Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n cyhoeddi’r ddogfen etifeddiaeth grŵp gorchwyl a gorffen ar y Dull Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Eiriolaeth Statudol (Dull Cenedlaethol). Mae hon yn amlinellu'r gwaith rydym wedi’i wneud ers 2015 i wella gwasanaethau eiriolaeth i rai o’n plant a phobl ifanc fwyaf agored i niwed. Rydym wedi ymrwymo i wella mynediad at wasanaethau eiriolaeth.

Mae'r ddogfen hon a manylion elfennau craidd y Dull Cenedlaethol i’w cael ar-lein yn https://llyw.cymru/grwp-gorchwyl-gorffen-ggag-dull-cenedlaethol-o-eiriolaeth-statudol-ar-gyfer-plant-phobl-ifanc

Fel rhan o'r Dull Cenedlaethol, a'r cynnig ehangach o gymorth eiriolaeth, rydym wedi sefydlu 'cynnig gweithredol' o eiriolaeth i blant a phobl ifanc sy’n seiliedig ar ganllawiau statudol a rheoliadau.

Mae hwn yn rhoi hawl glir i gynnig o eiriolaeth gan Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol statudol. Mae'r hawl hon yn berthnasol pan fydd plant yn dechrau derbyn gofal neu'n dod yn destun ymholiadau amddiffyn plant sy'n arwain at Gynhadledd Amddiffyn Plant Gychwynnol.

Mae’r Dull Cenedlaethol hefyd yn sicrhau bod dull cyson a wedi’i gydlynu at wasanaethau eiriolaeth ar gael ar draws y chwe rhanbarth yng Nghymru, drwy fanyleb gwasanaeth cyffredin a thempled adrodd ar berfformiad. Mae hyn yn darparu ar gyfer casglu ac adrodd am dystiolaeth feintiol ac ansoddol yn gyson yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Rwyf wedi bod o’r farn ers cryn amser bellach fod eiriolaeth yn ffordd hanfodol o ddiogelu hawliau plant a phobl ifanc a sicrhau bod eu barn, eu dymuniadau a'u teimladau yn cael eu clywed, eu parchu a’u cymryd o ddifri.

Gall eiriolaeth dda gael effaith ddirfawr ar fywydau plant a phobl ifanc.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod cyfraniad sylweddol pawb sy'n ymwneud â'r gwaith hwn hyd yma, a’r cyfraniad y byddant yn parhau i'w wneud hefyd i fywydau plant a phobl ifanc.