud yn drosedd gweithredu stadiwm neu leoliad tebyg yng Nghymru a'i ddefnyddio, neu dan wybod ganiatáu iddo gael ei ddefnyddio, i ‘rasio milgwn’. Mae'r Bil hefyd yn ei gwneud yn drosedd cymryd rhan mewn trefnu rasio milgwn yng Nghymru. Diffinnir 'rasio milgwn' fel 'cymell milgwn i redeg o amgylch trac ar ôl llith sydd wedi ei actifadu’n fecanyddol (ac mae hyn yn cynnwys amseru neu hyfforddi milgi wrth iddo redeg o amgylch trac'. Mae'r Bil drafft ar gael yn y ddolen ganlynol: https://www.llyw.cymru/deddf-gwahardd-rasio-milgwn-cymru

Nod cyhoeddi drafft o'r Bil heddiw yw rhoi cyfle i Aelodau'r Senedd a rhanddeiliaid sydd â diddordeb weld cwmpas a chyfeiriad arfaethedig y Bil cyn iddo gael ei gyflwyno'n ffurfiol yn yr hydref. Mae’r Bil dal yn amodol ar benderfyniad y Llywydd ac felly nid yw'n cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghori pellach ar hyn o bryd. Mae'r gwaith o baratoi'r Bil yn parhau, ac mae'n debygol y bydd newidiadau cyn iddo gael ei gyflwyno i'r Senedd. Felly nid dyma'r fersiwn derfynol.

Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau'r Senedd ar ddarpariaethau'r Bil yn ystod y broses graffu ar ôl i'r Bil gael ei gyflwyno yn yr hydref.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.