Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau Lesley Griffiths

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Awst 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Pasiwyd Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 (“y Mesur”) gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 8 Gorffennaf 2009, gan dderbyn Cymeradwyaeth Frenhinol ar 15 Hydref 2009. Pwrpas y Mesur yw ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu annog disgyblion ysgolion a gynhelir yng Nghymru i fwyta’n iach ac i yfed diodydd iach. Mae’n darparu ar gyfer rheoleiddio pa fwydydd a diodydd a gynigir yn yr ysgolion hynny.


Rhwng 31 Ionawr a 25 Ebrill 2013, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar-lein ar y drafft o’r Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru). Fel rhan o’r ymgynghoriad, cafodd fersiwn ar gyfer plant a phobl Ifanc ei chyhoeddi hefyd. Roedd yr ymgynghoriad yn gyfle i randdeiliaid roi eu sylwadau am y Rheoliadau drafft ac felly dylanwadu arnynt. Daeth cyfanswm o 936 o ymatebion i law, gydag 85 o ymatebwyr yn cwblhau’r ffurflen ymgynghori a gyhoeddwyd ar gyfer oedolion, ac 851 yn cwblhau’r ffurflen ymgynghori a gyhoeddwyd ar gyfer plant a phobl ifanc.

Gofynnais i fy swyddogion wneud dadansoddiad trylwyr o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, gan fy mod yn awyddus i sicrhau bod yr holl sylwadau’n cael eu hystyried yn llawn. Mae mwyafrif yr ymatebwyr sy’n oedolion yn cefnogi’r rhan fwyaf o’r Rheoliadau drafft; ond roedd mwy o wahaniaeth barn ymhlith yr ymatebwyr a gwblhaodd y ffurflen ar gyfer plant a phobl ifanc. Cyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion ochr yn ochr â’r datganiad ysgrifenedig hwn.

Bwriedir i’r Rheoliadau ddod i rym, mewn perthynas â phob lleoliad a gynhelir, ym mis Medi 2013.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn i’r aelodau  gael yr wybodaeth ddiweddaraf. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.

Ar hyn o bryd, mae fy swyddogion wrthi’n ystyried yr ymatebion a ddaeth i law, a maes o law byddaf yn cyhoeddi Datganiad pellach gan y Gweinidog a fydd yn nodi unrhyw ddiwygiadau i’r Rheoliadau drafft.